Neidio i'r prif gynnwy

Data a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n dangos amcangyfrifon o allbwn economaidd ar gyfer 2021.

Cynnyrch domestig gros (GDP)

Yn 2021, amcangyfrifwyd mai cyfanswm GDP yng Nghymru oedd £79.7 biliwn, mewn prisiau cyfredol. Cynyddodd GDP yng Nghymru 9.1% rhwng 2020 a 2021 mewn mesurau cyfaint cadwynog, yn dilyn gostyngiad o 11.5% yn 2020.

Yn 2021, amcangyfrifwyd fod GDP ar gyfer y DU wedi cynyddu 7.5% yn dilyn gostyngiad o 11.0% yn 2020.

Nododd holl wledydd a rhanbarthau'r DU dwf negyddol yn 2020 oherwydd effaith economaidd eang pandemig y coronafeirws (COVID-19), ac yna adferiad rhannol yn 2021.

O bedair gwlad y DU, Cymru welodd y cynnydd mwyaf mewn GDP real o 9.1% rhwng 2020 a 2021. Dangosodd yr Alban y gostyngiad mwyaf mewn GDP yn 2020 (gostyngiad o 11.8%) ac yna'r cynnydd lleiaf yn 2021 sef 7.5%.

£25,665 oedd GDP y pen yng Nghymru yn 2021.

Gwerth ychwanegol gros (cytbwys)

Cyfanswm GYG Cymru yn 2021 oedd £69.5 biliwn, i fyny 7.5% ers 2020 a chynnydd o 2.3% ers 2019. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o 7.1% ar gyfer y DU (ac eithrio regio-ychwanegol), dros yr un cyfnod, a 2.3% ers 2019.

Y cynnydd ar gyfer Cymru a'r DU oedd y mwyaf ers dechrau cadw cofnodion ac roeddent yn deillio'n bennaf o’r adferiad yn dilyn y pandemig COVID-19.

£22,380 oedd GYG y pen yng Nghymru yn 2021.

Roedd GYG gweithle'r pen yng Nghymru yn 2021 yn 74.1% o ffigwr y DU (ac eithrio extra-regio), yr ail isaf ymhlith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.

Mae data ar gyfer ardaloedd daearyddol is eraill ar gael (awdurdodau lleol a dinas-ranbarthau).

Nodiadau

  • Mae GDP a GYG wedi ei roi ar brisiau sylfaenol cyfredol.
  • Caiff effeithiau chwyddiant GDP eu dileu yn nhermau real drwy ddal prisiau drwy gydol y gyfres ar y lefel mewn blwyddyn sylfaen ddewisol.
  • Sylwer bod ONS yn cynghori defnyddwyr i beidio â chyfrifo cyfraddau twf mewn GDP a GVA y pen, ond yn hytrach edrych ar dwf blynyddol mewn GDP real i gymharu perfformiad ardaloedd dros amser. Mae hyn oherwydd diffyg cysondeb yn yr amcangyfrifon poblogaeth rhwng 2020 a 2021 (mae Cyfrifiad 2021 wedi rhoi amcangyfrifon newydd i ni o boblogaeth ardaloedd yn 2021 yn ddiweddar, ond nid oes gennym eto amcangyfrifon wedi eu hail-gyfrifo ar gyfer y blynyddoedd 2012 i 2020).

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Emma Horncastle

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.