Cronfa Cymorth Dewisol: gwneud cais am adolygiad
Pryd gallwch ofyn am adolygiad i’ch cais a sut i wneud hyn.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gofyn am adolygiad
NECSWS yw'r sefydliad sy'n darparu'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) ar ran Llywodraeth Cymru. NECSWS yw'r adolygwyr mewnol ar gyfer y DAF.
Os ydych yn credu bod penderfyniad anghywir wedi'i wneud ynghylch eich cais, mae gennych yr hawl i ofyn am i'ch cais gael ei adolygu. Gallwch ofyn am adolygiad o fewn 20 diwrnod ar ôl ichi gael gwybod am y penderfyniad. Sylwch fod yn rhaid i bob cais fodloni'r meini prawf cymhwysedd sylfaenol:
- Ni dderbyniwyd 3 taliad mewn cyfnod treigl o 12 mis (nid blwyddyn galendr na blwyddyn dreth).
- Ni ddyfarnwyd taliad yn ystod y 7 diwrnod diwethaf (ar sail diwrnodau calendr).
- Rhaid i ymgeisydd fod yn 16 oed neu'n hŷn a phreswylio yng Nghymru ar adeg y cais a'r dyfarniad.
- Mae hunaniaeth yr ymgeisydd wedi'i wirio yn unol â chofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Gofyn am adolygiad i'ch cais i'r Gronfa Cymorth Dewisol
Os yw'r holl feini prawf cymhwysedd sylfaenol uchod wedi'u bodloni, ac un o'r isod yn berthnasol, gallwch gyflwyno eich cais am adolygiad:
- ni wnaed dyfarniad: roedd y cais yn aflwyddiannus oherwydd nad oedd y meini prawf wedi'u bodloni
- ni wnaed dyfarniad: roedd y cais yn aflwyddiannus, ond mae gwybodaeth bellach, neu newid i amgylchiadau, yn golygu
- eich bod yn teimlo y gallai'r penderfyniad newid a/neu eich bod yn credu bod y math anghywir o ddyfarniad wedi'i roi e.e. nwyddau gwyn neu gerdyn rhodd, pan oeddech yn disgwyl arian parod
Wrth gyflwyno eich cais am adolygiad, gallwch ddarparu gwybodaeth ychwanegol y gallech fod wedi anghofio ei chynnwys yn y cais cychwynnol.
Gallwch gael cymorth wrth ofyn am Adolygiad Mewnol o'ch penderfyniad:
- gan aelod o Rwydwaith Partneriaid y Gronfa Cymorth Dewisol
- gallwch enwebu 3ydd parti arall i weithredu ar eich rhan, e.e. eich gweithiwr cymorth
Dylech gyflwyno eich cais am adolygiad drwy un o'r ffyrdd canlynol :
- e-bostio: daf.review@necsws.com
- ysgrifennu at: Y Gronfa Cymorth Dewisol, Blwch Post 2377, Wrecsam, LL11 0LG
- ffonio: 0800 859 5924
Pryd fydd penderfyniad yn cael ei wneud?
Taliad Cymorth mewn Argyfwng
Fe'ch hysbysir o benderfyniad canlyniad yr adolygiad o fewn 24 awr (Dydd Llun i Dydd Gwener) drwy'r dull cyfathrebu sydd orau gennych, e.e. yn ysgrifenedig, drwy e-bost neu drwy'r post, neu dros y ffôn.
Taliad Cymorth i Unigolion
Fe'ch hysbysir o benderfyniad canlyniad yr adolygiad o fewn 15 diwrnod gwaith i wneud y cais am adolygiad. Gwneir hyn yn ysgrifenedig, drwy e-bost neu drwy'r post, yn dibynnu ar y dull cyfathrebu sydd orau gennych.
Dydw i ddim yn cytuno â phenderfyniad yr adolygiad. Beth arall alla i ei wneud?
Mae tri cham i'r broses adolygu, a mae’n rhaid eu dilyn yn y drefn hon.
- Adolygiad Mewnol (Haen 1)
- Adolygiad Allanol (Haen 2)
- Cwyn i Lywodraeth Cymru
Cam 1: adolygiad mewnol
Ar ôl derbyn eich cais am adolygiad, bydd adolygiad yn cael ei godi gan NECSWS; yn yr adolygiad hwn bydd aelod o staff NECSWS yn adolygu'r cais, gan gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gennych yn eich cais am adolygiad.
Ein nod yw cwblhau Haen 1 eich adolygiad o fewn 24 awr ar gyfer ceisiadau am Daliad Cymorth mewn Argyfwng, a 15 diwrnod gwaith ar gyfer ceisiadau am Daliad Cymorth i Unigolion.
Rhaid cwblhau Haen 1 y broses adolygu cyn y gallwch ofyn am Haen 2.
Rhaid i ymgeiswyr am Daliad Cymorth mewn Argyfwng neu Daliad Cymorth i Unigolion sy'n anfodlon â chanlyniad Haen 1 hysbysu NECSWS eu bod eisiau Haen 2 eu hadolygiad o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl cael gwybod am benderfyniad adolygiad Cam 1.
Cam 2: adolygiad allanol (Haen 2)
Adolygiad allanol annibynnol gan Family Fund Business Trust: yn yr adolygiad hwn bydd aelod o staff Family Fund Trust yn adolygu eich achos, ac efallai y bydd yn cysylltu â chi am wybodaeth ychwanegol a allai gefnogi eich cais. Gofynnwn am i unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnir amdani gael ei darparu'n brydlon.
Bydd yr amserlenni a nodwyd yn amodol ar eich cydweithrediad wrth ddarparu unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth ychwanegol y gofynnir amdanynt cyn gynted â phosibl, i lywio canlyniad yr adolygiad. Bydd disgwyl penderfyniad o fewn yr amserlenni a nodwyd unwaith y bydd gan y swyddog adolygu yr holl dystiolaeth neu wybodaeth y gofynnwyd amdanynt.
Wrth ofyn am adolygiadau, bydd yn ofynnol ichi ddarparu rhif ffôn cyswllt dilys. Os na ddarperir rhif ffôn cyswllt dilys, rhoddir y penderfyniad am yr adolygiad drwy e-bost neu drwy'r post (yn dibynnu ar y dull cyfathrebu a nodwyd fel yr un sydd orau gennych). Yn yr amgylchiadau hyn, cedwir at yr amserlen 24 awr ar gyfer anfon hysbysiad o ganlyniad y penderfyniad adolygu.
Cam 3: cwyn i Lywodraeth Cymru
Os nad yw eich penderfyniad wedi'i wrthdroi ar adolygiad Haen 1 neu Haen 2, a'ch bod yn anghytuno â'r penderfyniad, mae gennych yr hawl i wneud cwyn i Lywodraeth Cymru.
Gallwch gysylltu â Llywodraeth Cymru drwy:
- ffonio: 0300 060 4400 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm)
- e-bost: cymorth@llyw.cymru
- neu drwy ysgrifennu at: Y Gronfa Cymorth Dewisol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, CF10 3NQ
Sylwer, er mwyn sicrhau yr ymchwilir yn llawn i'ch cwyn, bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am hanes eich cais gan NECSWS, gweinyddwyr y Gronfa.
Gofalu am eich gwybodaeth bersonol
Fel arfer, bydd angen i'r person sy'n edrych ar eich adolygiad weld yr holl gofnodion perthnasol y mae NECSWS yn eu cadw amdanoch, a allai gynnwys recordiadau o sgyrsiau ffôn yn ymwneud â'r cais i'r Gronfa Cymorth Dewisol, nodiadau o sgyrsiau, llythyrau, negeseuon e-bost neu beth bynnag a allai fod yn berthnasol i'ch sefyllfa benodol. Os nad ydych eisiau i hyn ddigwydd, mae'n bwysig eich bod yn gwneud hyn yn glir wrth gyflwyno'r cais am adolygiad. Fodd bynnag, gall gwrthod gadael i'r adolygydd edrych ar yr holl wybodaeth a thystiolaeth berthnasol effeithio ar y gallu i ymchwilio a datrys eich adolygiad.
Nodwch: Mae'r wybodaeth hon ar gael mewn print bras, a gellir ei darparu mewn fformatau eraill (Braille a disg, ac ieithoedd eraill).
