Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Diprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn roi gwybod i’r Aelodau bod Maggie Russell wedi’i phenodi yn gadeirydd newydd Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae dros 35 mlynedd o brofiad gan Maggie Russell fel gweithiwr proffesiynol ym maes y celfyddydau. Mae hi wedi bod mewn sawl rôl uwch yn BBC Wales ac mae wedi bod yn eiriolwr cyson dros y celfyddydau am dros bedwar degawd. Mae Maggie yn ychwanegiad gwerthfawr i’r cyngor, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i’w chroesawu i’r rôl. 

Bydd Maggie Russell yn mynd i’r afael â’r rôl ar adeg hanfodol bwysig i Gyngor Celfyddydau Cymru a bydd yn arwain y sefydliad drwy ei adolygiad buddsoddi. Bydd ei thymor yn dechrau ar 1 Ebrill 2023 am gyfnod o dair blynedd. 

Bydd taliad cydnabyddiaeth blynyddol o £43,810 ar gyfer y penodiad, am ymrwymiad amser o 10 diwrnod y mis. Nid yw Maggie Russell wedi cyhoeddi unrhyw weithgarwch gwleidyddol

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Phil George, sydd wedi bod yn gyfaill, yn eiriolwr ac yn bencampwr i’r celfyddydau yng Nghymru yn ystod ei amser yn gadeirydd, a hynny yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn hanes y sefydliad.

Hoffwn gydnabod ei ymroddiad wrth lywio’r sefydliad drwy un o’r cyfnodau mwyaf unigryw ac anodd mewn cof. Hoffwn hefyd estyn fy niolch i’r is-gadeirydd, Kate Eden, sydd wedi ysgwyddo nifer o gyfrifoldebau ychwanegol dros y chwe mis diwethaf.