Neidio i'r prif gynnwy

Dadansoddiad o gyfran y bobl yng Nghymru sy'n profi'n bositif am wrthgyrff COVID-19 ar gyfer 13 i 19 Chwefror 2023.

Mae’r data gwrthgyrff a gyflwynir yn rhan o’r Arolwg Heintiadau Coronafeirws (COVID-19) ar draws y DU gyfan. Gellir defnyddio’r data i adnabod unigolion sydd wedi cael yr haint yn y gorffennol neu wedi datblygu gwrthgyrff drwy gael y brechlyn.

Mae casgliad data o’r Arolwg Heintiadau COVID-19 (CIS) bellach wedi gorffen ac mae’r Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn gweithio gyda'r SYG a'r gwledydd datganoledig, gan gynnwys Cymru, i ddatblygu arolwg monitro iechyd newydd a fydd yn cynnwys monitro'r ffliw a feirysau eraill yn ogystal â COVID-19. Y datganiad hwn, felly, fydd rhifyn olaf yr adroddiad hwn.

Cyswllt

Sean White

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.