Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae’n bleser gennyf ymateb i’r argymhellion pellach a wnaed gan Grŵp Tasglu Parcio ar y Palmant Cymru, yr wyf wedi’u derbyn ac yn awr yn bwriadu ymgynghori’n eang cyn hynny gyda golwg ar gyflwyno’r ddeddfwriaeth angenrheidiol erbyn diwedd 2023. Hoffwn ddiolch unwaith eto. Phil Jones a gadeiriodd y Grŵp Tasglu, ynghyd â phawb ar y Grŵp sydd wedi cyfrannu a helpu i gynhyrchu’r atodiad hwn i’r adroddiad gwreiddiol.

Lee Waters

Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyflwyniad

Roedd y strategaeth flaenorol o gyflwyno is-ddeddfwriaeth i ganiatáu gorfodi sifil ar y rhwystr diangen ar y palmant a argymhellwyd gan y Grŵp Tasglu ym mis Hydref 2020 yn dibynnu ar ddiwygio’r drosedd o rwystro’r ffordd (sy’n cynnwys y palmant) gan Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU i gerfio'n benodol y 'palmant' o 'ffordd' yn rheoliad 103 o Reoliadau Cerbydau Ffordd (Adeiladu a Defnyddio) 1986 - sy'n gwneud rhwystro diangen y ffordd yn drosedd.

Fodd bynnag, gan fod Llywodraeth Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r mater hwn, fe wnaethant gyfarwyddo Grŵp Tasglu i ailgynnull ym mis Ebrill a mis Gorffennaf 2022 ac ystyried dull gweithredu amgen sy’n golygu bod Gweinidogion Cymru yn diwygio deddfwriaeth i ychwanegu’r drosedd o rwystro’r ffordd, heb ddiwygiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol i rannu’r palmant, i'r rhestr o dramgwyddau parcio y gellir eu gorfodi gan awdurdodau lleol trwy orfodi sifil.

Argymhelliad 1

Argymhelliad adroddiad Grŵp Tasglu (Hydref 2020)        

Dylai’r Senedd basio is-ddeddfwriaeth i ychwanegu’r drosedd bresennol o dan Reoliad 103 o Reoliadau Cerbydau Ffyrdd (Adeiladu a Defnyddio) 1986, i’r graddau y mae’n berthnasol i lwybrau troed, at y rhestr o dramgwyddau y gellir eu gorfodi er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gyflawni gwaith gorfodi sifil o barcio ar y palmant.

Ymateb Llywodraeth Cymru (Hydref 2020)

Mae Atodlen 7 i Ddeddf Rheoli Traffig (DRhT) 2004 yn nodi'r tramgwyddau sy'n ddarostyngedig i orfodi sifil. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol yn y Senedd, i ddiwygio Atodlen 7 i’r DRhT i ychwanegu troseddau pellach i’r graddau y maent yn ymwneud â cherbydau llonydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor ond yn cynnig gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu a mireinio’r cynnig polisi hwn ymhellach.

Wrth gyflwyno rheoliadau, byddant yn ymgynghori â chynrychiolwyr perthnasol prif swyddogion yr heddlu a chymdeithasau awdurdodau lleol, fel y bo'n briodol.

Diweddariad i’r Argymhelliad (Gorffennaf 2022)

Dylai’r Senedd basio is-ddeddfwriaeth i ychwanegu’r drosedd bresennol o dan Reoliad 103 o Reoliadau Cerbydau Ffyrdd (Adeiladu a Defnyddio) 1986, at y rhestr o dramgwyddau y gellir eu gorfodi i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni gwaith gorfodi sifil ar rwystrau diangen ar y briffordd.

Mae paragraff 5(1) o Ran 1 o Atodlen 7 i DRhT 2004 yn caniatáu i awdurdod cenedlaethol ychwanegu troseddau parcio pellach at restr y rhai sy’n destun gorfodi sifil. Mae'r pŵer wedi'i gyfyngu i gerbydau modur llonydd.

Yn unol â’r ddarpariaeth hon, gall Llywodraeth Cymru ychwanegu’r tramgwydd sydd i ddilyn at Baragraff 4 o Ran 1, Atodlen 7 o DRhT 2004, sy’n galluogi awdurdodau lleol i gyflawni gwaith gorfodi sifil yn erbyn rhwystr diangen i’r briffordd gan gerbydau modur.

Mae paragraff 5(3) o Ran 1 o Atodlen 7 i DRhT 2004 yn nodi:

Cyn gwneud rheoliadau sy’n diwygio paragraff 4 rhaid i’r awdurdod cenedlaethol priodol ymgynghori gyda'r gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill.

Ymateb Llywodraeth Cymru (Ionawr 2023)

Mae Atodlen 7 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 yn nodi'r tramgwyddau sy'n destun i orfodi sifil. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i wneud is-ddeddfwriaeth i ddiwygio Atodlen 7 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i ychwanegu troseddau pellach i’r graddau y maent yn ymwneud â cherbydau llonydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor a byddant yn awr yn ymgynghori ar y cynnig hwn.

Argymhelliad 2

Argymhelliad adroddiad Grŵp Tasglu (Hydref 2020)        

Dylai awdurdodau lleol nodi'r lleoliadau hynny lle caniateir parcio ar balmentydd trwy Orchmynion Rheoleiddio Traffig.

Ymateb Llywodraeth Cymru (Hydref 2020)   

Bydd Gweinidogion Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol gyda’r broses hon fel y nodir yn Argymhelliad 3.

Diweddariad i’r Argymhelliad (Gorffennaf 2022)     

Nid yw’r argymhelliad hwn yn briodol mwyach. Ni cheir defnyddio Gorchmynion Rheoleiddio Traffig at y diben hyn.

Ymateb Llywodraeth Cymru (Ionawr 2023)

Amherthnasol

Argymhelliad 3

Argymhelliad adroddiad Grŵp Tasglu (Hydref 2020)        

Dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o’r ddeddfwriaeth berthnasol i nodi sut y gellir symleiddio’r broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yng Nghymru.

Ymateb Llywodraeth Cymru (Hydref 2020)   

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu effaith y rheoliadau gweithdrefnau gorchymyn rheoleiddio traffig dros dro, a ddaeth i rym yn ystod pandemig y Coronafeirws ac a barhaodd mewn grym tan fis Gorffennaf 2021, gyda’r bwriad o benderfynu a oes angen unrhyw newidiadau parhaol i’r broses.

Diweddariad i’r Argymhelliad (Gorffennaf 2022)     

Gan gydweithio â rhanddeiliaid, bydd Grŵp Tasglu Parcio ar y Palmant yn cwblhau'r Canllawiau Statudol a Gweithredol ar orfodi Parcio Sifil i gynghori awdurdodau lleol ar sut i weithredu eu pwerau gorfodi newydd.         

Ymateb Llywodraeth Cymru (Ionawr 2023)

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Awdurdodau Lleol, Cyd-bwyllgor PATROL (Rheoliadau Parcio a Thraffig y Tu Allan i Lundain), Y Tribiwnlys Cosbau Traffig, Cymdeithas Parcio Prydain, a phartïon eraill sydd â diddordeb i ddatblygu canllawiau newydd ar gyfer awdurdodau lleol Cymru.

Argymhelliad 4

Argymhelliad adroddiad Grŵp Tasglu (Hydref 2020)

Dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio ei chanllawiau Statudol a Gweithredol presennol ar Orfodi Parcio Sifil i gynghori awdurdodau lleol sut i weithredu eu pwerau gorfodi newydd.

Ymateb Llywodraeth Cymru (Hydref 2020)   

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Awdurdodau Lleol, Cyd-bwyllgor PATROL (Rheoliadau Parcio a Thraffig y Tu Allan i Lundain), Y Tribiwnlys Cosbau Traffig, Cymdeithas Parcio Prydain, a phartïon eraill sydd â diddordeb gyda datblygu canllawiau newydd ar gyfer awdurdodau lleol Cymru.

Diweddariad i’r Argymhelliad (Gorffennaf 2022)     

Gan gydweithio â rhanddeiliaid, bydd Grŵp Tasglu Parcio ar y Palmant yn cwblhau'r Canllawiau Statudol a Gweithredol ar orfodi Parcio Sifil i gynghori awdurdodau lleol ar sut i weithredu eu pwerau gorfodi newydd.

Ymateb Llywodraeth Cymru (Ionawr 2023)

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Awdurdodau Lleol, Cyd-bwyllgor PATROL (Rheoliadau Parcio a Thraffig y Tu Allan i Lundain), Y Tribiwnlys Cosbau Traffig, Cymdeithas Parcio Prydain, a phartïon eraill sydd â diddordeb i ddatblygu canllawiau newydd ar gyfer awdurdodau lleol Cymru.

Argymhelliad 5

Argymhelliad adroddiad Grŵp Tasglu (Hydref 2020)

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r Adran Drafnidiaeth y DU i ddiwygio Rheolau’r Ffordd Fawr i hysbysu defnyddwyr y ffyrdd bod parcio ar y palmant yng Nghymru yn destun gorfodi sifil.

Ymateb Llywodraeth Cymru (Hydref 2020)   

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Adran Drafnidiaeth y DU i orchmynion y Ffordd Fawr i hysbysu'r ffyrdd y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn unol â'r Adran Drafnidiaeth ar gyfer diwygiadau i Reolau'r Ffordd Fawr yn ôl y gofyn.

Diweddariad i’r Argymhelliad (Gorffennaf 2022)     

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r Adran Drafnidiaeth i ddiwygio Rheolau’r Ffordd Fawr er mwyn hysbysu defnyddwyr y ffyrdd bod rhwystr diangen i’r ffordd yn destun i orfodi sifil.

Ymateb Llywodraeth Cymru (Ionawr 2023)

Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda'r Adran Drafnidiaeth y DU i ddiwygio Rheolau'r Ffordd Fawr.

Argymhelliad 6

Argymhelliad adroddiad Grŵp Tasglu (Hydref 2020)

Dylai Llywodraeth Cymru ddylunio a chynnal strategaeth cyfathrebu a hyrwyddo effeithiol, ar y cyd ag awdurdodau lleol, i hysbysu’r cyhoedd bod y broses o orfodi parcio ar balmentydd yn newid ac i hybu cydymffurfiaeth gyrwyr.

Ymateb Llywodraeth Cymru (Hydref 2020)   

Bydd y cyngor a baratowyd gan yr is-grŵp Cyfathrebu a Newid Ymddygiad gan y Grŵp Tasglu 20 mya yn cael ei ddefnyddio, i lywio a chefnogi datblygiad strategaeth cyfathrebu a marchnata effeithiol ar gyfer y newid yn y drefn orfodi gyda pharcio ar balmentydd.

Diweddariad i’r Argymhelliad (Gorffennaf 2022)     

Dylai cam cyntaf cyfathrebu a marchnata ganolbwyntio ar barcio ar y palmant sy’n rhwystrol ddiangen gan mai dyma'r broblem fwyaf dybryd. Gallai achosion eraill o rwystro'r briffordd ddilyn yn ddiweddarach. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cysylltu'r cyfathrebu â 20mya diofyn a thrafod y posibilrwydd o hyrwyddo ‘brand’ cyffredin o allu byw mewn cymunedau/lleoedd a rennir/strydoedd a rennir.

Ymateb Llywodraeth Cymru (Ionawr 2023)

Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth gyfathrebu a marchnata newydd i gyd-fynd â’r Ymgyrch Gyfathrebu 20 mya sy’n mynd rhagddi.

Argymhelliad 7

Argymhelliad adroddiad Grŵp Tasglu (Hydref 2020)

Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu fframwaith monitro a gwerthuso fel y gellir gwneud asesiad o effaith ac effeithiolrwydd y drefn orfodi newydd.

Ymateb Llywodraeth Cymru (Hydref 2020)   

Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu fframwaith monitro a gwerthuso i sicrhau bod y drefn orfodi newydd mor effeithiol â phosibl.

Diweddariad i’r Argymhelliad (Gorffennaf 202)     

Dylai Llywodraeth Cymru yn sefydlu fframwaith monitro a gwerthuso i sicrhau bod y drefn orfodi newydd mor effeithiol â phosibl.

Ymateb Llywodraeth Cymru (Ionawr 2023)

Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu fframwaith monitro a gwerthuso i sicrhau bod y drefn orfodi newydd mor effeithiol â phosibl.

Argymhelliad 8

Argymhelliad adroddiad Grŵp Tasglu (Hydref 2020)

Dylai PATROL gasglu data ar ôl y 12 mis cychwynnol ar ôl i waith gorfodi awdurdodau lleol ddechrau er mwyn asesu a oes angen unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau neu weithrediadau.

Ymateb Llywodraeth Cymru (Hydref 2020)   

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda PARTOL i asesu a oes angen unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau neu weithrediadau.

Diweddariad i’r Argymhelliad (Gorffennaf 2022)     

Dylai PATROL gasglu data ar ôl y 12 mis cychwynnol ar ôl i waith gorfodi awdurdodau lleol ddechrau er mwyn asesu a oes angen unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau neu weithrediadau.

Ymateb Llywodraeth Cymru (Ionawr 2023)

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda PARTOL i asesu a oes angen unrhyw newidiadau pellach i ddeddfwriaeth, canllawiau neu weithrediadau.

Argymhelliad 9

Argymhelliad adroddiad Grŵp Tasglu (Hydref 2020)

Dylai Llywodraeth Cymru gyrraedd y cerrig milltir allweddol a ganlyn i alluogi cychwyn gorfodi sifil ar barcio ar balmentydd erbyn Gorffennaf 2022:

  • Cyhoeddi Adroddiad y Tasglu - Hydref 2020
  • Datganiad Gweinidogol yn rhoi’r bwriad i symud ymlaen - Hydref 2020
  • Pleidlais y Cyfarfod Llawn i fwrw ymlaen â deddfwriaeth - Hydref 2020
  • Cychwyn Offeryn Statudol - Gorffennaf 2022
Ymateb Llywodraeth Cymru (Hydref 2020)   

Bydd Datganiad Llafar yn cael ei wneud ym mis Hydref 2020 i rannu gyda’r Senedd y bwriad i ddeddfu i geisio mynd i’r afael â pharcio ar balmentydd.

Yn amodol ar ymgynghoriad, bydd pasio a chychwyn yr Offeryn Statudol yn dilyn y dyddiadau a argymhellir.

Diweddariad i’r Argymhelliad (Gorffennaf 2022)     

Bu oedi i'r amserlen a osodwyd yn wreiddiol yn y Grŵp Tasglu. Dylid gwneud pob ymdrech i ddod â’r pwerau newydd i mewn cyn gynted â phosibl a dylai deddfwriaeth ddod i rym erbyn hydref 2023.

  • Cyhoeddi Adendwm i Adroddiad y Tasglu – Hydref 2022
  • Datganiad Gweinidogol yn rhoi’r bwriad i symud ymlaen - Hydref 2022
  • Offeryn Statudol a osodwyd gerbron y Senedd – Mai/Mehefin 2023
  • Cychwyn Offeryn Statudol – Rhagfyr 2023
Ymateb Llywodraeth Cymru (Ionawr 2023)

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i ddilyn y rhaglen weithredu a argymhellir a nodir yn yr adroddiad.

Argymhelliad 10

Argymhelliad adroddiad Grŵp Tasglu (Hydref 2020)

Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu tîm prosiect penodedig i arwain a chydgysylltu’r holl dasgau angenrheidiol i gyflwyno gorfodi sifil ar barcio ar y palmant.

Ymateb Llywodraeth Cymru (Hydref 2020)   

Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu Tîm Prosiect i fwrw ymlaen â’r rhaglen weithredu Parcio Palmant fel y gall awdurdodau lleol ymgymryd â gwaith gorfodi erbyn mis Gorffennaf 2022.

Diweddariad i’r Argymhelliad (Gorffennaf 2022)     

Dim newid.

Ymateb Llywodraeth Cymru (Ionawr 2023)

Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu Tîm Prosiect i fwrw ymlaen â’r rhaglen weithredu Parcio Palmant fel y gall awdurdodau lleol ymgymryd â gwaith gorfodi erbyn mis Rhagfyr 2023.