Neidio i'r prif gynnwy

Mynychwyr

  • Julie Morgan, Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.
  • Alwyn Jones, Cadeirydd.
  • Pennie Muir, Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
  • Jon Day, Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Claire Morgan, Cynghrair Cynhalwyr Cymru.
  • Simon Hatch, Cynghrair Cynhalwyr Cymru.
  • Michael Mitchell, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg.
  • Jenny Oliver, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
  • Marie Davies, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
  • Valerie Billingham, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn.
  • Dr Catrin Edwards, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.
  • Kathy Proudfoot, Is-Gadeirydd COLIN, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Naheed Ashraf, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
  • Rachel Lewis, Pennaeth Cangen UCOPRE, Llywodraeth Cymru.
  • Ceri Griffiths, Uwch-reolwr Polisi Gofalwyr, Llywodraeth Cymru.
  • Ben O’Halloran, Swyddog Polisi Gofalwyr, Llywodraeth Cymru.
  • Kim Dolphin, Cadeirydd COLIN, Cyngor Sir Fynwy.
  • Sean O’Neill, Plant yng Nghymru.
  • Dr Vanessa Webb, Prifysgol Abertawe.
  • Jane Tremlett, Cyngor Sir Caerfyrddin.
  • Angela Hughes, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
  • Nicola Hale, Cyngor Bro Morgannwg.
  • Elizabeth Flowers, Swyddfa’r Comisiynydd Plant.

Ymddiheuriadau

  • Anna Bird, Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
  • Dr Diane Seddon, Prifysgol Bangor.
  • Rhiannon Ivens, Dirprwy Gyfarwyddwr Cynhwysiant a Busnes Corfforaethol, Llywodraeth Cymru.

Cyflwyniadau

Cyflwynodd Alwyn Jones, Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Wrecsam ei hun fel cadeirydd annibynnol newydd y grŵp, a benodwyd gan y Dirprwy Weinidog. Yna siaradodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol am nifer o bynciau yn agenda'r cyfarfod.

Lansiwyd y Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-dâl ar 27 Medi a diolchodd y Dirprwy Weinidog i aelodau’r grŵp hwn a’r gofalwyr di-dâl a helpodd i ddatblygu’r ddogfen. Bydd y ddogfen hon yn cefnogi gofalwyr i ddeall a chael mynediad at eu hawliau tra bydd yr enghreifftiau o arferion da yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddarparu gwasanaethau. 

Cyllid ar gyfer gofalwyr a chostau byw

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd y camau canlynol:

  • Taliad Gofalwr untro o £500 i ofalwyr di-dâl sy'n derbyn Lwfans Gofalwr. Mae 78% o ofalwyr sy'n gymwys ar gyfer y taliad wedi gwneud cais llwyddiannus hyd yn hyn ac mae rhai hawliadau'n dal i gael eu prosesu.
  • £4.5 miliwn o gyllid ar gyfer parhad y Gronfa Cymorth i Ofalwyr dros dair blynedd (2022-25).  Mae'r cynllun hwn wedi helpu 10,000 o ofalwyr dros y ddwy flynedd gyntaf gyda llawer yn anhysbys i'r gwasanaethau cyn hynny.
  • £9 miliwn o gyllid dros dair blynedd (2022-25) ar gyfer y Cynllun Seibiannau Byr newydd.

Cronfa Seibiant / Seibiannau Byr

Mae'r Gronfa Seibiannau Byr yn gynllun nodedig gyda pharamedrau wedi'u clustnodi fel y gellir monitro effaith gwariant ar ofalwyr di-dâl a sicrhau nad oes unrhyw amnewid ar draws ffrydiau ariannu eraill.  Cadarnhaodd RL fod diagram a phapur ffrwd ariannu wedi’u paratoi ac y byddant yn cael eu rhannu â chynrychiolwyr y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn eu cyfarfod cydlynu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol nesaf ym mis Tachwedd.

Mae blwyddyn gyntaf y cyllid yn canolbwyntio ar ddyraniadau’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a hwyluso eu gweithgarwch yn Ch3 a Ch4.  Ym mlwyddyn dau (23-24) bydd ffrwd gystadleuol fwyaf y trydydd sector yn dod yn weithredol.

Cam gweithredu – Yr Ysgrifenyddiaeth i ddosbarthu sleidiau PowerPoint Cronfa Seibiannau Byr Simon Hatch. Gofynnir i holl aelodau Grŵp Cynghori'r Gweinidog BEIDIO â chylchredeg yr wybodaeth i unrhyw barti y tu allan i aelodaeth Grŵp Cynghori'r Gweinidog na’i thrafod, o ystyried trafodaethau cynllunio ac ariannol parhaus gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, swyddogion Llywodraeth Cymru.

Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc, Y camau nesaf

Roedd papur byr wedi'i ddosbarthu i'r aelodau cyn y cyfarfod yn rhoi gwybodaeth gefndir, gan gynnwys cylch gorchwyl craidd y cerdyn.

O ystyried y systemau gweithredu a'r adnoddau gwahanol ym mhob ardal, lansiodd rhai awdurdodau lleol y cerdyn adnabod cenedlaethol a dechreuodd ei ddosbarthu cyn awdurdodau eraill. Mae’r cerdyn wedi bod ar gael ledled Cymru gyfan ers mis Ebrill 2022.

Cytunodd pob awdurdod lleol ar ddechrau'r prosiect cenedlaethol i gyflawni amcan craidd y cerdyn adnabod cenedlaethol.  Ni ellir defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i gael neu ddarparu gostyngiadau. Mae awdurdodau lleol wedi mynd ar drywydd cyfleoedd ar lefel leol fel rhan o’u cynnig ehangach i gefnogi gofalwyr ifanc. Mae unrhyw ostyngiadau a drafodir ar lefel leol yn dibynnu'n fawr ar adnoddau ariannol a chapasiti staff yr awdurdodau lleol eu hunain.

Dywedodd KD nad oes unrhyw ostyngiadau wedi'u cymhwyso yn Sir Fynwy. Mae'r gwaith wedi canolbwyntio'n llwyr ar godi ymwybyddiaeth o'r cerdyn adnabod mewn ysgolion a fferyllfeydd. Mae negodi gostyngiadau ar lefel leol yn llafurddwys ac mae'n her rheoli a dosbarthu'r cerdyn adnabod.

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a’r Comisiynydd Plant wedi canfod bod cost trafnidiaeth gyhoeddus yn fater allweddol i ofalwyr ifanc. Gofynnodd swyddogion am gefnogaeth aelodau Grŵp Cynghori'r Gweinidog i helpu i hyrwyddo cynllun presennol Fy Ngherdyn Teithio. Mae hyn yn cynnig hyd at draean oddi ar brisiau tocynnau bws i bobl ifanc 16-21 oed.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod ymarferoldeb rhoi disgownt cenedlaethol ar y cerdyn adnabod.  Eglurodd y cadeirydd y bydd y gostyngiadau lleol presennol yn parhau i fod yn ddewis ac yn gyfrifoldeb i bob awdurdod lleol. Bydd gweithgarwch yn y dyfodol gan bawb yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o'r cerdyn adnabod cenedlaethol a chefnogi newid diwylliant ymhlith gweithwyr proffesiynol e.e. mewn ysgolion, fel blaenoriaeth.

Awgrymwyd cynnal sgyrsiau gyda sefydliadau busnes cenedlaethol i weld p'un a fydd busnesau sector preifat yn darparu gwahanol fathau o ostyngiadau i ofalwyr ifanc.

Diweddariad ar y Fframwaith Ymgysylltu, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

Cynhaliwyd dau gyfarfod ar-lein cenedlaethol yn ystod Wythnos Gofalwyr ym mis Mehefin.  Roedd un yn canolbwyntio ar gymunedau Du a Lleiafrifoedd Ethnig a chafwyd ail weithgaredd ymgysylltu yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Trafodwyd yr adborth oddi wrth y gofalwyr ac fe'i nodir yn fanwl yn yr adroddiad Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a ddosbarthwyd cyn y cyfarfod.  Roedd y problemau mwyaf yn ymwneud â phwysau ariannol a chael gafael ar gymorth.  Mae gweithgarwch hefyd yn cael ei gynnal fel rhan o'r gwaith ymgysylltu â gofalwyr ifanc a gofynnwyd am farn yn yr ŵyl Gofalwyr Ifanc cenedlaethol a chyfarfod ym mis Gorffennaf gyda'r Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Cadarnhaodd CE fod data demograffig dienw yn cael ei gasglu ar bawb sy'n cymryd rhan yn y cyfarfodydd. Felly gellir dadansoddi data i wirio ymgysylltiad â gwahanol grwpiau oedran. Bydd CE yn cyfarfod â VB i drafod.

Cam gweithredu – Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn rhannu sleidiau Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar y gweithgaredd Ymgysylltu.

Ehangu aelodaeth Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr

Mae’r Dirprwy Weinidog yn dymuno ychwanegu gofalwyr di-dâl at aelodaeth y grŵp cynghori. Mae rhai aelodau o'r Grŵp Cynghori'r Gweinidog yn ofalwyr di-dâl yn ogystal ag eistedd yn eu swyddogaeth broffesiynol a gallent o bosibl gynnig “llais deuol”.

Disgrifiodd aelodau o gynghorau lleol a byrddau iechyd lleol sut yr oeddent yn cynnwys gofalwyr di-dâl yn rhai o’u grwpiau strategol. Cytunodd yr Aelodau y bydd angen i'r gofalwyr di-dâl a wahoddir i ymuno gael eu cefnogi a'u briffio'n dda ar eitemau ar yr agenda. Cadarnhaodd Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru eu bod yn hapus i gefnogi gofalwyr di-dâl yn hyn o beth.

Cam gweithredu – Grŵp gorchwyl a gorffen i'w sefydlu gyda gwirfoddolwyr o Grŵp Cynghori'r Gweinidog i ystyried a rhoi cyngor ar sut y gellir ychwanegu aelodau newydd sy'n ofalwyr di-dâl at yr aelodaeth bresennol.

Pynciau i'w trafod yng nghyfarfod Grŵp Cynghori'r Gweinidog mis Rhagfyr

Cytunodd yr Aelodau ar y pwyntiau canlynol i’r Dirprwy Weinidog fynd i’r afael â nhw yng nghyfarfod nesaf Grŵp Cynghori'r Gweinidog: Beth yw'r darlun ehangach o'r gyllideb o safbwynt Llywodraeth Cymru, beth sydd wedi newid? Beth yw safbwynt polisi Llywodraeth Cymru ar ryddhau cleifion o’r ysbyty?

Unrhyw Fater Arall

Cytunwyd y bydd cyfarfodydd Grŵp Cynghori'r Gweinidog yn y dyfodol yn cael eu strwythuro o amgylch diweddariadau gan swyddogion ac aelodau ar waith i gefnogi'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Gofalwyr.  Gofynnir i bob aelod roi gwybodaeth i'r ysgrifenyddiaeth am eu sefydliad / gweithgarwch rhwydwaith a gynrychiolir yn ystod y 3-4 wythnos nesaf. Bydd hyn yn cael ei ymgorffori wrth ddrafftio adroddiad cynnydd blynyddol cyntaf y Cynllun Cyflawni ar gyfer Gofalwyr. Bydd y drafft cychwynnol yn cael ei gyflwyno i'w drafod yng nghyfarfod nesaf Grŵp Cynghori'r Gweinidog ym mis Rhagfyr.  Y pwyntiau eraill yr aethpwyd i’r afael â nhw oedd fel a ganlyn:

  • Gofynnodd yr aelodau i'r ysgrifenyddiaeth roi gwybod am ddyddiadau unrhyw gyhoeddiadau neu ddatganiadau gofalwyr allweddol cyn eu rhyddhau er mwyn iddynt allu paratoi ar gyfer ymholiadau gan randdeiliaid.
  • Cofrestr gofalwyr – mae swyddogion yn bwrw ymlaen â'r cam hwn ac wedi trefnu cyfarfod arall gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru / Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
  • Mae cynhadledd gofalwyr yn cael ei chynnal ym Mhowys ar 25 Tachwedd. Mae'n wahoddiad agored a dywedwyd wrth yr aelodau y gallant gysylltu â Marie Davies am wahoddiad.
  • Mae arolwg cenedlaethol y Comisiynydd Plant i lywio blaengynllun gwaith tair blynedd y comisiynydd bellach yn fyw. (Rhannwyd y dolenni ar ôl y cyfarfod gan ysgrifenyddiaeth Grŵp Cynghori'r Gweinidog).

Adrodd ar gyllid grant Gofalwyr o £1 miliwn

Bydd CG yn cysylltu â chydweithwyr SSID ynglŷn â’r fformat ar gyfer adroddiadau Byrddau Iechyd Lleol / Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol o’r £1 miliwn o ddyraniad gofalwyr wedi’i neilltuo a ph'un a ellir gwthio’r terfyn amser adrodd canol blwyddyn ar 28 Hydref yn ôl. (Cwblhawyd y cam gweithredu – dosbarthwyd neges e-bost ar 21 Hydref 2022).

Cadarnhaodd RL nad yw'r Siarter ar gyfer Gofalwyr Di-dâl, sydd bellach wedi'i chyhoeddi, yn ddogfen fyw felly ni fydd y testun yn newid.  Bydd trafodaeth bellach ar gyfathrebu i helpu i amlygu a chodi ymwybyddiaeth o'r siarter.

Cynigiodd y Cadeirydd gyfarfod wyneb yn wyneb yn y gwanwyn os yw'r aelodau'n dymuno gwneud hynny. Lleoliad i'w benderfynu.

Diwedd y cyfarfod

Mae cyfarfod nesaf Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar 8 Rhagfyr, 10am – 11.30am.

Atodiad A  Dolenni wedi'u rhannu mewn sgwrs ar-lein

Mae Gofalwyr Cymru yn dosbarthu Cardiau Argyfwng Gofalwr rhad ac am ddim, fel y gall gofalwyr gadarnhau â phwy y dylent gysylltu â nhw mewn argyfwng – Gofalu ac argyfyngau – Carers UK.

Mae Gofalwyr Cymru wedi creu adroddiad Materion Ariannol ar eu gwefan. Mae llawer o wybodaeth a chyngor i ofalwyr ar fudd-daliadau, grantiau, help gyda biliau ac ati. Hwb Materion Ariannol – Carers UK.

Mae Carers UK wedi cyhoeddi adroddiad newydd heddiw ynghylch y caledi ariannol digynsail y mae gofalwyr yn ei wynebu Argyfwng costau byw – Carers UK.

Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd wefan sy'n cynnwys gwybodaeth am gymorth i helpu gyda Chostau Byw – Cael help gyda chostau byw | LLYW.CYMRU.

Mae gwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru bellach ar agor ac am y tro cyntaf mae categori gofalwyr – sy'n adlewyrchu gwaith gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol gyda gofalwyr

Yn yr Uwchgynhadledd Gofalwyr yn gynharach eleni, rhoddodd gofalwyr eu hadborth a gwnaethant nifer o argymhellion Gofalwyr Cymru: Uwchgynhadledd Gofalwyr 2022 – Carers UK.