Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ati â chynlluniau i ehangu'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghasnewydd yn dilyn taith fasnach lwyddiannus i Silicon Valley, Califfornia, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Gweinidog yr Economi yn cadarnhau bod cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer ehangu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd Casnewydd yn gwneud cynnydd.
  • Cyfarfu'r Gweinidog ag arweinwyr o'r cwmni cyfarpar lled-ddargludyddion blaenllaw KLA yn ystod ymweliad masnach â Chaliffornia i ailadrodd cymorth Llywodraeth Cymru.
  • Llywodraeth Cymru'n galw ar Lywodraeth y DU i ‘fynd amdani’ gyda strategaeth lled-ddargludyddion sydd wedi'i hariannu'n llawn sy'n cyfateb i uchelgais cystadleuwyr byd-ean

Mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ati â chynlluniau i ehangu'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghasnewydd yn dilyn taith fasnach lwyddiannus i Silicon Valley, Califfornia, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gydag is-adran SPTS KLA Corporation – is-adran sy'n darparu atebion prosesu haenellau i wneuthurwyr dyfeisiau lled-ddargludyddion a microelectronig – i gefnogi ei chynlluniau i ehangu gweithrediadau yn y ddinas fel rhan o fuddsoddiad o $100 miliwn a gyhoeddwyd eisoes.

Mae'r cwmni, sydd ar hyn o bryd yn cyflogi gweithlu medrus iawn o dros 550 o bobl yn y ddinas, yn datblygu ei safle newydd yn Celtic Lakes, Casnewydd, sy'n gartref i glwstwr o gwmnïau byd-eang sylweddol, gan gynnwys Vantage, canolfan ddata fwyaf Ewrop, IQE, a'r cwmni Compound Semiconductor Applications Catapult.

Gwnaeth Gweinidog yr Economi gwrdd â phrif weithredwr ac aelodau eraill o dîm gweithredol KLA, yn ystod ymweliad masnach o dan arweiniad Llywodraeth Cymru â Silicon Valley, Califfornia yr wythnos ddiwethaf, lle ailadroddodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r sector.

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru'n cynnwys gwaith i uwchraddio'r seilwaith ar safle'r Celtic Lakes, datblygu sgiliau i sicrhau bod llif parhaus o staff talentog ar gael i ymgymryd â swyddi newydd yn y sector, ac i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol, gan helpu i sicrhau bod cwmnïau lleol eraill yn elwa.

Yn dilyn yr ymweliad masnach, mae Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i brofi ei hymrwymiad gyda chynllun wedi'i ariannu'n llawn ar gyfer dyfodol y sector sy'n sbarduno twf, yn lleihau costau defnyddwyr ac yn cryfhau diogelwch gartref.

Rhybuddiodd y Gweinidog fod y DU yn syrthio y tu ôl i'r genhadaeth uchelgeisiol a nodwyd yn UDA, sy'n flaenoriaeth genedlaethol i Weinyddiaeth Biden.

 Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Rydyn ni o ddifrif am gefnogi sector lled-ddargludyddion a fydd yn sbarduno twf, yn creu swyddi ac yn lleihau costau i ddefnyddwyr.  Mae Cymru yn chwaraewr byd-eang yn y diwydiant sy'n haeddu cefnogaeth economi’r DU gyfan. 

“Mae clwstwr technoleg a lled-ddargludyddion cyfansawdd Casnewydd yn cefnogi cannoedd o swyddi â chyflogau da mewn diwydiant sydd yn pweru'r technolegau y mae pobl ledled y byd yn dibynnu arnynt i fyw eu bywydau.

“Yn ystod fy ymweliad â Silicon Valley Califfornia, fe wnes i hyrwyddo enw da Cymru fel gwlad sydd â chlwstwr lled-ddargludyddion llewyrchus a'n penderfyniad i’w gadw felly.

“Mae Llywodraeth Cymru nawr yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar garlam i ganiatáu i KLA ehangu ei gweithrediadau yng Nghasnewydd, ac rydyn ni'n disgwyl datgloi cannoedd o swyddi newydd – gan gefnogi ein huchelgais i greu swyddi gwyrdd newydd yn niwydiannau'r dyfodol.”

Heddiw, mae'r Gweinidog yn galw ar Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg newydd Llywodraeth y DU i gyhoeddi strategaeth lled-ddargludyddion gynhwysfawr hirddisgwyliedig ac wedi'i hariannu'n llawn i gefnogi'r sector, ac i ddiogelu swyddi yng Nghymru ac ym Mhrydain.

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Mae'n bryd i Lywodraeth y DU fynd amdani gyda chynllun sy'n cyd-fynd ag ymrwymiad ein partneriaid byd-eang. Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg gyfle gwych i gyflwyno newyddion da a sicrwydd mawr ei angen i'r diwydiant drwy gyhoeddi strategaeth newydd sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

“Rydym yn barod i weithio mewn partneriaeth i gyflawni hyn.”