Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

A ninnau ar drothwy’r gwanwyn ar ôl gaeaf oedd yn anodd i lawer, dw i’n poeni’n fawr o hyd am gyflwr y farchnad ynni a’i heffaith ar bobl Cymru, yn enwedig y rheini sy’n defnyddio mesuryddion rhagdalu. Mae’r argyfwng costau byw yn dal i gael effaith enfawr, yn enwedig ar aelwydydd isel eu hincwm.

Gelwais ar y Canghellor i fanteisio ar y cyfle yn ei Gyllideb Wanwyn i beidio â chynyddu’r Gwarant ar Bris Ynni i £3,000.  Er mod i’n croesawu’r cyhoeddiad y bydd yn aros ar £2,500 tan fis Gorffennaf i aelwyd cyffredin, siom oedd clywed y bydd taliad y Cynllun Cymorth Biliau Ynni o £400 yn dod i ben ym mis Ebrill.

Mae hyn yn golygu y bydd yr aelwyd cyffredin yn talu £400 yn fwy am ei ynni o fis Ebrill gan olygu y bydd llawer o bobl fregus yng Nghymru’n ei chael hi’n anodd fforddio’u biliau ynni. Mae biliau ynni yng Nghymru’n uwch oherwydd oed y stoc dai a’r taliadau sefydlog hynod uchel.

Mae’n amlwg nad yw’r rheolau ynghylch mesuryddion rhagdalu, a sefydlwyd i ddiogelu’r mwyaf bregus yn ein cymdeithas, yn gweithio. Mae’n hynod hynod bwysig bod y Llywodraeth yn diogelu ac yn eirioli dros y mwyaf bregus yn yr amserau economaidd dreng hyn. Dw i felly’n croesawu’r penderfyniad yn y gyllideb i gysoni taliadau’r rheini sy’n rhagdalu am eu hynni â thaliadau’r rheini sy’n talu trwy ddebyd uniongyrchol. Roedd y ‘gosb am ragdalu’ yn amlwg annheg, ac annhegwch arall yw’r tâl sefydlog y mae disgwyl i gwsmeriaid sy’n rhagdalu ei ysgwyddo, a dw i wedi gofyn am ei ddileu. Mae gwaith eto i’w wneud. Dw i wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) i wneud yn siŵr bod yr holl fudd-daliadau a chymorth, fel prisiau rhatach, sydd ar gael i’r rheini sydd â mesuryddion ynni credyd safonol, ar gael hefyd i’r rheini sydd â mesuryddion rhagdalu.

Yn fwyaf diweddar, ysgrifennais at Grant Shapps, Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Ynni, Diogelwch a Sero Net ar 13 Mawrth, yn galw unwaith eto am gael gwared ar fesuryddion rhagdalu. Gelwais hefyd ar Lywodraeth y DU i ddilyn esiampl y diwydiant dŵr lle gwaherddir cwmnïau o dan y gyfraith rhag datgysylltu neu gyfyngu ar gyflenwadau dŵr aelwydydd sydd mewn dyled. Dw i wedi galw arnyn nhw hefyd i gyflwyno tariff cymdeithasol a sicrhau nad yw llysoedd ynadon yn cael cymeradwyo swp o warantau ar y tro.

Er ei bod yn drueni bod angen ymchwiliad gan y wasg i dynnu sylw at broblem gorfodi mesuryddion rhagdalu ar bobl, mae’n dda gweld yr arfer yn cael ei wahardd, er mai dim ond am gyfnod dros dro y mae hynny.  Dw i wedi galw am estyn y gwaharddiad ac roedd yn dda clywed Jonathan Brearley, Prif Weithredwr Ofgem yn cyhoeddi ar 14 Mawrth y caiff y gwaharddiad ei estyn ar ôl diwedd mis Mawrth ac na fyddai’n ei godi tan y bydd cwmnïau’n dilyn y cod ymarfer newydd. Byddaf yn cwrdd â Mr Brearley eto ddiwedd mis Mawrth.

Dw i wedi bod yn glir o’r dechrau – rhaid i aelwydydd sydd wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio mesurydd rhagdalu, oherwydd cam yn y broses cyflwyno gwarant neu am eu bod wedi cael eu hannog i wneud, efallai heb wybod am y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw, gael cynnig i gael eu hen fesurydd yn ôl, hynny heb gost iddyn nhw.

Cefais gyfarfod hefyd â Catherine Brown, Cadeirydd y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi (ECB) yng nghanol Chwefror a dw i’n gwbl gefnogol i alwad y Bwrdd y dylai’r casglwyr dyledion a ddefnyddir gan gyflenwyr ynni gael eu hachredu gan yr ECB. Mae hyn yn fater dw i wedi’i godi â Llywodraeth y DU a chydag Ofgem a bydd yn bwnc trafod pan fyddaf yn cwrdd â chyflenwyr ynni ddiwedd Mawrth.

Mae llawer i’w wneud o hyd – mae cyfryngau pwysig ar gyfer sicrhau gwelliannau i lawer o aelwydydd ledled Cymru yn nwylo Llywodraeth y DU ac Ofgem.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu aelwydydd isel eu hincwm trwy’r argyfwng. Mae £1.2m wedi’i roi i undebau credyd yn 2022-23 iddynt allu rhoi mwy o fenthyciadau, gan helpu’r sector moesegol hwn i wasanaethu aelodau newydd sydd mewn sefyllfa ariannol fregus oherwydd credyd gwael yn y gorffennol. Mae hyn ar ben y £500k y flwyddyn sydd wedi’i roi i’r sector i’w helpu i dyfu ac ehangu ledled Cymru, ac i addysgu pobl am waith y sector dros gynhwysiant ariannol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda’r sector, yn enwedig o gofio bod risg sylweddol y gallai pobl sy’n brwydro i gael dau ben llinyn ynghyd ac nad ydynt yn cael manteisio ar fathau cyffredin o gredyd droi mewn argyfwng at fenthycwyr drud neu anghyfreithlon.

Mae £18.8m ychwanegol wedi’i sicrhau ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol, gan gynyddu ei chyllideb ar gyfer 23/24 i £38.5m. Bydd y cynnydd yn golygu y bydd y gronfa yn 23/24 yn cyfateb i lefel y galw amdani, gan ganiatáu i ni barhau i helpu pobl ariannol fregus yng Nghymru ar adeg pan mae rhai unigolion yn ei chael hi’n anodd iawn ysgwyddo rhai o’r costau byw mwyaf sylfaenol fel bwyd a thanwydd. Ar 1 Ebrill 2023, un set o reolau fydd ar gyfer pob Taliad Cymorth mewn Argyfwng (EAP), gan sicrhau’r un rheolau mynediad â’r DAF. Bydd pob taliad EAP hefyd yn codi 11%. Hefyd, bydd pob unigolyn yn cael gwneud cais am daliad EAP hyd at dair gwaith mewn cyfnod treigl o 12 mis, gyda dim ond bwlch o saith niwrnod rhwng ceisiadau. Byddwn felly yn cael rhoi taliadau uwch eu gwerth i unigolion dros gyfnod byrrach o amser er mwyn eu helpu yn ystod cyfnod o argyfwng.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu aelwydydd i gynyddu’u hincwm. Ym mis Rhagfyr, lansion ni ein hymgyrch ddiweddaraf ‘Yma i Helpu â Chostau Byw’ i roi sicrwydd i bobl bod help ar gael i aelwydydd ledled Cymru sy’n ei chael hi’n anodd talu’r biliau. Mae’r ymgyrch yn defnyddio pob sianel i godi ymwybyddiaeth amdani, gan gynnwys y teledu, radio a’r wasg, cyfryngau cymdeithasol a gohebiaeth uniongyrchol. Llwyddodd ein dwy ymgyrch ‘hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ flaenorol i annog dros 8,000 o bobl i gysylltu ag Advicelink Cymru lle cawsant eu helpu i hawlio dros £2.7m o incwm ychwanegol.