Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Lesley Griffiths AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Adran y Cabinet
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig 
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • David Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Mitch Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Helen Lentle, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Heather Davidson, Pennaeth Polisi Sgiliau Sero Net (eitem 3)
  • Stephen Rowan, Dirprwy Gyfarwyddwr Cysylltedd Cenedlaethol a Rhyngwladol (eitem 4)
  • Nicolas Turner, Pennaeth Cerbydau Tacsi a Cherbydau Hurio Preifat (eitem 4)
  • Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid (eitem 5)
  • Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol (eitem 5)

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfodydd blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y 30 Ionawr.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys grid y Cyfarfodydd Llawn a nododd y byddai’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd yn ymateb i gwestiynau’r Prif Weinidog unwaith eto yr wythnos honno. Nododd fod yr amser pleidleisio wedi’i drefnu ar gyfer 6:15pm ddydd Mawrth a thua 6:25pm ddydd Mercher.

Eitem 3: Cynllun Gweithredu Sgiliau Cymru Sero Net CAB(22-23)40

3.1 Cyflwynodd Gweinidog yr Economi y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno ar y Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net. 

3.2 Fel rhan o Cymru Sero Net, roedd y Llywodraeth wedi ymrwymo i gyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymru Sero Net. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae gwaith wedi parhau ar draws y Llywodraeth a chyda rhanddeiliaid allanol i ddeall y dirwedd sgiliau sero net ledled Cymru, a oedd yn cynnwys yr heriau, y rhwystrau a’r camau gweithredu gofynnol. 

3.3 Amlygodd yr ymgysylltiad hwn alwad gref a chynyddol am weithredu ar sgiliau sero net a oedd yn gofyn am ddull cydweithredol ar draws yr economi gyfan.

3.4 Roedd y Cynllun Sgiliau Sero Net yn nodi 36 o gamau gweithredu ar draws saith thema i gyflawni nodau allweddol a mynd i’r afael â rhai o’r heriau.

3.5 Darparodd y Cynllun grynodeb lefel uchel o’r dirwedd bresennol ar draws yr wyth sector allyriadau. Amlygodd y Cynllun rywfaint o’r gwaith da sydd eisoes yn digwydd ar draws pob sector yng Nghymru, gan gynnwys yn y sector bwyd a diod, amaethyddiaeth ac adeiladu.

3.6 Roedd angen adeiladu gweithlu medrus ac amrywiol mewn economi sy’n newid yn gyflym, wrth helpu i greu swyddi o ansawdd, a chefnogi pobl i uwchsgilio yn y sectorau presennol. Roedd yn bwysig defnyddio sgiliau a chymwysterau presennol pobl i’w helpu i drosglwyddo i rolau neu sectorau newydd yn effeithiol a gweithio gyda diwydiant, partneriaid allweddol, ac Undebau Llafur i archwilio cyfleoedd ar gyfer dulliau newydd ac arloesol o dyfu gweithlu’r dyfodol.

3.7 Roedd angen cryfhau’r system sgiliau i ddarparu’r cymwysterau cywir i fodloni’r galw am sgiliau sero net o bob sector, sy’n tyfu’n gyflym. O’r herwydd, roedd £2m wedi’i fuddsoddi i dreialu Cyfrif Dysgu Personol gwyrdd i gefnogi uwchsgilio neu ailsgilio sgiliau sero net ar gyfer pobl gyflogedig ym meysydd adeiladu, ynni, gweithgynhyrchu a pheirianneg. Yn ogystal, roedd yn bwysig hyrwyddo cyfleoedd i blant a phobl ifanc i’w helpu i ddeall y byd gwaith a datblygu sgiliau sero net.

3.8 Croesawodd y Cabinet y papur, ac yn benodol yr ymrwymiad i ystyried y dystiolaeth, y mewnwelediad a gasglwyd ac argymhellion y prosiect Prif Ffrydio Cydraddoldeb a Phontio Teg ynghyd â chydnabod yr angen i ddatblygu camau gweithredu priodol neu gynnal ymchwil neu ymgynghoriad pellach yn seiliedig ar ganlyniad y canfyddiadau hyn.

3.9Cytunodd y Gweinidogion fod meithrin llwyddiant y rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol yn hanfodol, wrth barhau i ddarparu cymorth dwys i grwpiau blaenoriaeth yn eu cymunedau. Y grwpiau blaenoriaeth hyn oedd y cymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, mudwyr, pobl anabl, y rhai ag anabledd dysgu, menywod, rhieni unigol, gofalwyr, pobl ifanc a gweithwyr hŷn.

3.10 Cymeradwyodd y Cabinet y papur a nododd y byddai’r Cynllun Gweithredu yn cael ei gyhoeddi ddiwedd mis Chwefror.

Eitem 4: Diwygio Trwyddedu Tacsis – Papur Gwyn CAB(22-23)45

4.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet nodi cynigion i ddiwygio trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat (PHV) yng Nghymru.

4.2 Roedd nifer o faterion hirdymor yr oedd angen mynd i’r afael â nhw i sicrhau bod tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru yn fwy diogel, yn decach ac yn fwy gwyrdd. Roedd y rhain yn cynnwys safonau anghyson ar gyfer gyrwyr, gweithredwyr a cherbydau, anallu Awdurdodau Lleol i gyflawni gweithgareddau gorfodi yn erbyn gyrwyr sydd wedi’u trwyddedu yn rhywle arall ond sy’n weithredol yn eu hardal, a rhannu gwybodaeth gyfyngedig a oedd yn rhwystro gweithredu.

4.3 Roedd y Papur Gwyn yn cynnig mynd i’r afael â’r materion hyn wrth gyflawni ymrwymiad y Rhaglen Llywodraethu i ddeddfu i foderneiddio tacsis a cherbydau hurio preifat.

4.4 Byddai cyflwyno safonau gofynnol cenedlaethol yn golygu y byddai’r un gwiriadau’n cael eu cynnal ar gyfer pob gyrrwr a gweithredwr ledled Cymru. Fel y cyfryw, byddai dull cyson o ddatgelu a gwahardd, gwiriadau cofnodion troseddol tramor ac archwiliadau meddygol. Byddai’r un dull yn cael ei weithredu ar gyfer profi cerbydau, terfynau oedran, polisi allyriadau, a gofynion penodol.

4.5 Yn ogystal, byddai gwybodaeth yn cael ei rhannu’n well ar draws Awdurdodau Lleol, gyda swyddogion gorfodi’n gallu cymryd camau yn erbyn unrhyw yrrwr, cerbyd neu weithredwr, yn hytrach na’r rhai sydd wedi’u trwyddedu y neu hardal. Byddai pwyntiau cosb a Hysbysiadau Cosb Benodedig yn cael eu cyflwyno ledled Cymru, byddai diffiniadau cliriach o dacsis a cherbydau hurio preifat a byddai angen mynd i’r afael â materion trawsffiniol. Byddai’r Bil hefyd yn cynnwys pŵer i bennu dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid i bob cerbyd fod yn ddi-allyriadau.

4.6 Croesawodd y Cabinet y papur, yn enwedig y gofyniad a fyddai’n golygu y byddai’n ofynnol i ymgeiswyr am drwydded ennill cymhwyster a reoleiddir yn llwyddiannus, a fyddai’n cynnwys pynciau allweddol fel diogelu plant ac oedolion, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, trais rhywiol, masnachu pobl, ac ymwybyddiaeth o anabledd.

4.7 Cymeradwyodd y Cabinet y papur a nododd y byddai’r Papur Gwyn yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnos yn dechrau 6 Mawrth.

Eitem 5: Ail Gyllideb Atodol 2022-23

5.1 Cyflwynodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y papur, a oedd yn gofyn i’r Cabinet gytuno ar Ail Gyllideb Atodol 2022-23.

5.2Roedd yr Ail Gyllideb Atodol yn rheoleiddio’r addasiadau terfynol i ddyraniadau’r gyllideb cyn diwedd y flwyddyn ariannol ac yn pennu’r terfynau y byddai sefyllfaoedd alldro yn cael eu mesur yn eu herbyn.

5.3 Roedd lefel yr adnoddau refeniw sydd ar gael wedi cynyddu £357m ers y Gyllideb Atodol Gyntaf.

5.4 Ers y Gyllideb Atodol Gyntaf, roedd cyfanswm o £343.9m o ddyraniadau refeniw, £9.96m o gyfalaf cyffredinol a £2.3m o ddyraniadau cyfalaf trafodion ariannol wedi’u cymeradwyo o’r cronfeydd wrth gefn. Dyrannwyd £170m i’r MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi’r costau ynni eithriadol sy’n codi yn 2022-23 ac i gefnogi mesurau COVID-19. O hyn, roedd £21,2m yn adlewyrchu ail flaenoriaethu tanwariant o MEG eraill, a gytunwyd gan y Cabinet ym mis Medi.

5.5 I gefnogi’r ymateb dyngarol i’r rhyfel yn Wcráin, roedd £91.663m pellach, yn ychwanegol at yr £20m cychwynnol, wedi’i ddyrannu, ac roedd hyn wedi’i wrthbwyso gan £74.4m gan Lywodraeth y DU.

5.6 O ganlyniad i’r newidiadau cyffredinol byddai’r cronfeydd wrth gefn heb eu dyrannu yn cyrraedd £156m. Roedd y ffigwr hwn yn rhagdybio y tynnir £125m yn llawn o Gronfa wrth Gefn Cymru.

5.7 O ystyried y trafodaethau cyflog parhaus yn y sector cyhoeddus, byddai bron pob un o’r cronfeydd wrth gefn sy’n weddill heb eu dyrannu yn cael eu neilltuo i’r MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r MEG Addysg a’r Gymraeg, £120m a £32m, i gefnogi setliad posibl ar gyfer staff GIG Cymru ac athrawon. Tybiodd hyn y gwnaed yr un cynnig i’r ddau broffesiwn.

5.8 Os na ellid cyrraedd cytundeb, roedd digon o hyblygrwydd yng Nghronfa Wrth Gefn Cymru i’r tanwariant dilynol gael ei gario ymlaen i’w ddefnyddio yn y blynyddoedd i ddod. Nodir drwy broses gyllideb 2023-23 y byddai tynnu o Gronfa Wrth Gefn Cymru yn gweithredu fel rhan o’r strategaeth gyllidol.

5.9 Croesawodd y Cabinet y papur a diolchodd i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol am y gefnogaeth barhaus yn ystod y trafodaethau gyda’r Undebau Llafur Iechyd ac Addysgu.

5.10 Cymeradwyodd y Cabinet y papur, yn amodol ar sylwadau a wnaed gan Weinidogion a nododd y byddai’r Ail Gyllideb Atodol yn cael ei chyhoeddi ar 14 Chwefror, gyda’r ddadl wedi’i threfnu ar gyfer 14 Mawrth.

Eitem 6: Unrhyw fusnes arall

Trafod telerau cyflog y GIG

6.1 Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y Cabinet fod mwyafrif yr Undebau Llafur Iechyd wedi atal y gweithredu diwydiannol arfaethedig, tra bod eu Haelodau yn ystyried y cynnig cyflog diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, gydag Unite yn unig yn parhau i streicio. Roedd Unite hefyd wedi cyhoeddi dyddiau ychwanegol o weithredu diwydiannol ar 20, 21 a 22 Chwefror.

6.2 Roedd y cynnig cyflog diwygiedig yn cynnwys 3% ychwanegol, gyda 1.5% ohono wedi’i gyfuno, yn ogystal ag argymhellion y Corff Adolygu Cyflogau a’r cyfandaliad a gynigiwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r cynnig gwell yn cael ei ôl-ddyddio i Ebrill 2022. Byddai’r dyfarniad hwn yn cael ei dalu o ostyngiadau gwariant y llywodraeth ar gyfer 22-23 a bydd angen bodloni’r elfen gyfunol wrth symud ymlaen o 2023-24 drwy gyflawni arbedion effeithlonrwydd drwy leihau gwariant ar asiantaethau.”

6.3 Roedd trafodaethau hefyd yn parhau ar nifer o ymrwymiadau i wella llesiant staff nad ydynt yn ymwneud â chyflogau.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Chwefror 2023