Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafwyd cais yn ystod y Datganiad Busnes yr wythnos hon am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y Cyfrifon Blynyddol Cyfunol ar gyfer 2020-21 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chyllideb Cymru.

Ar 5 Awst 2022, rhoddais adroddiad ysgrifenedig i'r Pwyllgor Cyllid ar alldro terfynol 2020-21 ar gyfer Llywodraeth Cymru, wedi’i osod yn erbyn cynlluniau gwariant a gymeradwywyd yn Nhrydedd Gyllideb Atodol 2020-21, yn unol â'm hymrwymiad i arfer da a thryloywder.

Rwyf hefyd wedi nodi'r ffeithiau yn y Siambr ar o leiaf ddau achlysur, ac rwyf wedi gwneud hynny hefyd yn ystod proses graffu’r Pwyllgor Cyllid. Fodd bynnag, rwy'n hapus i nodi'r ffeithiau unwaith eto heddiw.

Roedd y pandemig a’r cyllid a ddarparwyd ar gyfer ein hymateb yn golygu bod 2020-21 yn flwyddyn eithriadol. Darparwyd cyllid sylweddol i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU yn hwyr iawn ym mlwyddyn ariannol 2020-21. Er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r cyllid hwn a sicrhau’r gwerth gorau i’r trethdalwr, gwnaethom benderfyniadau i sicrhau’r gwariant mwyaf lle bynnag y bo modd, gan gynnwys bwrw ymlaen yn gynharach â’n cynlluniau cyfalaf.

Fel llywodraeth ddatganoledig, fe wnaethom weithredu o fewn y rheolaeth gyllidebol gyffredinol a osodwyd gan Drysorlys Ei Fawrhydi ar gyfer y Terfyn Gwariant Adrannol (DEL), a dylem fod wedi cael lefel resymol o hyblygrwydd o ran y rheolaethau refeniw a chyfalaf unigol. Cafodd ein penderfyniadau i sicrhau’r gwariant cyfalaf mwyaf eu gwneud gan ystyried y rheolau yng Nghanllawiau Cyllidebu Cyfunol y Trysorlys, sef bod modd newid cyllidebau refeniw yn gyfalaf – arfer yr ydym wedi’i defnyddio yn y gorffennol i reoli’r sefyllfa ariannol.

Yn dilyn trafodaeth hir gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd, a swyddogion Trysorlys Ei Mawrhydi, gwrthodwyd yr hyblygrwydd inni newid refeniw yn gyfalaf. Mae hyn er gwaethaf cael ar ddeall y byddai modd i’r anghydbwysedd o ran refeniw a chyfalaf gael ei reoli ar ôl diwedd y flwyddyn drwy addasiad o ran alldro.  O ganlyniad, cafodd cyllid ei hawlio’n ôl gan y Trysorlys oherwydd defnydd cwbl fympwyol o'r Canllawiau Cyllidebu Cyfunol nad oedd yn cydnabod yn llawn y trefniadau y cytunwyd arnynt gyda llywodraethau datganoledig yn eu priod fframweithiau ariannol.

Dylid edrych ar y sefyllfa yng nghyd-destun ehangach y DU - cyd-destun sydd yn fy marn i yn mynd rywfaint o'r ffordd at esbonio dull y Trysorlys o weithio:

  • Cyfanswm y tanwariant yn 2020-21 gan bob un o adrannau llywodraeth y DU oedd £25bn.
  • Fe wnaeth yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unig danwario dros 9%, gan ddychwelyd £18.6bn i'r Trysorlys.
  • Drwyddi draw, dychwelodd adrannau'r DU bron i 6% o'u cyllid i'r Trysorlys y flwyddyn honno.
  • Yng Nghymru, roedd y ffigur a ddychwelwyd yn cynrychioli 1% yn unig o’r adnoddau sydd gennym ar gael.
  • Byddai cyfran Barnett o'r cyllid a ddychwelwyd i'r Trysorlys gan adrannau'r DU wedi bod yn ymhell dros £1bn, yn hytrach na'r £155m is o lawer (na fyddai wedi bod yn ddim pe bai'r newid o refeniw i gyfalaf wedi cael ei gytuno)

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes hir o fod ymysg adrannau gorau'r DU a'r llywodraethau datganoledig o ran defnyddio ein cyllideb. Roedd hyn yn dal yn wir yn 2020-21. Roedd ein gwell rheolaeth o arian cyhoeddus yn golygu ein bod yn gallu gwneud mwy yng Nghymru i gefnogi pobl a busnesau trwy'r pandemig – er enghraifft drwy ddarparu pecyn cefnogaeth mwy hael i fusnesau yma, a darparu prydau ysgol am ddim i deuluoedd trwy gydol gwyliau'r ysgol.