Neidio i'r prif gynnwy

Archwilio darlun bach o'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Rhaglen Datgarboneiddio Cartrefi

Un o’r heriau mwyaf yn yr argyfwng newid hinsawdd yw datgarboneiddio ein cartrefi.

Drwy ei Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP), mae Llywodraeth Cymru wedi cychwyn rhaglen fuddsoddi sylweddol i wneud gwelliannau ynni-effeithlon a gosod systemau ynni adnewyddadwy yn nhai cymdeithasol Cymru, drwy weithio â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol.

Lansiwyd y rhaglen yn 2020 ac mae eisoes wedi rhoi cymorth ariannol i landlordiaid cymdeithasol ac awdurdodau lleol sy’n dal stoc dai i ôl-osod cyfarpar mewn dros 7,000 o gartrefi drwy fesurau fel inswleiddio, awyru ac yn awr oeri ochr yn ochr â systemau storio ynni a systemau gwresogi nad ydynt yn defnyddio tanwydd ffosil. 

Ac er mai prif nod y rhaglen yw cyfrannu at uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i gyrraedd sero net, bydd hefyd yn creu swyddi, gan helpu i greu economi werdd newydd ar gyfer Cymru.

Wyn Prichard yw cadeirydd grŵp Sgiliau a Chynghori ORP sydd wedi gweithio i gefnogi’r rhaglen drwy lunio’r ddarpariaeth hyfforddiant sero net. Mae’n dweud:

“Mae’n gyffrous iawn oherwydd yr hyn rydyn ni’n ei weld ydy sector sero net adnewyddadwy yn cael ei ddatblygu, sector sydd â’r potensial i greu miloedd o swyddi lleol. Mae’n cynnwys gwasanaethau adeiladu a pheirianneg, gweithgynhyrchu, roboteg, awtomeiddio, a chartrefi clyfar. Mae’r cyfleoedd am swyddi yma yn eang ac yn amrywiol. Yr her yw sut rydyn ni’n sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn cael eu cefnogi gan fframweithiau sgiliau a hyfforddiant.”

Mae grŵp Sgiliau a Cynghori ORP wedi dwyn ynghyd gymuned o arbenigwyr sero net o bob cwr o’r Deyrnas Unedig gan gynnwys nifer o gymdeithasau masnach. Datblygodd matrics sgiliau sero net cyntaf y Deyrnas Unedig ac mae wedi sefydlu fframwaith sgiliau.

Wyn eglura:

“Fe wnaethon fapio pa sgiliau sydd eu hangen, pa hyfforddiant sy’n ofynnol, lle mae’r bylchau a sut i’w llenwi. Cafodd fframweithiau hyfforddiant newydd eu sefydlu ac mae llwybrau gyrfa newydd wedi agor. Mae’n golygu, os oes ar rywun eisiau gyrfa mewn technoleg gwres, adnewyddadwy, er enghraifft, mae’r llwybr hyfforddiant yn awr ar gael.”

Mae cynlluniau Prentisiaethau Cymreig eisoes yn gweithredu i gefnogi’r trawsnewid i sero net ac i roi hwb i yrfaoedd, tra bod y Cyfrifon Dysgu Personol – sy’n gymwysterau ac yn gyrsiau hyblyg, am ddim, a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig y cyfle i ddatblygu neu newid gyrfaoedd. Ac er mwyn annog unigolion mewn sectorau allweddol i ymrwymo, mae’r cap cyflog ar gyfer cymhwyso wedi cael ei ddileu ar gyfer cyrsiau adeiladu, peirianneg a gweithgynhyrchu.

Nid oes ond disgwyl i’r galw am gartrefi sero net gynyddu, felly mae gofyn denu llawer mwy o bobl ifanc i’r sector.  O waith dylunio, gweithgynhyrchu, logisteg a gosod, mae cyfleoedd gyrfa ar gael i weithwyr tra-medrus ar draws amryfal feysydd. Yn y cyfamser, bydd gweithwyr medrus sy’n ystyried ymddeol, plastrwyr, plymwyr a thrydanwyr, yn cael eu hannog i aros i hyfforddi’r recriwtiaid newydd.

“Wrth gwrs, nid sgiliau sefydlog yw’r rhain ac, wrth i dechnolegau newydd ddatblygu, bydd angen i sgiliau esblygu’n gyson,” meddai Wyn. “Nid ydym hyd yn oed yn gwybod eto sut fath o swyddi fydd ar gael i’r dyfodol. Caiff llawer o dechnolegau newydd eu mabwysiadu a bydd gofyn cael hyfforddiant arbenigol. Dyna pam ei bod mor bwysig inni weithio gyda chymdeithasau masnach a sefydliadau eraill er mwyn inni allu addasu’n gyflym a rhoi’r hyfforddiant ar waith ar unwaith.”

Tom Boome yw’r Pennaeth Technegol, Arloesi a Hinsawdd yn Clwyd Alyn, sy’n landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gweithredu ar draws gogledd Cymru. Eglura fod eu cadwyn gyflenwi yn newid yn barhaus:

“Rydyn ni’n gweld BBaChau yn ein cadwyn gyflenwi sydd â’r awydd i ailhyfforddi a datblygu sgiliau newydd i fodloni’r galw. Rydyn ni’n gweld BBaChau a oedd yn arfer canolbwyntio ar grefftau traddodiadol sy’n awr wedi cymhwyso i osod deunydd inswleiddio mewn waliau, paneli solar, storfeydd batris a phympiau gwres. Mae gennyn ni’n awr gwmni sy’n awyddus i hyfforddi i osod papur wal isgoch trydan i wresogi cartrefi. Mae’r cyllid gan y rhaglen ORP yn caniatáu inni fel landlord cymdeithasol cofrestredig edrych i’r dyfodol a buddsoddi mewn sgiliau.”

Ond her arall, yn ôl Wyn, yw sut mae’r sector yn datblygu hyder defnyddwyr:

"Mae’n gwbl hanfodol ein bod yn meithrin hygrededd a chymhwysedd ar gyfer gosod atebion sero net yn y cartref. Os ydym am lwyddo i ddatgarboneiddio mwy nag ond tai cymdeithasol, mae angen i berchnogion tai fod â’r hyder i fuddsoddi. Mae’n her aruthrol ond mae cynlluniau sicrhau ansawdd yn helpu i roi i’r cyhoedd yn ehangach y sicrhad y caiff y gwaith ei wneud i safon uchel. Dyna pam bod y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn annog busnesau yng Nghymru i ennill achrediad ar gyfer eu gwasanaethau gan sefydliadau fel Trustmark."

A’r ffocws hwn ar feithrin cymhwysedd fydd yn allweddol i sicrhau twf aruthrol yn y sector sero net, adnewyddadwy newydd ac i greu swyddi ar draws Cymru:

“Ni allwn fforddio peidio â gwneud hyn yn iawn,” meddai Wyn. “Dyna pam, yng Nghymru, yr ydym yn gweithredu mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn ogystal ag ar sgiliau. Mae’n holl bwysig ein bod yn edrych ar y darlun mawr o safbwynt y prynwr. Y dull hwn sydd wedi cael ei ganmol gan nifer o gyrff masnach sy’n dweud bod Cymru yn bendant yn arwain y ffordd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio a sut all Cymru weithio fel un i ddyfeisio atebion sero net arloesol, ewch i’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio | LLYW.CYMRU.