Neidio i'r prif gynnwy

Mynychwyr

Frances Duffy, Cadeirydd
Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith
Leighton Jones, Ysgrifenyddiaeth

Cyflwyniad

Gwnaeth Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol gyfarfod ar ddydd Mawrth 14 Mawrth.

Nod y cyfarfod oedd trafod y strategaeth ddrafft ar gyfer 2023 i 2025, cytuno ar y cynllun gwaith drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 i 2024, ac ystyried y gofrestr risgiau chwarterol. Dadansoddodd y panel hefyd ymholiadau a gafwyd ers cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2023.

Ceir crynodeb isod o drafodaethau a phenderfyniadau’r Panel.

Y strategaeth ar gyfer 2023 i 2025

Adolygodd y Panel ei strategaeth ddrafft ar gyfer y blynyddoedd o 2023 i 2025. Caiff y ddogfen derfynol a gymeradwywyd ei chyhoeddi ar y wefan a’i dosbarthu i’r holl rhanddeiliaid.

Cynllun gwaith ar gyfer 2023 i 2024

Ystyriodd y Panel y cynllun gwaith drafft ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod gan wneud diwygiadau iddo. Caiff y cynllun gwaith ei adrodd yn erbyn pob mis, o’r cyfarfod nesaf ym mis Ebrill ymlaen.

Y Gofrestr Risgiau

Ystyriodd y Panel ei gofrestr risgiau ar gyfer y cyfnod chwarterol rhwng mis Ionawr a mis Mawrth. Adolygwyd y gofrestr i ystyried unrhyw risgiau a liniarwyd yn y cyfamser. Gofynnwyd i bob aelod o’r panel roi diweddariad ar risgiau a nodwyd drwy’r ddogfen gyfan. Caiff hon ei chymeradwyo yng nghyfarfod mis Ebrill.

Adroddiad Blynyddol 2023

Ystyriodd y Panel bapur ar yr ymholiadau a gafwyd ers cyhoeddi adroddiad blynyddol 2023. Argymhellodd y papur y dylai’r Panel gyhoeddi gohebiaeth i bob Cyngor Cymuned a Thref gan egluro’r pwyntiau a godwyd.

Unrhyw Fater Arall

Trafododd y Panel a chytunwyd ar ymateb cam tendro unigol gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn). Fel rhan o’r ymateb hwn bydd y Comisiwn yn ystyried diweddaru cynnwys gwefan y Panel ac yn helpu i ddatblygu cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu ar gyfer 2023 i 2025.

Y cyfarfod nesaf

Caiff cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ei gynnal ddydd Mercher 26 Ebrill. Bydd y Panel yn cwblhau ei strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu ac yn trafod cydymffurfiaeth Cynghorau Cymuned a Thref.

Pe bai gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi â’r Panel, mae croeso i chi gysylltu â’r Ysgrifenyddiaeth drwy e-bostio IRPMailbox@llyw.cymru.