Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion diweddaraf am ddeddfwriaeth caffael.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 28 Mawrth, arweiniodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y ddadl ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (LCMs) mewn perthynas â’r Bil Caffael yn y Senedd. I'r rhai a fethodd y ddadl, mae recordiad a thrawsgrifiad o'r ddadl i’w cael.

Roedd y ddadl yn garreg filltir bwysig yn nhaith ddeddfwriaethol y Bil yng Nghymru.

Gan fod y Senedd wedi cydsynio i’r darpariaethau caffael craidd sydd yn y Bil, byddwn yn parhau i ddatblygu’r cyfleoedd dysgu a datblygu i gefnogi gweithrediad y Bil. Byddwn hefyd yn paratoi systemau cyn y newidiadau arfaethedig sydd eu hangen fel rhan o'r gwaith Diwygio Caffael.

Byddwn yn parhau i ddatblygu’r is-ddeddfwriaeth sy’n ofynnol drwy’r Bil a byddwn yn rhoi gwybod i chi am ddyddiadau a cherrig milltir allweddol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r Bil a'i daith, e-bostiwch: TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru