Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn trafodaethau helaeth ag undebau a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynnig cyflog newydd gwell i athrawon a phenaethiaid.

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23, yn ogystal â'r codiad cyflog o 5% a ddyfarnwyd eisoes, roedd y cynnig cyflog diwygiedig yn cynnwys 3% arall, gydag 1.5% ohono yn gyfunedig ac 1.5% ohono heb fod yn gyfunedig.

O ganlyniad, byddaf heddiw yn gwneud Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023 sy'n rhoi effaith i adran 2 o Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 (diwygiwyd) – Ebrill 2023.

Bydd y dyfarniad cyflog yn cael ei ôl-ddyddio i 1 Medi 2022. Y cyflogwyr fydd yn gyfrifol am bennu amseriad gweithredu'r dyfarniad. Mae’r trafodaethau cychwynnol ag awdurdodau lleol wedi bod yn gadarnhaol, gyda'r nod o drefnu bod ôl-daliadau yn cael eu trosglwyddo cyn gynted â phosibl, cyn diwedd mis Ebrill gobeithio.

Mae'r Gorchymyn sy'n cael ei wneud heddiw yn rhoi effaith i’r codiadau cyflog ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23 bresennol yn unig. Mae gwneud Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon yn broses flynyddol a bydd y codiad cyflog pellach o 5% a gynigir ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 yn cael ei weithredu yn y Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon nesaf, ynghyd ag unrhyw newidiadau eraill i'r amodau yn dilyn trafodaethau pellach.

Hoffwn ddiolch eto i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y trafodaethau adeiladol hyn sydd wedi dod â ni i'r pwynt hwn. Rwy'n croesawu'r cyfle i barhau i gydweithio â rhanddeiliaid ar adolygiad cynhwysfawr o strwythur cyflog ac amodau athrawon ac arweinwyr. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd pellach inni wella ac ehangu’r system a, lle gallwn ni, ei gwneud yn decach ac yn fwy tryloyw i bob athro. Bydd gweithio mewn partneriaeth o'r fath hefyd yn helpu i hyrwyddo addysgu fel dewis proffesiwn i raddedigion a’r rhai hynny sydd am newid gyrfa.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.