Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r datganiad ysgrifenedig hwn yn crynhoi’r dadleuon a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU a sut y bydd eu system Rhybuddion Argyfwng yn cael ei phrofi yng Nghymru.

Ar ddydd Sul 23 Ebrill am 15:00, bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi neges Brawf Genedlaethol fel rhan o waith treialu dros dri mis ei system Rhybuddion Argyfwng newydd. Bydd y neges brawf yn cael ei hanfon i’r rhan fwyaf o ffonau symudol ar draws y DU, gan gynnwys yma yng Nghymru. Bydd dyfeisiau’n gwneud sŵn unigryw tebyg i seiren am hyd at 10 eiliad, gan gynnwys ar ffonau sydd ar osodiad tawel.

Bydd y system Rhybuddion Argyfwng yn cael ei defnyddio i rybuddio pobl os bydd argyfwng lle mae bygythiad sylweddol i fywyd. Anfonir Rhybuddion Argyfwng i bob ffôn symudol cydweddol o fewn ardal benodol o risg.

Nid yw’r System Rhybuddion Argyfwng yn olrhain lleoliadau, ac nid oes angen unrhyw rifau cyn-gofrestru na rhifau ffôn i’w weithredu.ac Nid yw’r system ychwaith yn casglu unrhyw ddata personol. Dim ond y llywodraeth a’r gwasanaethau brys fydd yn gallu cyhoeddi’r Rhybuddion Argyfwng yn unol â phrotocolau y cytunwyd arnynt.

Os nad oes gan bobl ffôn symudol, byddant yn cael eu hysbysu drwy sianeli eraill. Bydd y system yn ategu’r dulliau presennol o rybuddio a hysbysu.

Yn ogystal â’r Rhybuddion Argyfwng sy’n creu sŵn uchel tebyg i seiren, bydd neges yn ymddangos ar y sgrin a bydd yn rhoi manylion am yr argyfwng a’r ffordd orau o ymateb. Bydd pobl yn gallu gwirio bod rhybudd yn ddilys ar https://www.gov.uk/alerts/about.cy (dolen allanol).

Bydd Cymru yn cymryd rhan yn yr ymarfer treialu  mewn perthynas â digwyddiadau difrifol sy’n ymwneud â’r tywydd.

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgyrch cyfathrebu cyhoeddus i roi gwybod i aelodau’r cyhoedd am y prawf sydd ar y gweill. Mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i’r afael â’r ymgyrch hon; gan weithio i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei pharchu a bod cynulleidfaoedd sy’n agored i niwed yn ymwybodol o’r prawf.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.