Neidio i'r prif gynnwy

31 Mawrth 2023

27 Ionawr 2023

25 Tachwedd 2022

  • Yr wybodaeth ddiweddaraf am Adolygiad Adran 20 Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a'r cynlluniau sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella dealltwriaeth o'r egwyddor datblygu cynaliadwy sydd wrth wraidd y ffordd y Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio a'i roi ar waith yn well.
  • Cyflwyniad gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar y rhyngweithio rhwng y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf am Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru nesaf gan Ddirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

23 Medi 2022

  • Cyflwyniad gan Brif Ystadegydd Llywodraeth Cymru ar Adroddiad Llesiant Cymru 2022, gan gynnwys trafodaeth ar ddangosyddion cenedlaethol Cymru.
  • Sesiwn a gynhelir gan arweinydd is-grŵp busnes y Fforwm o swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

22 Gorffennaf 2022

  • Trafodaeth ar rannu arferion gorau rhwng cyrff cyhoeddus y mae dyletswydd llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn berthnasol iddynt ar hyn o bryd a chyrff cyhoeddus ychwanegol sy'n destun ymgynghoriad ynghylch a dylid eu cynnwys yn y dyfodol.
  • Cyflwyniad ar yr Adolygiad Gwerth Cymdeithasol gan swyddogion CWMPAS.
  • Trafodaeth a arweinir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a swyddogion Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gasglu ac arddangos enghreifftiau o arferion da a meddwl am brofiadau.

22 Mai 2022

  • Yr wybodaeth ddiweddaraf gan is-grwpiau cyfranogiad, mentora a busnes y Fforwm.
  • Cyflwyniad ar adolygiad Llywodraeth Cymru o gyrff cyhoeddus y mae dyletswydd llesiant Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn berthnasol iddynt mewn ymateb i argymhelliad 7 o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (5ed Senedd), Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol – y stori hyd yn hyn ac argymhelliad 2 o adroddiad Archwilio Cymru, Felly, beth sy'n wahanol? Canfyddiadau Archwiliadau Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yr Archwilydd Cyffredinol.
  • Cyflwyniad ar ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn y cymorth sydd ar gael i gyrff cyhoeddus gan Academi Wales a swyddogion Llywodraeth Cymru.

23 Mawrth 2022

  • Rhoddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, grynodeb o'r camau a gymerwyd gan y Llywodraeth yn ddiweddar ar agenda Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
  • Trafodaeth ar amrywiaeth ym maes cynaliadwyedd, gan gynnwys swyddogion Cyswllt Amgylchedd Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Sophie Howe, a swyddogion sy'n arwain ar Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

28 Ionawr 2022

  • Trafodaeth ar amrywiaeth ym maes cynaliadwyedd, y gerdd A History of Invention, a sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ein helpu i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud ag allgáu a gwahaniaethu.

26 Tachwedd 2021

24 Medi 2021

  • Trafodaeth ar ganlyniadau adolygiad o waith y Fforwm.
  • Trafodaeth ar sut i ddatblygu'r Fforwm fel adnodd ar gyfer cydweithio â swyddogion polisi Llywodraeth Cymru.

30 Gorffennaf 2021

17 Mawrth 2021

17 Chwefror 2021