Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cynghorau cymuned a thref yn cael eu hethol yn ddemocrataidd ac yn gweithredu ar lefel fwyaf lleol democratiaeth. Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf am dair rhan allweddol o’r gwaith o gefnogi a datblygu’r sector cyngor cymuned a thref i gyflawni eu rolau’n effeithiol.

Mae’r rhan allweddol gyntaf yn ymwneud â’n diddordeb cyffredin mewn diogelu democratiaeth iach ar bob lefel o lywodraeth. Mae fy swyddogion wedi gorffen eu dadansoddiad o etholiadau’r cynghorau cymuned a thref ym mis Mai, ac mae’r data’n codi pryderon difrifol ynghylch y lefel o ymgysylltu rhwng cymunedau a’u cynghorau. Yn etholiadau mis Mai, dim ond 22% o’r 7,883 o seddi oedd â chystadleuaeth. Roedd 62% o’r seddi’n rhai diymgeisydd – sy’n golygu na chynhaliwyd etholiad – ac roedd 16% o’r seddi heb eu llenwi, a chânt eu llenwi drwy etholiad ychwanegol neu drwy gyfethol.

Yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar y pwnc hwn ym mis Gorffennaf 2022, cyfeiriais at ddau fater allweddol. Y cyntaf oedd sicrhau bod gan bobl ddewis gwirioneddol o ran pwy sy’n eu cynrychioli a’u gwasanaethu. Roedd yr ail yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn teimlo bod cymryd rhan ar y lefel hon o ddemocratiaeth yn ffordd o gyflawni newid, ac felly eu bod yn dymuno sefyll i gael eu hethol. Cadarnhaodd canlyniadau diweddaraf yr etholiad fod angen rhoi sylw brys i’r materion hyn. Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y cynnydd.

Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio gydag Un Llais Cymru i roi grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd ar waith er mwyn ymchwilio i’r hyn sydd wedi achosi i gymunedau ymgysylltu’n llai â rhai cynghorau cymuned a thref. Bydd yn dysgu o lwyddiannau cynghorau eraill ac yn awgrymu opsiynau am gamau gweithredu i wella ymgysylltu a chyfranogiad yn gyson.

Rwy’n falch o gyhoeddi ein bod wedi cytuno ar gylch gorchwyl ac aelodaeth y grŵp. Eu nodau craidd fydd nodi opsiynau am gamau gweithredu er mwyn i gynghorau cymuned a thref, cyrff sy’n cynrychioli’r sector, a’r llywodraeth, wneud y canlynol:

  • Codi ymwybyddiaeth a gwella ymgysylltiad rhwng cymunedau a’u cynghorau cymuned
  • Cynyddu nifer, ac amrywiaeth, yr ymgeiswyr sy’n sefyll i gael eu hethol ar gyfer cynghorau cymuned a thref. 

Bydd y grŵp hwn yn ymuno â’r gwaith cysylltiedig parhaus ym maes diwygio etholiadol a gwella amrywiaeth mewn democratiaeth. Hoffwn iddynt weithio’n gyflym ac adrodd yn ôl o fewn naw mis iddynt ddechrau.

Rwy’n falch bod Shereen Williams, Prif Weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, wedi cytuno i gadeirio’r gwaith pwysig hwn. Yr aelodau eraill fydd:

    • Cynghorydd Mike Theodoulou – Cadeirydd Un Llais Cymru
    • Dr Leah Hibbs – Darlithydd, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd
    • Sue Leonard – Prif Swyddog yng Nghymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, y cyngor gwirfoddol sirol ar gyfer Sir Benfro.
    • Sue Husband – Cyfarwyddwr, Busnes yn y Gymuned Cymru
    • Tilley Rees – Myfyriwr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Byddant yn cynnig ystod eang o brofiadau ac arbenigedd, gan gyflwyno ffordd newydd o feddwl, wrth wynebu’r her o wella iechyd democrataidd cynghorau cymuned.

Yn olaf, rwyf wedi gofyn i Un Llais Cymru gefnogi’r sector cyngor cymuned gan ystyried sut y gallant helpu eu cymunedau yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus. Gall cynghorau cymuned weithredu ar lawr gwlad, gan adnabod y bobl fwyaf agored i niwed yn eu hardaloedd, ac maen nhw mewn sefyllfa dda i’w cefnogi. Byddai'r gefnogaeth hon yn ategu cefnogaeth bresennol awdurdodau cenedlaethol a lleol. Rwyf wedi sicrhau bod hyd at £150,000 y flwyddyn ar gael i Un Llais Cymru, am y tair blynedd nesaf, er mwyn cefnogi cynghorau gyda’r gwaith hwn.

Rwy’n falch iawn o weithio’n agos gydag Un Llais Cymru, a phartneriaid eraill yn y sector, wrth ddatblygu rhannau hyn y gwaith.