Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Erbyn hyn, mae bron yn 8 mis ers inni gwblhau’n Harchwiliad Dwfn i Ynni Adnewyddadwy, lle gwnaed 21 o argymhellion er mwyn ceisio dileu’r rhwystrau a chreu rhagor o gyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Roedd ein diweddariad chwemisol cyntaf o’r archwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy  yn canolbwyntio ar y camau a gymerwyd hyd at fis Medi 2022, ac yn dangos y cynnydd a wnaed ar bob un o'r argymhellion, yn ogystal â'r camau breision a gymerwyd i hyrwyddo ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Rwy'n falch bellach o gael cyhoeddi’n hail ddiweddariad chwemisol. Mae'r adroddiad hwn yn tanlinellu rhywfaint o'r gwaith mwy arwyddocaol a wnaed ar ein hargymhellion rhwng mis Hydref 2022 a mis Mawrth 2023, a hefyd rai o'r cerrig milltir allweddol nesaf a fydd yn ein helpu i wireddu'r argymhellion hynny.

Mae'r adroddiad yn dangos yr ymdrechion a wnaed gan Lywodraeth Cymru i newid yr ynni a ddefnyddiwn, gan newid o ddibyniaeth ar danwyddau ffosil i sector ynni adnewyddadwy cryf, hirdymor a chynaliadwy a fydd yn cadw'r cyfoeth ar gyfer ein cymunedau yma yng Nghymru. Un o’r cerrig milltir pwysig oedd cyhoeddi’n hymgynghoriad ar dargedau ynni adnewyddadwy newydd. Mae'r targedau hynny'n ailddatgan ein gweledigaeth, sef sicrhau bod Cymru yn diwallu o leiaf ein hanghenion trydan gan ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy. Nod ein gwaith ar Gynlluniau Ynni Ardaloedd Lleol, a fydd yn bwydo i mewn i Gynllun Ynni Cenedlaethol, a'n gwaith ar Gridiau'r Dyfodol, yw mapio'r seilwaith y bydd ei angen arnom er mwyn deall a diwallu’n hanghenion ynni a gwireddu’n hymrwymiadau. Yn ein ‘Strategaeth ddrafft ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd’, rydym yn edrych ar sut y gallai technegau gwyddor ymddygiad nodi’r rhwystrau allweddol sy’n ein hatal rhag mabwysiadu ymddygiad gwyrdd ym maes teithio, ynni yn y cartref, bwyd a defnydd, ac rydym yn ystyried hefyd sut y gallai’r technegau hynny symbylu ymddygiad gwyrdd.   

O ran y gwaith sy’n cael ei wneud ar sut i ymateb i'r galw cynyddol am gydsyniadau a thrwyddedau ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy, mae ystyriaeth ofalus yn cael ei rhoi i’r ffordd fwyaf effeithlon o gyflymu'r broses o ystyried ceisiadau, ond gan sicrhau ar yr un pryd fod y system yn parhau’n gadarn a’i bod yn ystyried yr argyfwng natur a'r argyfwng hinsawdd yn ofalus. Mae’n gwaith i gefnogi'r sector ynni cymunedol yn helpu i sicrhau bod pob cymuned yng Nghymru, ond yn enwedig y rheini sy'n gartref i ddatblygiadau adnewyddadwy, yn elwa ar y newid i Sero Net.

Mae gwaith a wnaed gan ein his-grŵp Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy wedi helpu i nodi ysgogiadau ariannol y gallwn ddechrau eu defnyddio er mwyn symbylu datblygiadau adnewyddadwy ar draws sawl sector. Rydym, er hynny, yn cydnabod bod mwy i'w wneud er mwyn gwireddu’n huchelgais a chyrraedd ein targedau, ac y bydd ysgogiadau polisi pwysig, megis ein hymgynghoriad ar dargedau adnewyddadwy, ein strategaeth gwres, a'n cynllun gweithredu sgiliau sero net yn dangos pa ymdrechion y mae angen inni eu gwneud nesaf er mwyn helpu i wireddu’n gweledigaeth.

Bydd diweddariad arall yn cael ei gyhoeddi ymhen chwe mis wrth inni weithio i fwrw ymlaen â'r argymhellion hyn, i chwalu mwy o rwystrau ac i achub ar gyfleoedd i gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy yng Nghymru.