Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mae gan rieni hawl i fynegi dewis o ran yr ysgol yr hoffent i’w plentyn ei mynychu, a phan fo lle ar gael, rhaid i’r awdurdod derbyn (yr awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu yn dibynnu ar y math o ysgol) gydymffurfio â’r dewis hwnnw fel arfer. Mae gan rieni hawl i apelio yn erbyn penderfyniad gan awdurdod derbyn i beidio â chynnig lle i’w plentyn yn yr ysgol sydd orau ganddynt. 

Ymdrinnir â dau gategori ar wahân o apelau derbyn o dan y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion (“y Cod Apelau”):

  • apelau yn erbyn penderfyniad awdurdod derbyn i wrthod derbyn i ysgol a gynhelir
  • apelau gan gyrff llywodraethu ysgolion cymunedol neu ysgolion gwirfoddol a reolir yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod lleol (sef yr awdurdod derbyn ar eu cyfer) i dderbyn plentyn i’w hysgol sydd wedi’i wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu fwy cyn hynny

Mae paneli apelau derbyn yn annibynnol ar yr awdurdod derbyn. Fel rhan o’i drafodaethau, dylai’r panel ystyried a yw’r awdurdod derbyn wedi gweithredu ei drefniadau derbyn yn gywir wrth ddod i’w benderfyniad.

Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”) yn rhagnodi materion sy’n ymwneud ag apelau sy’n cael eu dwyn o dan adrannau 94 a 95 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Mae’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion yn gosod gofynion gorfodol ar awdurdodau derbyn er mwyn sicrhau bod y broses apelio yn deg ac yn dryloyw.

Wrth ymgymryd â’u swyddogaethau derbyn i ysgolion, rhaid i awdurdodau derbyn, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion (pan nad ydynt yn gweithredu fel awdurdodau derbyn) a phaneli apêl gydymffurfio â Rheoliadau 2005, y Cod Derbyn i Ysgolion a’r Cod Apelau.

Mae Rheoliadau 2005 a’r Cod Apelau ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer cynnal gwrandawiadau apêl yn bersonol (wyneb yn wyneb). 

Diwygiadau dros dro i drefniadau apelio yng Nghymru

Oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd mewn ymateb i bandemig COVID-19, nid oedd bob amser yn bosibl nac yn briodol cydymffurfio â’r Cod Apelau a Rheoliadau 2005. Er enghraifft, roedd cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol yn ei gwneud yn amhosibl cynnal gwrandawiadau wyneb yn wyneb.

Felly cyflwynodd Llywodraeth Cymru Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020. Diwygiodd Rheoliadau 2020 Reoliadau 2005 a’r Cod Apelau dros dro i roi rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol i awdurdodau derbyn, awdurdodau lleol a phaneli apêl wrth ymdrin ag apelau yn ystod yr argyfwng.

Roedd y newidiadau dros dro yn darparu pan nad oedd yn rhesymol ymarferol i banel apêl derbyn gydymffurfio â’r gofynion gweithdrefnol yn y Cod Apelau neu yn Atodlen 2 i Reoliadau 2005 ynghylch bod yn bresennol mewn apelau am reswm yn ymwneud â mynychder neu drosglwyddiad y coronafeirws, roeddent yn gallu cynnal gwrandawiadau drwy fynediad o bell neu benderfynu apelau ar sail yr wybodaeth ysgrifenedig a ddarparwyd.

Cafodd y newidiadau dros dro eu hymestyn ddwywaith. Daeth Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) (Diwygio) 2021 i ben ar 30 Medi 2022 (yn amodol ar ddarpariaethau trosiannol penodol ar gyfer apelau a oedd eisoes yn yr arfaeth ar y dyddiad hwnnw).

Adolygiad o effeithiolrwydd y trefniadau dros dro

Yn ystod haf 2022, cynhaliodd swyddogion adolygiad o effeithiolrwydd y trefniadau dros dro ar ffurf arolwg o Grŵp Swyddogion Derbyn i Ysgolion Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, sydd â chynrychiolaeth o bob un o’r 22 awdurdod lleol ac awdurdodau esgobaethol. Ymatebodd 18 awdurdod lleol, ynghyd ag un awdurdod esgobaethol a ymatebodd ar ran ysgolion y mae’r corff llywodraethu yn awdurdod derbyn iddynt mewn un ardal awdurdod lleol.

Dangosodd dadansoddiad o’r ymatebion i’r arolwg, ers i’r trefniadau dros dro ddod i rym, bod cyfanswm o 3,543 o apelau gan ymatebwyr wedi’u clywed, a bod 2,937 (83%) ohonynt wedi’u cynnal o bell. Roedd 943 o apelau yn llwyddiannus. Roedd yr adborth gan yr ymatebwyr yn gadarnhaol, gan awgrymu bod y trefniadau dros dro yn gweithio’n dda ac yn cynnig buddion i awdurdodau lleol, awdurdodau derbyn, ysgolion a phaneli apêl o ran lleihau amser a chostau.

Rhannodd nifer o awdurdodau lleol adborth cadarnhaol roeddent wedi’i gael gan rieni. Roedd hyn yn cynnwys rhieni yn peidio â gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith, peidio â gorfod trefnu gofal plant a pheidio â gorfod teithio i leoliadau i fod yn bresennol mewn gwrandawiadau. Adroddodd awdurdodau lleol hefyd y canfyddiad bod teuluoedd i weld yn fwy cyfforddus yn delio â’u hapêl gartref yn eu hamgylchedd eu hunain. Rydym yn gobeithio casglu mwy o dystiolaeth ynghylch barn uniongyrchol rhieni am y trefniadau hyn drwy’r ymgynghoriad ffurfiol.

Cafwyd rhai problemau cychwynnol gyda TG, a oedd fel arfer yn cael eu datrys yn gyflym. Dros gyfnod y trefniadau dros dro, mae awdurdodau derbyn a phaneli apêl wedi dod i arfer â chynnal apelau o bell ac wedi rhoi’r dechnoleg a’r gefnogaeth angenrheidiol ar waith i’w hwyluso.

Codwyd rhai pryderon ynghylch defnyddio apelau ysgrifenedig fel dewis cyntaf, gydag un awdurdod yn gofyn am benderfynu apelau ar sail gwybodaeth ysgrifenedig yn unig pan na fo gwrandawiadau wyneb yn wyneb nac o bell yn bosibl.

Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol wedi gofyn am gadw’r hyblygrwydd a ddarperir gan apelau o bell a’i wneud yn barhaol. 

Rydym felly yn ymgynghori ar newidiadau i’r Cod Apelau a Rheoliadau 2005 i ychwanegu opsiwn ar gyfer cynnal gwrandawiadau apêl o bell yn ogystal ag wyneb yn wyneb. 

Adran 8: casgliad

Sut mae’r bobl sy’n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi cael eu cynnwys wrth ei ddatblygu?

Mae gan awdurdodau lleol ac ysgolion sy’n gweithredu fel eu hawdurdodau derbyn eu hunain brofiad o gynnal apelau o bell yn ystod pandemig y Coronafeirws. Mae’r cynigion yn gwneud rhai o’r trefniadau dros dro a roddwyd yn eu lle ar y pryd yn barhaol, gyda rhai addasiadau. Rydym wedi ymgysylltu â Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru a grŵp y Swyddogion Derbyniadau Ysgolion, sydd â chynrychiolaeth o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, a hefyd awdurdodau esgobaethol drwy arolwg i adolygu’r trefniadau hyn. Cafwyd safbwyntiau rhai rhieni a fu’n rhan o apelau o bell yn yr arolwg hefyd. Gofynnodd pob un o'r 22 awdurdod lleol am wneud y newidiadau dros dro o ran apeliadau o bell yn barhaol.

Ers hynny, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 18 Ionawr a 22 Mawrth 2023 ynglŷn â newidiadau i drefniadau apelio er mwyn caniatáu i apelau ddigwydd o bell. Cafwyd 50 ymateb gan awdurdodau lleol, awdurdodau esgobaethol, aelodau'r panel apêl a sefydliadau fel Estyn, undebau ysgolion, y Gymdeithas Addysg Gatholig, y Lleng Brydeinig Frenhinol a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Roedd cefnogaeth eang i'r cynigion.

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Effeithiau cadarnhaol

  • Hyblygrwydd i awdurdodau derbyn benderfynu a yw apeliadau'n cael eu cynnal o bell, wyneb yn wyneb neu drwy gymysgedd o'r ddau, a sicrhau bod y broses yn parhau’n deg. Mae hyn yn caniatáu i awdurdodau derbyn ymateb i faterion lleol a materion cenedlaethol.
  • Gostyngiad mewn amser a chostau i awdurdodau lleol o ran dod o hyd i leoliadau a’u hariannu ar gyfer apelau, costau teithio ac amser i ffwrdd o’r gwaith gan staff. 
  • Gostyngiad mewn amser a chostau i rieni/pobl ifanc gan gynnwys o ran amser i ffwrdd o'r gwaith, peidio â gorfod trefnu ac ariannu gofal plant, costau trafnidiaeth i leoliadau a'r ddau riant yn gallu cymryd rhan o leoliadau ar wahân os oes angen.
  • Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod rhieni'n teimlo'n fwy cyfforddus yn cynnal apelau o'u cartref eu hunain. Yn yr un modd, mae aelodau'r panel, y mae llawer ohonynt yn hŷn, yn teimlo’n fwy cyfforddus yn cymryd rhan mewn apelau o bell, gan eu bod yn teimlo ei fod yn lleihau’r posibilrwydd o ddal COVID-19 ac afiechydon tymhorol eraill
  • Pan fo apelau'n cael eu cynnal o bell bydd y gostyngiad o ran teithio yn cael effaith fach ond cadarnhaol ar yr amgylchedd.

Effeithiau negyddol

  • Materion cysylltedd posibl mewn rhai ardaloedd mwy gwledig. 
  • Efallai nad oes gan rai teuluoedd y dechnoleg angenrheidiol i gynnal apelau o bell.
  • Mae'n bosibl na fydd rhai pobl anabl sydd ag anabledd penodol yn gallu cyflwyno eu hachos yn effeithiol drwy gynhadledd fideo.

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu

  • yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Nod y cynnig yw sicrhau bod apeliadau derbyn i ysgolion yn cael eu cynnal yn y ffordd fwyaf effeithlon, gan sicrhau bod yr holl apeliadau ar gyfer ysgolion a gynhelir yn parhau i gael eu cynnal yn deg ac yn unol â'r gyfraith cydraddoldeb a dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. Wrth wneud hynny, mae'r cynigion yn osgoi unrhyw effaith negyddol ar amcan llesiant Llywodraeth Cymru i barhau â'n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi. Mae’r cynigion hefyd yn cyfrannu at ein hamcan llesiant o ran y newid hinsawdd.

Nid ydym yn gosod unrhyw ofynion newydd ar awdurdodau derbyn. Bydd ganddynt yr hyblygrwydd i benderfynu a ddylid cynnal apeliadau o bell, wyneb yn wyneb neu drwy gymysgedd o'r ddau. 

Mae’r rheoliadau newydd, sef Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn darparu y gall awdurdod derbyn ond penderfynu cynnal gwrandawiad apêl o bell, neu'n rhannol o bell ac yn rhannol o bell ac yn rhannol wyneb yn wyneb (hybrid), ar yr amod bod apelwyr ac awdurdodau derbyn yn gallu cyflwyno eu hachos yn llawn a bod gan bob cyfranogwr fynediad at dull electronig i ganiatáu i hyn ddigwydd.

Anogir Clerc y Panel Apelau i ymgysylltu ag apelwyr cyn y gwrandawiad i sicrhau eu bod yn deall eu gofynion a’u bod yn gallu cymryd rhan mor llawn â phosibl. Mae hyn yn cynnwys, wrth ystyried presenoldeb a chynrychiolaeth apelydd yn y gwrandawiad, mynediad o bell a'r ddyletswydd i ystyried unrhyw addasiadau rhesymol y gall fod eu hangen. Bydd y clerc yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wneir mewn perthynas â cheisiadau am addasiadau rhesymol yn cael eu cofnodi fel rhan o'r cofnod o’r apêl a'u cadarnhau gyda'r apelydd yn ysgrifenedig cyn y gwrandawiad yr apêl.

Mae awdurdodau derbyn yn gyfarwydd iawn â deall a darparu ar gyfer anghenion teuluoedd yn eu hardal leol, gan gynnwys darparu Iaith Arwyddion Prydain, cyfieithwyr a phapurau’r apêl mewn ffurfiau amgen.

Mae'r Cod Apeliadau yn darparu y gallai'r apelydd fod yng nghwmni neu gael ei gynrychioli gan ffrind, cynghorydd, cyfieithydd neu arwyddwr a all siarad ar ran yr apelydd. Gellid defnyddio gwasanaeth eirioli annibynnol pe bai angen. Y Clerc i'r Panel Apeliadau sy'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo ddatblygu a phan ddaw i ben? 

Mae’r Cod Apelau yn destun adolygu parhaus. Byddwn yn parhau i drafod ag awdurdodau lleol ac awdurdodau derbyn ynghylch gweithredu’r Cod diwygiedig ac yn monitro unrhyw adborth a ddaw i law gan rieni a gofalwyr.

Asesiad o’r effaith ar hawliau plant

Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Rydym yn gwneud newidiadau i Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 a’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion i gynnwys opsiwn ar gyfer cynnal apelau derbyn o bell yn ogystal ag wyneb yn wyneb. Mae’r cynnig yn gwneud yn barhaol gydag addasiadau priodol drefniadau dros dro a roddwyd ar waith mewn ymateb i bandemig y coronafeirws. Mae arolwg o awdurdodau lleol sef yr awdurdodau derbyn ar gyfer y rhan fwyaf o ysgolion Cymru yn awgrymu bod y trefniadau hyn yn gweithio’n dda ac wedi arwain at arbedion o ran amser a chostau i awdurdodau derbyn, paneli apêl a rhieni fel ei gilydd. Mae’r newidiadau yn seiliedig hefyd ar ymgynghoriad cyhoeddus wyth wythnos. Roedd cefnogaeth gref dros ben i’r cynnig, a 98% o’r ymatebion yn cefnogi’r cynnig i gynnwys opsiwn ar gyfer cynnal apelau o bell.

Esboniwch sut mae’r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Mae gan rieni hawl i fynegi dewis o ran yr ysgol yr hoffent i’w plentyn ei mynychu, a phan fo lle ar gael, rhaid i’r awdurdod derbyn gynnig lle iddynt fel arfer. Mae gan rieni y gwrthodir lle ysgol i’w plentyn, neu bobl ifanc y gwrthodir lle iddynt mewn chweched dosbarth ysgol, hawl statudol i apelio i banel apêl annibynnol. Mae apelwyr, gan gynnwys pobl ifanc, y gwrthodir lle iddynt mewn chweched dosbarth ysgol, yn cadw’r hawl i wneud sylwadau llafar yn eu hapêl. Nid yw’r newidiadau yr ydym yn eu cynnig yn effeithio ar hyn. 

Mae’r broses apelau derbyn i ysgolion yn seiliedig ar gyfiawnder naturiol a thegwch gweithdrefnol. Pan fo awdurdod derbyn yn penderfynu cynnal apêl o bell, mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) newydd 2023 yn darparu mai dim ond os bydd apelwyr ac awdurdodau derbyn yn gallu cyflwyno eu hachos yn llawn, ac os bydd gan bob unigolyn fynediad at yr adnoddau electronig gofynnol y gall awdurdod derbyn benderfynu cynnal gwrandawiad apêl o bell neu'n rhannol o bell ac yn rhannol bersonol (hybrid).

Bydd clercod yn parhau i gyflawni rôl allweddol o ran gwrandawiadau apêl, wrth roi cyngor ar y gyfraith dderbyniadau yn ogystal â chadw cofnod cywir o’r trafodion a sicrhau bod y gwrandawiad apêl yn deg. Rhaid bod gan glercod ddealltwriaeth dda o’r gyfraith ar dderbyniadau a rhaid eu bod wedi cael hyfforddiant priodol sy’n cynnwys cyfraith cydraddoldeb. Mae hyn yr un mor gymwys i wrandawiadau apêl a gynhelir o bell neu wyneb yn wyneb.

Bydd y diwygiadau arfaethedig i’r Cod Apelau a Rheoliadau 2005 yn parhau i ddiogelu buddiannau rhieni, plant a phobl ifanc drwy sicrhau bod apelau derbyn i ysgolion yn cael eu gweinyddu yn y ffordd fwyaf teg a chyfartal posibl.

Effaith ar hawliau plant
Erthygl CCUHP Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig? Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)

Sut y byddwch yn lliniaru effeithiau negyddol?

Erthygl 12: parchu barn y plentyn Mae effaith negyddol bosibl ar blant a phobl ifanc na allant (naill a nhw eu hunain neu eu rhieni) fod yn bresennol yn eu hapêl o bell am eu bod wedi’u hallgáu’n ddigidol Nododd y Fframwaith Cynhwysiant Digidol, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2010, y bobl hynny a oedd fwyaf tebygol o fod wedi’u hallgáu’n ddigidol.

Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) newydd 2023 yn darparu mai dim ond os bydd apelwyr ac awdurdodau derbyn yn gallu cyflwyno eu hachos yn llawn, ac os bydd gan bob unigolyn fynediad at yr adnoddau electronig gofynnol y gall awdurdod derbyn benderfynu cynnal gwrandawiad apêl o bell neu'n rhannol o bell ac yn rhannol bersonol (hybrid).

Pan fo awdurdod derbyn yn penderfynu cynnal apêl o bell, rhaid iddo gymryd camau i sicrhau bod pawb dan sylw yn gallu cyflwyno eu hachosion yn llawn o bell, a chael ei fodloni y gall yr apêl gael ei phenderfynu mewn ffordd deg a thryloyw.

Bydd clercod yn parhau i gyflawni rôl allweddol o ran gwrandawiadau apêl, wrth roi cyngor ar y gyfraith dderbyniadau yn ogystal â chadw cofnod cywir o’r trafodion a sicrhau bod y gwrandawiad apêl yn deg. Rhaid bod gan glercod ddealltwriaeth dda o’r gyfraith ar dderbyniadau a rhaid eu bod wedi cael hyfforddiant priodol sy’n cynnwys cyfraith cydraddoldeb. Mae hyn yr un mor gymwys i wrandawiadau apêl a gynhelir o bell neu wyneb yn wyneb.

Dylai Clerc y Panel Apêl ymgysylltu â’r apelwyr cyn y gwrandawiad er mwyn deall eu gofynion a sicrhau eu bod yn gallu chwarae rhan mor lawn â phosibl.
Erthygl 28: yr hawl i gael addysg

Nid oes effaith ar hawl plentyn i addysg.

Defnydd effeithlon o adnoddau.

Mae gan rieni hawl i apelio penderfyniad gan awdurdod derbyn i wrthod derbyn eu plentyn. Mae gan bobl ifanc hawl i apelio penderfyniad i wrthod derbyn i chweched dosbarth ysgol.

Ein nod yw rhoi cymaint o hyblygrwydd â phosibl i awdurdodau derbyn reoli apelau mewn ffordd sy’n gweddu i amgylchiadau lleol orau, gan sicrhau hefyd fod rhieni a phobl ifanc sy’n apelio yn erbyn penderfyniad derbyn yn cael eu cefnogi a bod y broses apelio yn deg ac yn dryloyw.

Bydd y diwygiadau i’r Cod Apelau a Rheoliadau 2005 yn darparu hyblygrwydd o ran ffurf gwrandawiadau apêl ond byddant yn cynnal rhwymedigaethau ynghylch cyfiawnder naturiol a thegwch gweithdrefnol. Mae clercod yn cyflawni rôl allweddol o ran gwrandawiadau apêl, wrth roi cyngor ar y gyfraith dderbyniadau yn ogystal â chadw cofnod cywir o’r trafodion a sicrhau bod y gwrandawiad apêl yn deg.

Mae awdurdodau derbyn wedi hen arfer â deall anghenion teuluoedd yn yr ardal, a’u diwallu.

Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn awgrymu y gall cynnal apelau o bell gyflymu’r broses apelau, gan ganiatáu i fwy o apelau gael eu cynnal mewn diwrnod. Mae hyn yn lleihau’r cyfnod o bryder i rieni / pobl ifanc a’r plant sy’n rhan o’r apelau.

Asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb

Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar bobl â nodweddion gwarchodedig fel y disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010

Bydd effaith y cynigion ar bobl â nodweddion gwarchodedig fel y disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn niwtral. Rhaid i banelau apêl gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010. Rhaid i banelau apêl gydymffurfio â’u dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wrth ystyried y trefniadau i apelydd fod yn bresennol (naill ai yn bersonol neu o bell) ac o ran cynrychiolaeth yn yr apêl.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cydgrynhoi’r gyfraith sy’n gwahardd gwahaniaethu, aflonyddu ac erlid, ac yn ehangu ar y rhestr o nodweddion gwarchodedig. Rhaid i bob ysgol roi sylw dyledus i’w rhwymedigaethau o dan y Ddeddf. Rhaid i’w polisïau a’u harferion, gan gynnwys trefniadau a phenderfyniadau ynghylch derbyn dysgwyr, fodloni gofynion y Ddeddf, a gallai peidio â gwneud hynny fod yn berthnasol i’r materion y bydd panel apêl yn penderfynu yn eu cylch.

Mae awdurdodau derbyn yn ddarostyngedig hefyd i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Rhaid iddynt felly roi sylw dyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erlid, hyrwyddo cyfle cyfartal, a meithrin cysylltiadau da mewn perthynas ag anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol.

Rhaid i banelau apêl gydymffurfio â’u dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wrth ystyried y trefniadau i apelydd fod yn bresennol (naill ai yn bersonol neu o bell) ac o ran cynrychiolaeth yn yr apêl.

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus roi sylw dyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng gwahanol bobl wrth gyflawni eu gweithgareddau. Mae’n gosod dyletswydd gyfreithiol ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau wrth ystyried sut mae polisi yn effeithio ar unigolion sydd wedi’u gwarchod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae awdurdodau cyhoeddus yn cynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau derbyn, awdurdodau lleol, a chyrff llywodraethu. Rhaid i banelau apêl gydymffurfio â’u dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wrth gynnal apelau, p’un a ydynt yn rhai wyneb yn wyneb, drwy fynediad o bell, neu drwy gymysgedd o’r ddau. Mae hyn yn cynnwys ystyried unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen ar apelydd er mwyn bod yn bresennol.

Yng Nghymru, mae rhai cyrff cyhoeddus hefyd yn ddarostyngedig i ddyletswyddau penodol o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, a elwir hefyd yn ddyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru. Nod y dyletswyddau hyn yw ei gwneud yn bosibl cyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus mewn ffordd well, drwy ei gwneud yn ofynnol, er enghraifft, cyhoeddi amcanion cydraddoldeb ynghyd ag asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, gofynion ymgysylltu, adroddiadau cynnydd, casglu data a mwy.

Pan fydd awdurdod derbyn yn dewis cynnal apelau o bell yn hytrach na wyneb yn wyneb, bydd angen iddo gymryd camau rhesymol i sicrhau bod pob unigolyn yn gallu ymgysylltu’n effeithiol yn y gwrandawiad ar bob adeg, ac ystyried materion hygyrchedd wrth benderfynu sut i gynnal apelau. Gallai hyn gynnwys ystyried p’un a oes gan yr apelydd fynediad at y feddalwedd/ cyfleusterau priodol i allu cymryd rhan yn llawn, darparu unrhyw gymorth angenrheidiol a gwneud addasiadau rhesymol.

Cofnod o’r effeithiau yn ôl nodwedd warchodedig
Nodwedd neu grŵp gwarchodedig Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig? Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)

Sut byddwch yn lliniaru ar yr effeithiau?

Oedran (dylech ystyried y gwahanol grwpiau oedran)

Lle bydd awdurdod derbyn yn penderfynu cynnal apêl o bell, efallai y bydd effeithiau negyddol ar bobl hŷn a allai fod wedi’u hallgáu’n ddigidol.

Efallai y byddai awdurdodau derbyn yn ei chael yn haws dod o hyd i bobl i fod yn rhan o banelau derbyn os cânt eu cynnal o bell

Nododd y Fframwaith Cynhwysiant Digidol, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2010, y bobl hynny a oedd fwyaf tebygol o fod wedi’u hallgáu’n ddigidol, gan gynnwys pobl hŷn.

Mae rhai awdurdodau lleol wedi dweud wrthym eu bod, ers pandemig COVID, yn ei chael yn anodd dod o hyd i aelodau panelau apêl, y mae llawer ohonynt yn oedrannus, i fod yn rhan o banelau apêl am eu bod yn poeni am ddal COVID.

Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn darparu mai dim ond os bydd apelydd yn gallu cyflwyno ei achos yn llawn, ac os bydd gan bob unigolyn fynediad at yr adnoddau electronig gofynnol, a bod yr awdurdod derbyn o’r farn y gellir gwrando ar yr apêl mewn ffordd deg a thryloyw, y gall awdurdod derbyn benderfynu cynnal gwrandawiad o bell.

Dylai Clerc y Panel Apêl ymgysylltu â’r apelwyr cyn y gwrandawiad er mwyn deall eu gofynion a sicrhau eu bod yn gallu chwarae rhan mor llawn â phosibl.

Fel nawr, rhaid i’r panel apelau derbyn gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Rhaid i Glerc y Panel Apêl fod wedi cael hyfforddiant priodol sy’n cynnwys cyfraith cydraddoldeb. Mae’r Clerc yn gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Mae’r Cod Apelau yn darparu y caiff yr apelydd ddod â ffrind neu gynghorydd, neu y gall unigolyn o’r fath ei gynrychioli, ac y gall hwnnw siarad ar ran yr apelydd. Gellid defnyddio gwasanaeth eirioli annibynnol os oes angen.

Anabledd (dylech ystyried y gwahanol fathau o anabledd)

Lle na fydd modd i banelau gwrdd yn bersonol, efallai y bydd effeithiau negyddol ar bobl â nam ar eu golwg neu eu clyw.

Efallai y bydd cyfrwng fideogynadledda yn rhwystr i bobl anabl sydd ag amhariadau penodol o ran cyfathrebu a dealltwriaeth.

Nododd y Fframwaith Cynhwysiant Digidol, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2010, y bobl hynny a oedd fwyaf tebygol o fod wedi’u hallgáu’n ddigidol, gan gynnwys pobl anabl.

Canfu ymchwiliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i brofiadau pobl anabl yn y system cyfiawnder troseddol, fod cyfrwng fideo yn gallu bod yn rhwystr sylweddol i bobl sydd ag amhariadau penodol o ran cyfathrebu a dealltwriaeth.

Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn darparu mai dim ond os bydd apelydd yn gallu cyflwyno ei achos yn llawn, ac os bydd gan bob unigolyn fynediad at yr adnoddau electronig gofynnol, a bod yr awdurdod derbyn o’r farn y gellir gwrando ar yr apêl mewn ffordd deg a thryloyw, y gall awdurdod derbyn benderfynu cynnal gwrandawiad o bell.

Rhaid i’r Panel Apêl gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys adran 29 a Dyletswydd y Sector Cyhoeddus.

Dylai Clerc y Panel Apêl ymgysylltu â’r apelwyr cyn y gwrandawiad er mwyn deall eu gofynion a sicrhau eu bod yn gallu chwarae rhan mor llawn â phosibl.

Mae awdurdodau derbyn wedi hen arfer â deall anghenion teuluoedd yn yr ardal a darparu ar eu cyfer, gan gynnwys darparu Iaith Arwyddion Prydain, dehonglwyr a phapurau apêl ar ffurfiau amgen.

Mae’r Cod Apelau yn darparu y caiff yr apelydd ddod â ffrind, cynghorydd, dehonglydd neu arwyddwr, neu y gall unigolyn o’r fath ei gynrychioli, ac y gall hwnnw siarad ar ran yr apelydd. Gellid defnyddio gwasanaeth 

eirioli annibynnol os oes angen.

Mae Clerc y Panel Apêl yn gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Ailbennu rhywedd (trawsnewid rhywedd a phobl drawsryweddol) Dim    
Beichiogrwydd a mamolaeth Dim    
Hil (dylech gynnwys gwahanol leiafrifoedd ethnig; sipsiwn a theithwyr; a mudwyr, ceiswyr lloches a ffoaduriaid)

Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn awgrymu y byddai’r cynnig i gynnwys opsiwn ar gyfer cynnal apelau yn rhithiol yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg, gan ei bod yn haws trefnu gwasanaeth cyfieithu ar-lein.
 

Lle bydd awdurdodau derbyn yn penderfynu cynnal apêl o bell, efallai y bydd effeithiau negyddol ar bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf.
Dylai awdurdodau derbyn sicrhau y gall apelwyr wneud eu hapêl drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg, a dylai gwasanaeth cyfieithu fod ar gael ar gais. Mae awdurdodau lleol wedi dweud wrthym ei bod yn haws trefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar-lein.

Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn darparu mai dim ond os bydd apelydd yn gallu cyflwyno ei achos yn llawn, ac os bydd gan bob unigolyn fynediad at yr adnoddau electronig gofynnol, a bod yr awdurdod derbyn o’r farn y gellir gwrando ar yr apêl mewn ffordd deg a thryloyw, y gall awdurdod derbyn benderfynu cynnal gwrandawiad o bell.

Rhaid i’r Panel Apêl gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys adran 29 a Dyletswydd y Sector Cyhoeddus.

Dylai Clerc y Panel Apêl ymgysylltu â’r apelwyr cyn y gwrandawiad er mwyn deall eu gofynion a sicrhau eu bod yn gallu chwarae rhan mor llawn â phosibl.

Mae awdurdodau derbyn wedi hen arfer â deall anghenion teuluoedd yn yr ardal a darparu ar eu cyfer, gan gynnwys darparu cyfieithwyr.

Mae’r Cod Apelau yn darparu y caiff yr apelydd ddod â ffrind, cynghorydd, dehonglydd neu arwyddwr, neu y gall unigolyn o’r fath ei gynrychioli, ac y gall hwnnw siarad ar ran yr apelydd. Gellid defnyddio gwasanaeth eirioli annibynnol os oes angen.

Rhaid i’r Panel Apêl gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys adran 29 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Crefydd, cred a dim cred Dim    
Rhyw / Rhywedd Dim    
Cyfeiriadedd rhywiol (Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol) Dim    
Priodas a phartneriaeth sifil None    
Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed

Lle bydd awdurdod derbyn yn penderfynu cynnal apêl o bell, efallai y bydd effeithiau negyddol ar bobl ifanc a allai fod wedi’u hallgáu’n ddigidol.

Mae’r broses apêl yn parhau i fod yn seiliedig ar degwch. Dywedodd y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad y gall apelau ar-lein gyflymu’r broses, gan sicrhau bod modd i blant gael lle mewn ysgol cyn gynted â phosibl.

Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn darparu mai dim ond os bydd apelydd yn gallu cyflwyno ei achos yn llawn, ac os bydd gan bob unigolyn fynediad at yr adnoddau electronig gofynnol, a bod yr awdurdod derbyn o’r farn y gellir gwrando ar yr apêl mewn ffordd deg a thryloyw, y gall awdurdod derbyn benderfynu cynnal gwrandawiad o bell.

Aelwydydd incwm isel Efallai y caiff pobl o aelwydydd incwm isel eu hallgáu’n ddigidol, ac na fydd ganddynt y dechnoleg i gymryd rhan yn eu hapêl o bell. Nododd y Fframwaith Cynhwysiant Digidol, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2010, y bobl hynny a oedd fwyaf tebygol o fod wedi’u hallgáu’n ddigidol, y rhai sy’n byw mewn tai cymdeithasol; y rhai ar incwm is; y di-waith a’r economaidd-anweithgar.

Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn darparu mai dim ond os bydd apelydd yn gallu cyflwyno ei achos yn llawn, ac os bydd gan bob unigolyn fynediad at yr adnoddau electronig gofynnol, a bod yr awdurdod derbyn o’r farn y gellir gwrando ar yr apêl mewn ffordd deg a thryloyw, y gall awdurdod derbyn benderfynu cynnal gwrandawiad o bell.

Rhaid i’r Panel Apêl gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys adran 29 a Dyletswydd y Sector Cyhoeddus.

Dylai Clerc y Panel Apêl ymgysylltu â’r apelwyr cyn y gwrandawiad er 

mwyn deall eu gofynion a sicrhau eu bod yn gallu chwarae rhan mor llawn â phosibl.

Pan fo awdurdod derbyn yn penderfynu cynnal apêl o bell, rhaid iddo gymryd camau i sicrhau bod pawb dan sylw yn gallu cyflwyno eu hachosion yn llawn o bell, a chael ei fodloni y gall yr apêl gael ei phenderfynu mewn ffordd deg a thryloyw.

Anogir Clerc y Panel Apêl i ymgysylltu â’r apelwyr cyn y gwrandawiad er mwyn deall eu gofynion a sicrhau eu bod yn gallu chwarae rhan mor llawn â phosibl.

Mae Clerc y Panel Apêl yn gyfrifol am sicrhau y cydymffurfir â Deddf Cydraddoldeb 2010 (gan gynnwys adran 29) a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Hawliau dynol
Hawliau dynol Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig? Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)

Sut byddwch yn lliniaru ar yr effeithiau negyddol?

Erthygl 14: Gwahardd gwahaniaethu mewn perthynas â’r hawliau a’r rhyddid hwn Lle caiff apelau eu cynnal o bell, efallai na fydd rhai pobl yn gallu cymryd rhan lawn yn y gwrandawiad Efallai y caiff rhai pobl eu hallgáu’n ddigidol, naill ai oherwydd nodwedd warchodedig neu am nad oes ganddynt fynediad at yr adnoddau gofynnol, megis cyfrifiadur, ffôn neu’r rhyngrwyd.

Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 yn darparu mai dim ond os bydd apelydd yn gallu cyflwyno ei achos yn llawn, ac os bydd gan bob unigolyn fynediad at yr adnoddau electronig gofynnol, a bod yr awdurdod derbyn o’r farn y gellir gwrando ar yr apêl mewn ffordd deg a thryloyw, y gall awdurdod derbyn benderfynu cynnal gwrandawiad o bell.

Rhaid i’r Panel Apêl gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys adran 29 a Dyletswydd y Sector Cyhoeddus.

Dylai Clerc y Panel Apêl ymgysylltu â’r apelwyr cyn y gwrandawiad er mwyn deall eu gofynion a sicrhau eu bod yn gallu chwarae rhan mor llawn â phosibl.

Mae’r Cod Apelau yn darparu y caiff yr apelydd ddod â ffrind, cynghorydd, dehonglydd neu arwyddwr, neu y gall unigolyn o’r fath ei gynrychioli, ac y gall hwnnw siarad ar ran yr apelydd. Gellid defnyddio gwasanaeth eirioli annibynnol os oes angen.

Ydych chi’n credu y bydd y polisi hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar hawliau dynol pobl?

Hawliau Dynol a Chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig
Hawliau Dynol Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig? Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)

Sut byddwch yn lliniaru ar yr effeithiau negyddol?

Amh Dim effaith Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn rhoi’r hawl i gael addysg. Nid yw’r hawl hon yn ymestyn i sicrhau lle mewn ysgol benodol. Fodd bynnag, mae angen i awdurdodau derbyn a phanelau apêl ystyried rhesymau rhieni dros fynegi eu dymuniad i gael lle mewn un ysgol yn hytrach nag un arall wrth wneud eu penderfyniadau derbyn ac wrth wneud penderfyniadau ynghylch apelau. Gallai’r rhesymau hyn gynnwys, er enghraifft, hawliau’r rhieni i sicrhau bod addysg eu plentyn yn cydymffurfio â’u credoau crefyddol neu athronyddol eu hunain (hyd y bo’n gydnaws â darparu cyfarwyddyd effeithlon ac osgoi gwariant cyhoeddus afresymol.) Nid yw’r cynigion yn effeithio ar y gofynion hyn.