Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r datganiad ysgrifenedig hwn yn rhoi gwybod i’r Aelodau am newid i gyfrifoldebau’r Gweinidogion yn y Cabinet.

Bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn dod yn Brif Chwip hefyd, a’i theitl fydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip.

Bydd hefyd yn ymgymryd â rôl gyswllt Weinidogol Llywodraeth Cymru o ran y Cytundeb Cydweithio, er mwyn parhau i gefnogi cynnydd yn erbyn yr holl ymrwymiadau wrth inni gyrraedd ail hanner y cytundeb tair blynedd gyda Phlaid Cymru.

Hoffwn gofnodi fy niolch i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth am ei gwaith a’i chefnogaeth yn rôl y Prif Chwip.

Mae’r Rhestr ddiweddaraf o Gyfrifoldebau’r Gweinidogion hefyd yn nodi nifer bach o newidiadau rhwng y portffolios materion gwledig a newid hinsawdd.