Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Ystadau Cymru yn rhan bwysig o ddull strategol Llywodraeth Cymru o reoli asedau tir ac eiddo. Mae cydweithredu yn ymddygiad allweddol yn strategaeth rheoli asedau Llywodraeth Cymru ei hun ac mae Ystadau Cymru yn parhau i chwarae rhan allweddol fel yr arweinydd strategol wrth gefnogi a hyrwyddo manteision rheoli asedau cydweithredol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Gwobrau blynyddol Ystadau Cymru yn rhoi cyfle i ni ddathlu a hyrwyddo rhagoriaeth ym maes rheoli'r ystâd gyhoeddus yng Nghymru, a gyflawnwyd drwy gyrff yn y sector cyhoeddus yn cydweithio.

Gweler y meini prawf cymhwysedd cyffredinol isod:

  • Rhaid i'r sefydliad sy'n ymgeisio ddod o'r sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae'n rhaid bod y prosiect wedi'i gyflawni yng Nghymru.
  • Rhaid i’r prosiectau fod wedi'u cyflawni mewn cydweithrediad ag o leiaf un partner arall yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector.
  • Rhaid i’r prosiectau fod wedi'u cyflawni rhwng mis Ebrill 2021 ac 15 Medi 2023.
  • Dylid enwebu prosiectau ar gyfer un categori yn unig. Bydd y beirniaid yn ystyried cyfraniad y prosiect i gategorïau eraill wrth benderfynu ar enillydd cyffredinol.
  • Dyddiad Cau, 5pm 15 Medi 2023.

Categorïau Gwobrau Ystadau Cymru 2023

Creu Twf Economaidd

Dangoswch sut rydych wedi cydweithio i greu twf economaidd fel creu swyddi, cartrefi etc. gan ddefnyddio'r ystâd gyhoeddus.

Dangos Cynaliadwyedd Amgylcheddol

Diffinnir cynaliadwyedd amgylcheddol fel rhyngweithio â'r amgylchedd mewn modd cyfrifol er mwyn osgoi disbyddu neu ddiraddio adnoddau naturiol a'n caniatáu i gynnal ansawdd uchel ar gyfer amgylcheddau yn hirdymor. Dangoswch sut rydych wedi cydweithio i sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol gan ddefnyddio'r ystâd gyhoeddus.

Creu Arloesedd

Mae enghreifftiau o gyflawni arloesedd yn cynnwys: defnyddio technolegau newydd; derbyn ffyrdd newydd o weithio; dod o hyd i atebion newydd i heriau sylweddol (e.e. ymatebion Covid-19). Dangoswch arloesedd yn eich prosiect cydweithredu gan ddefnyddio'r ystâd gyhoeddus.

Rhoi Gwerth Cymdeithasol

Mae enghreifftiau o roi Gwerth Cymdeithasol yn cynnwys: Prosiectau sy'n ymwneud â'r ystâd gyhoeddus sydd wedi cael effaith sylweddol ar y gymuned y maen nhw’n ei gwasanaethu; Prosiectau sy'n ymgorffori Gwerth Cymdeithasol fel rhan o brosesau caffael (y tu hwnt i ddisgwyliadau arferol); Prosiectau sy'n defnyddio'r ystâd gyhoeddus mewn ffordd sydd wedi'i theilwra i anghenion a blaenoriaethau lleol; Dangoswch sut rydych wedi cydweithio i gyflawni gwerth cymdeithasol o'r ystâd gyhoeddus.

Enillydd cyffredinol

Wrth benderfynu ar yr enillydd cyffredinol bydd y beirniaid yn ystyried y cyfraniad y mae'r prosiect yn ei wneud at y tri chategori arall.

Terfynau geiriau

Cadwch at y terfynau geiriau a nodir ym mhob adran ar y ffurflen gais.

Gwybodaeth ategol

Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais. Dylid anfon y rhain fel atodiadau neu ddolenni gwe ar wahân mewn e-bost

Delweddau a logos sy'n helpu i gefnogi a hyrwyddo eich prosiect a gwaith YC.

Dylid cyflwyno delweddau eglur iawn naill ai mewn ffeil JPEG neu PNG sydd wedi'i hatodi ar wahân. Dimensiynau cyffredin yw 1024x576, 1280x720 neu 1920x1080.

Peidiwch ag ymgorffori dogfennau na lluniau yn y ffurflen gais.

Rydym hefyd yn eich gwahodd i anfon gwybodaeth atodol arall fel datganiadau i'r wasg, fideos neu adroddiadau fel opsiwn ychwanegol.

Tystebau

Datganiadau o gefnogaeth yw tystebau a ddefnyddir i ddangos y gwaith cydweithio yn eich prosiect. Rydym yn awgrymu eich bod yn cynnwys un gan noddwr o'ch sefydliad a rhywbeth gan bartneriaid neu fuddiolwyr eich prosiect. 

Dyddiad cau

Mae'r amser a'r dyddiad cau yn derfynol ac ni dderbynnir ceisiadau hwyr na diwygiadau i geisiadau sy'n bodoli eisoes ar ôl hyn.

Rydym yn disgwyl i'r Gwobrau barhau yn 2024. Os nad oes gennych lawer o dystiolaeth, er enghraifft o effaith, efallai yr hoffech ystyried oedi cyn cyflwyno'ch cais tan y flwyddyn nesaf.

Awgrymiadau defnyddiol

  • How have you adapted or created workplaces to support staff and/or user wellbeing?
  • Describe how the project shows genuine innovation. You should show how you have taken the future into account and highlight any novel approaches you have used to make the project a success.
  • Make the Well-being of Future Generations Act and the Five Ways of Working central in your application and consider how you meet each of the Five Ways.
  • Tell us how you have made collaboration work, developed relationships and maintained them.
  • How you have improved services and provided positive outcomes for staff and citizens not just for now but in the future.
  • Painting a picture of what best practice looks like so others can follow and see what is achievable.
  • Check on last year’s winners in Edition 8 of the YC Newsletter.

Dyma rai pethau i'w hystyried yn eich cais;

  • Sut ydych chi wedi addasu neu greu gweithleoedd i gefnogi llesiant staff a/neu ddefnyddwyr?
  • Disgrifiwch sut mae'r prosiect yn dangos arloesedd gwirioneddol. Dylech ddangos sut rydych wedi ystyried y dyfodol ac amlygwch unrhyw ddulliau newydd rydych wedi'u defnyddio i sicrhau bod y prosiect yn llwyddo.
  • Gwnewch Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Pum Ffordd o Weithio yn ganolog yn eich cais ac ystyriwch sut rydych chi'n cwrdd â phob un o'r Pum Ffordd. 
  • Dywedwch wrthym sut rydych wedi cydweithio'n effeithlon, gan ddatblygu a chynnal cydberthnasau.
  • Sut rydych wedi gwella gwasanaethau ac wedi darparu canlyniadau cadarnhaol i staff a dinasyddion nid yn unig am y tro ond yn y dyfodol.
  • Dylech gyfleu sut beth yw arfer gorau fel y gall eraill ddilyn gan weld beth y gellir ei gyflawni.
  • Edrychwch ar enillwyr y llynedd yng Nghylchlythyr YC.