Neidio i'r prif gynnwy

Data am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Mae'r datganiad hwn yn darparu gwybodaeth ar gyfer y cyfnod o Ionawr 2, 2014, pan gyflwynwyd y cynllun, hyd at 31 Mawrth 2023.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 2 Ionawr 2014 a 31 Mawrth 2023, cafodd 13,641 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio’r cynllun Cymorth i Brynu. Prynwyr tro cyntaf oedd 76% o’r rhain. Cyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti dros y cyfnod hwn oedd £537.6 miliwn gyda gwerth y cartrefi a brynwyd yn dod i £2,721.0 miliwn.
  • Prynwyd cyfanswm o 472 o gartrefi yn defnyddio cynllun Cymorth i Brynu Cymru yn 2022-23.
  • Hyd yn hyn, y pris prynu cymedrig a dalwyd am yr holl bryniannau a gwblhawyd oedd £199,473 tra bo’r canolrif yn is, sef £194,995.
  • Yn ystod 2022-23, y pris prynu cymedrig a dalwyd oedd £218,270 a £231,995 oedd y canolrif.
  • Ers cychwyn y cynllun a hyd at 31 Mawrth 2023, aelwydydd ag incwm o rhwng £20,001 a £50,000 ar gyfartaledd sy’n gyfrifol am bron i dri chwarter (73%) o’r holl bryniannau a gwblhawyd.
  • Hyd yma, mae dros hanner (54%) o’r holl eiddo a brynwyd wedi bod yn eiddo â thair ystafell wely, ac roedd 47% yn aelwydydd yn cynnwys 2 oedolyn a dim plant.

Nodyn

Casglwyd yr wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu - Cymru Cyf. Caiff gwybodaeth ar lefel llywodraeth leol ei chyhoeddi ar StatsCymru.

Adroddiadau

Cymorth i Brynu – Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir): Ebrill 2022 i Fawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 800 KB

PDF
Saesneg yn unig
800 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Craig Mcleod

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.