Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynrychiolais Lywodraeth Cymru mewn cyfarfod rhithwir o'r Grŵp Rhyngweinidogol (IMG) ar gysylltiadau rhwng y DU a'r UE ar 20 Mawrth, ar ran Gweinidog yr Economi. Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Gweinidog ar gyfer Ewrop yn y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, Leo Docherty AS. Roedd Angus Robertson MSP, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer y Cyfansoddiad, Materion Allanol a Diwylliant Llywodraeth yr Alban hefyd yn bresennol ynghyd ag uwch-swyddog o Wasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon fel sylwedydd.

Cynhaliwyd y cyfarfod cyn cyfarfodydd Cyd-bwyllgor y Cytundeb Ymadael (WAJC) a Chyngor Partneriaeth y DU a’r UE (PC) o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, a fydd yn cael eu cynnal ar 24 Mawrth. Yn y cyfarfod, ystyriwyd yr agendau drafft ar gyfer y ddau gyfarfod.

Croesawais yr ymdeimlad gwell gyffredinol o ymgysylltu cadarnhaol â'r UE.

Ystyriodd yr IMG yr agenda PC arfaethedig a oedd yn cynnwys ynni, rheoleiddio, diogelwch a Rhaglenni'r Undeb. Codais y prif faterion canlynol:

  • pryderon am gyflenwadau ynni gaeaf nesaf,
  • pwysigrwydd cysylltiadau Cymru gydag Iwerddon drwy gydweithio ar brosiectau ynni,
  • effaith negyddol bosibl y Bil Deddf Hawliau arfaethedig y DU ar y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a'r
  • angen i ddod at ddatrysiad ar Horizon, gan nodi bod cyllid ymchwil a datblygu yn hanfodol i brifysgolion Cymru.

Mewn perthynas â WAJC, a drefnwyd i drafod hawliau dinasyddion, amlygais ein diddordeb mewn cael eglurder pellach ar sut y byddai dinasyddion yr UE sydd â statws preswylydd cyn-sefydlog yn cael eu trin a nodi diddordeb Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau ar hyn.

Cynhaliwyd y PC ei hun ar 24 Mawrth, gyda swyddogion Llywodraeth Cymru'n mynychu'n rhithiol. Cafodd WAJC hefyd ei gynnal ar 24 Mawrth, heb i Lywodraethau Cymru a'r Alban gael gwahoddiad. Mae'r datganiad ar y cyd rhwng y DU a'r UE ar y ddau gyfarfod ar gael yma Datganiad ar y cyd ar gyfarfodydd Cyd-bwyllgor y Cytundeb Ymadael a Chyngor Partneriaeth y Cytundeb  Masnach a Chydweithredu, 24 Mawrth 2023 - GOV.UK (www.gov.uk). (Saesneg yn Unig)