Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Aelodau’r Senedd yn dymuno cael gwybod ein bod yn rhoi cydsyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol arfer pŵer gwneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

Gofynnodd yr Arglwydd Benyon, y Gweinidog Bioddiogelwch a Materion Morol a Gwledig yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) am gytundeb i wneud Offeryn Statudol (OS) o’r enw Rheoliadau Iechyd Planhigion ac Amodau Ffytoiechydol (Gwyfyn Ymdeithiwr y Derw a Phlâu Planhigion) (Diwygio) 2023 yn gymwys i Brydain Fawr.

Caiff yr OS a enwir uchod ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol gan arfer pwerau a roddir gan Erthyglau 8(5), 17(1), 28(1), 28(4), 37(5), 48(5) a 105(6) o Reoliad (EU) 2016/2031 (“Rheoliadau Iechyd Planhigion”) ac Atodiad 2 iddo.

O dan y pwerau a roddir gan Erthygl 28 o’r Rheoliadau Iechyd Planhigion, mae’r OS yn gwneud darpariaeth ar gyfer ardal sydd wedi’i dynodi ar gyfer pla cwarantin Prydain Fawr sef Thaumetopoea processionea L (“Gwyfyn Ymdeithiwr y Derw”). Mae’r ardal hon yn cynnwys ardal lle y mae’r pla hwn wedi’i sefydlu (“y parth a heigiwyd”) a pharth clustogi sydd o amgylch y parth a heigiwyd hwnnw. Dim ond mewn perthynas â Lloegr y mae hyn yn gymwys.

Mae’r OS yn gwneud dau fân gywiriad. Mae’r cyntaf yn diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/829. Mae’n gwneud mân gywiriad technegol i nodi gofynion penodol ar y cais awdurdodi sy’n ceisio caniatâd dros dro i gyflwyno neu symud plâu neu nwyddau planhigion a reoleiddir ym Mhrydain Fawr. Mae’r OS hefyd yn diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072. Mae’n gwneud mân gywiriad technegol i newid gofynion symud a mewnforio ar gyfer tatws hadyd.

Gosodwyd y rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 2 Mai 2023 a deuant i rym ar 24 Mai 2023.

Unrhyw effaith y gallai’r OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaeth Senedd Cymru a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru

Bydd Aelodau yn dymuno nodi nad yw’r Rheoliadau yn trosglwyddo unrhyw swyddogaethau i’r Ysgrifennydd Gwladol.

Pwrpas y diwygiadau

Pwrpas yr offeryn hwn yw diogelu bioddiogelwch a chefnogi masnach rhwng Prydain Fawr a thrydydd gwledydd drwy gyflwyno mesurau amddiffynnol yn erbyn plâu planhigion risg uchel. O fewn yr ardal sydd wedi’i dynodi ar gyfer Gwyfyn Ymdeithiwr y Derw, ni chaniateir symud coed derw risg uchel oni bai bod gweithredwyr proffesiynol yn cydymffurfio ag amodau bioddiogelwch ac amodau symud rhagnodedig. Mae’r OS hwn yn gwahardd symud coed derw risg uchel i unrhyw ardal y tu allan i’r ardal sydd wedi’i dynodi.

Yn ogystal, mae’r offeryn hwn yn gwneud dau gywiriad. Gwneir y cyntaf i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 (“Rheoliad Amodau Ffytoiechydol”) i newid gofynion symud a mewnforio ar gyfer tatws hadyd. Mae’r ail yn diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/829 (“Rheoliad Rhanddirymiadau Dros Dro”) er mwyn nodi gofynion penodol ar y cais awdurdodi sy’n ceisio caniatâd dros dro i symud plâu neu nwyddau planhigion a reoleiddir ym Mhrydain Fawr.

Mae’r Rheoliadau a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig sy’n nodi manylion tarddiad, pwrpas ac effaith y diwygiadau ar gael yma:

The Plant Health and Phytosanitary Conditions (Oak Processionary Moth and Plant Pests) (Amendment) Regulations 2023 (legislation.gov.uk)

Pam y mae cydsyniad wedi’i roi

Mae cydsyniad wedi’i roi i Lywodraeth y DU wneud y cywiriadau hyn mewn perthynas â Chymru, ac ar ran Cymru a hynny am resymau effeithlonrwydd, hwylustod ac i ddiogelu natur ymgysylltiedig cyfundrefn iechyd planhigion Prydain Fawr. Mae’r diwygiadau sy’n gymwys i Gymru wedi cael eu hystyried yn llawn. Mae’r newidiadau yn dechnegol eu natur ac nid ydynt yn newid polisi.