Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r cytundeb rhyng-sefydliadol, gallaf adrodd wrth yr Aelodau imi fod yng nghyfarfod diweddaraf y Grŵp Rhyngweinidogol Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd ar 23 Mawrth 2023, ac y prif bwnc trafododd oedd Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU, a Chynllun Twf Sero Net y DU.

Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod yr oedd Michael Matheson ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros Sero Net, Ynni a Thrafnidiaeth, Katrina Godfrey, Ysgrifennydd Parhaol yn Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd, a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon, Graham Stuart MP, Gweinidog Gwladol Diogelwch Ynni a Sero Net, James Cartlidge AS, Ysgrifennydd Trysorlys i'r Trysorlys a'r Farwnes Vere, Is-ysgrifennydd Gwladol, Yr Adran Drafnidiaeth