Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canllawiau'n rhoi gwybodaeth am Gronfa Diogelwch Adeiladu Cymru ac adfer materion diogelwch tân mewn adeiladau preswyl 11 metr a throsodd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae diogelwch tân yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Lluniwyd y Rhaglen Diogelwch Adeiladau i sicrhau bod cartrefi mewn adeiladau preswyl sy'n 11 metr a mwy yn ddiogel. 

Bellach, ceir llwybr i'w dilyn i gyweirio pob adeilad preswyl 11 metr a mwy yng Nghymru ar gyfer materion diogelwch tân sy'n ymwneud ag adeiladwaith yr adeilad. Ni fydd lesddeiliaid yn gyfrifol am dalu costau'r gwaith hwn. 

Mae hyn yn gymwys p'un a yw'r adeilad yn gyfrifoldeb i bartneriaid yn y sector cymdeithasol neu ddatblygwyr, neu'n adeilad amddifad lle nad oes unrhyw ddatblygwr ar gael i gynnal gwaith cyweirio. 

Bydd lesddeiliaid yn parhau'n gyfrifol am faterion diogelwch tân sy'n ymwneud â gwaith cynnal a chadw neu gamau gweithredu gan lesddeiliaid. 

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y rhaglen gyweirio drwy danysgrifio i'n cylchlythyr

Lesddeiliaid cymwys

Yng Nghymru, nid oes lesddeiliad ‘cymwys’ neu ‘anghymwys’, gan fod pob lesddeiliad o fewn cwmpas y cymorth hwn. O ganlyniad, nid yw'n ofynnol iddynt ddarparu tystysgrif i gadarnhau eu bod nhw neu eu heiddo yn gymwys i gael cymorth. 

Adeiladau y mae'r contract i ddatblygwyr yn berthnasol iddynt

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir bob amser y dylai datblygwyr gyflawni eu cyfrifoldebau ac unioni'r problemau o ran diogelwch tân yn yr adeiladau y maent wedi'u datblygu ers 1992. 

Mae'r datblygwyr preswyl mwyaf sy'n gweithredu yma yng Nghymru wedi llofnodi contract gyda Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ymdrin â materion diogelwch tân sy'n ymwneud ag adeiladwaith yr adeilad. Gellir gweld y Contract rhwng Llywodraeth Cymru a'r datblygwyr yn adran dolenni cysylltiedig y dudalen hon. 

Mae'r datblygwyr hyn fel a ganlyn: 

Barratt Redrow; Lovell; Vistry & Countryside; Persimmon; McCarthy Stone; Taylor Wimpey; Crest Nicholson; Bellway; Watkin Jones; Lendlease

Mae cynlluniau ar waith gan y datblygwyr hyn i ymgymryd â gwaith heb unrhyw gost i lesddeiliaid. 

Caiff cynnydd datblygwyr ei gyhoeddi yn y cylchlythyr Diogelwch Adeiladau.

Datrys Anghydfodau

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu canllawiau i helpu i ddatrys anghydfodau sy'n codi o dan y contract i ddatblygwyr, gellir gweld y canllawiau hyn adran dolenni cysylltiedig y dudalen hon. 

Dylai datblygwyr a thrydydd partïon y mae'r contract i ddatblygwyr yn berthnasol iddynt ddilyn y canllawiau hyn os bydd anghydfod yn codi sy'n eu hatal rhag cytuno ar gontract gwaith. 

Adeiladau amddifad ac adeiladau nad yw'r Contract i Ddatblygwyr yn berthnasol iddynt

Ystyr adeiladau amddifad yw adeiladau lle nad yw'r datblygwr yn hysbys, lle mae'r datblygwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu, neu lle cafodd yr adeilad ei adeiladu cyn 1992. Caiff yr adeiladau hyn eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru. 

Ar gyfer adeiladau a gafodd eu hadeiladu gan ddatblygwyr nad ydynt wedi llofnodi'r contract i ddatblygwyr, byddwn yn cefnogi, drwy Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru, y cwmnïau hynny na allant dalu costau llawn gwaith cyweirio gan sicrhau ar yr un pryd bod y rhai hynny a all fforddio talu yn gwneud hynny. 

Bydd hyn yn diogelu'r buddiannau cymdeithasol ac economaidd y mae'r datblygwyr hyn yn eu cyflwyno i'r cymunedau y maent yn gweithio ynddynt. 

Adeiladau'r Sector Cymdeithasol

Adeiladau'r Sector Cymdeithasol yw'r adeiladau hynny y mae naill ai Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig neu Awdurdodau Lleol yn berchen arnynt ac yn eu rheoli. Ar gyfer yr adeiladau hyn, gall Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac Awdurdodau Lleol wneud cais i Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru am gyllid i ymgymryd â'r gwaith cyweirio angenrheidiol. Bydd Llywodraeth Cymru yn talu hyd at 100% o'r costau cymwys. 

Canllawiau ar gyweirio diogelwch tân adeiladau preswyl

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu canllawiau i nodi disgwyliadau clir o ran sut y dylid ystyried anghenion lesddeiliaid a phreswylwyr yn ystod gwaith cyweirio, a fydd yn ystyried diogelwch tân mewnol ac allanol o safbwynt adeiladau cyfan. 

Dylai pawb sy'n gyfrifol am reoli prosiectau cyweirio yng Nghymru ddilyn y canllawiau hyn, y gellir eu gweld yn adran dolenni cysylltiedig y dudalen hon. 

Adeiladau sydd y tu allan i'r cwmpas

Mae Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru wedi nodi'r adeiladau hyn fel adeiladau sy'n llai nag 11m o uchder fel y'i diffinnir yn Rhan B o'r Rheoliadau Adeiladu yng Nghymru. 

Fel y cyfryw, maent y tu allan i gwmpas y cynlluniau cyweirio presennol. 

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gynlluniau cyweirio ar waith ar gyfer yr adeiladau hyn.