Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Daeth yr ymgynghoriad a oedd yn hoelio sylw ar newidiadau pellach i Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN 15) i ben ar 17 Ebrill ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a gyflwynodd ymateb. Rydym bellach yn dadansoddi ymatebion yr ymgynghoriad. Mae'n amlwg bod y mater o ran lliniaru’r newid yn yr hinsawdd, a llifogydd yn enwedig, yn gymhleth. Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi amlygu llawer o safbwyntiau gwahanol sydd angen eu hasesu'n llawn. Mae cryn dipyn o waith manwl i'w gwneud wrth ddadansoddi'r ymatebion ac, os yw'n briodol, gwneud newidiadau pellach i'r TAN.

Yn fy llythyr ar 23 Tachwedd 2021 a ohiriodd fersiwn gynharach y TAN rhag dod i rym, gofynnais am gynnal Asesiadau Canlyniadau Llifogydd manwl i helpu i fireinio gronynogrwydd y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio. Rwy'n ddiolchgar bod y gwaith hwn wedi cadarnhau cywirdeb y modelu cadarn a manwl y mae'r TAN yn seiliedig arno. Cafodd y TAN gwreiddiol ei atal tra bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo, ond mae'r penderfyniad i ddiwygio'r TAN ac ailymgynghori wedi cael effaith anochel ar ei linell amser ar gyfer dod i rym. Yn wreiddiol cafodd y TAN ei atal tan 1 Mehefin 2023 ond mae'r gwaith ailymgynghori nawr yn golygu na fydd modd cyrraedd y dyddiad hwn mwyach. O ystyried maint a chymhlethdod y dasg o ddadansoddi'r ymatebion a gwneud newidiadau pellach i'r TAN, mae'n annhebygol y bydd fersiwn newydd ohono yn dod i rym cyn diwedd eleni.

Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ar amseriad y TAN unwaith y bydd dadansoddiad llawn o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi'i gwblhau.