Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn sgil yr Adolygiad Annibynnol o Arweinyddiaeth ym mis Mai 2022, cyhoeddais y byddem yn comisiynu adolygiad annibynnol o’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP). 

Cynhaliwyd yr adolygiad gan yr Athro Mick Waters rhwng Medi 2022 a Mawrth 2023. Cefnogwyd yr Athro Waters gan grŵp cyfeirio, a rôl y grŵp hwn oedd rhoi cipolwg, cyngor a her briodol ac amserol iddo. Bu dros 250 o bobl yn rhan o’r adolygiad, naill ai fel unigolion neu mewn grwpiau bach, gan gynrychioli amrywiaeth o randdeiliaid o bob rhan o'r sector addysg. 

Heddiw rwy'n falch o gyhoeddi adroddiad yr Athro Waters 'Dysgu bod yn bennaeth i Gymru'. Mae'n dod i'r casgliad bod asesiadau’r Rhaglen Ddatblygu ar gyfer Darpar Benaethiaid presennol a’r CPCP yn cael eu rheoli a'u gweinyddu'n dda ac mae cryn ymdrech i sicrhau tegwch i bob ymgeisydd. Fodd bynnag, mae hyn wedi arwain at ddatblygu rhaglen gyffredinol nad yw bellach yn ddigon i baratoi darpar benaethiaid ar gyfer realiti'r rôl. Mae'r adroddiad yn gwneud 25 o argymhellion ar gyfer adolygu cynnwys a strwythur asesiadau’r Rhaglen Ddatblygu ar gyfer Darpar Benaethiaid a’r CPCP yn sylweddol.

Dim ond un elfen o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud i wella'r cymorth sy'n cael ei roi i'n harweinwyr addysg yw'r adolygiad. Mae datblygu arweinyddiaeth system effeithiol yn ganolog i'r daith diwygio addysg a ddisgrifir yn Cenhadaeth ein Cenedl ac mae'n ganolog i'r gwaith y mae'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn ei wneud drwy ei fodel Cydymaith. Mae dros 60 o uwch arweinwyr yn y sector addysg wedi elwa ar fod yn Gydymaith ers 2018 ac wedi cael eu trochi yn y cyfleoedd dysgu proffesiynol o'r ansawdd uchaf sydd ar gael o bob rhan o Gymru a thu hwnt.

Mae lansio'r Hawl Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol yn arwydd clir o'n hymrwymiad i sicrhau bod pawb yn y system addysg yn gallu cael mynediad at ddysgu proffesiynol. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar borth dysgu proffesiynol a fydd yn ei gwneud hi'n haws i ymarferwyr gael mynediad at ddysgu proffesiynol. Mae gan arweinwyr rôl allweddol i'w chwarae wrth sicrhau bod pob ymarferydd yn gallu ymgysylltu â dysgu proffesiynol. 

Fis diwethaf, cyhoeddwyd canllawiau ar ddefnyddio HMS a’r grant dysgu proffesiynol.  Mae'r canllawiau yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod gan gynorthwywyr addysgu fynediad at ddysgu proffesiynol. Bydd gan arweinwyr rôl hanfodol wrth wneud i hyn ddigwydd.

Mae'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol eisoes yn cymeradwyo dysgu proffesiynol i arweinwyr ac maent yn ei fonitro i sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu anghenion y system. Cyn diwedd tymor yr haf, byddaf yn rhannu manylion pellach am y trefniadau i sicrhau darpariaeth dysgu proffesiynol ar draws y system a sut i ddeall ei effaith yn well. 

Rwy’n croesawu argymhellion yr Athro Waters, a bydd angen eu gweithredu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol. Bydd grŵp yn cael ei sefydlu i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn ymwneud â datblygu'r trefniadau diwygiedig ar gyfer yr CPCP. Bydd yr aelodau'n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor y Gweithlu Addysg, Estyn, prifysgolion, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol a phenaethiaid. Rwyf wedi gofyn i'r Athro Waters barhau i gynorthwyo mewn rôl gynghori. Y nod yw i'r rhaglenni a’r trefniadau asesu diwygiedig agor i ymgeiswyr o dymor yr hydref 2024.

Hoffwn ddiolch i’r Athro Waters, aelodau’r grŵp cyfeirio a phawb a fu’n rhan o’r adolygiad. Bydd yr argymhellion yn gwella’r cymorth yr ydym yn ei roi i benaethiaid, a bydd hynny, yn y pen draw, o fudd i’r system addysg yn ei chyfanrwydd, ac yn anad dim i’n dysgwyr.

Dysgu bod yn bennaeth i Gymru

Dysgu bod yn bennaeth i Gymru: Crynodeb gweithredol

Creu amser ar gyfer dysgu proffesiynol