Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn eich hysbysu fy mod wedi gosod adroddiad Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) gerbron y Senedd. Rwy'n ddiolchgar i'r Asesydd Interim am yr amser y mae hi wedi'i gymryd wrth adolygu'r Bil a pharatoi'r adroddiad sy'n gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ar nifer o faterion a gynigiwyd yn y Bil hwn gan Lywodraeth y DU yng nghyd-destun cyfraith amgylcheddol.  Mae'r ddogfen ar gael yn Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio): adroddiad

Rwyf wedi ysgrifennu at yr Asesydd i ddiolch iddi am yr adroddiad hwn, mae hyn hefyd yn cynnwys fy ymateb i‘r argymhellion yn yr adroddiad.  Mae copi o’r llythyr hwn a fy ymateb ar gael yma Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio): adroddiad. Lluniwyd yr adroddiad hwn a’r ymateb cyn diwygiadau diweddar Llywodraeth y DU sy’n cael eu trafod yn Nhŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd.