Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod Wythnos Arbed Dŵr, mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James yn apelio ar bawb yng Nghymru i fod yn ymwybodol o’u defnydd o ddŵr wrth inni agosáu at yr haf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mewn datganiad i’r Senedd heddiw, cadarnhaodd y Gweinidog bod Grŵp Cyswllt Sychder Cymru – sy’n cynnwys cwmnïau dŵr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Y Swyddfa Dywydd a phartneriaid eraill – wedi dechrau’n swyddogol ar y broses o gynllunio o flaen llaw ar gyfer pob math o senario o ran tywydd.

Ar ôl mis Chwefror arbennig o sych eleni, cafwyd y mis Mawrth gwlypaf ers deugain mlynedd, a Chymru’n cael dwywaith cymaint o law â’r glawiad cyfartalog hirdymor. Roedd hyn yn newyddion da i gronfeydd dŵr, afonydd a chyflenwadau dŵr daear gan fod cyflenwadau oedd o dan bwysau wedi eu hail-lenwi.

Yn anffodus – meddai’r grŵp – nid yw hyn yn golygu y gall Cymru orffwys ar ei rhwyfau. Mae tywydd yn anodd ei ragweld ac mae newid hinsawdd yn golygu ein bod yn wynebu gaeafau gwlypach, hafau mwy sych, lefelau môr sy’n codi, a digwyddiadau tywydd eithafol mwy aml a mwy dwys.

Rhwng mis Mawrth a mis Medi 2022, dim ond 64% o’r glawiad cyfartalog hirdymor ar gyfer y cyfnod hwn welodd Cymru, sy’n golygu mai dyma’r cyfnod o saith mis sychaf mewn 150 o flynyddoedd. Rhoddodd hyn bwysau sylweddol ar seilwaith a chyflenwadau dŵr, bywyd gwyllt a chynefinoedd, a’r sector amaethyddiaeth, gan arwain at ddatganiad o sychder. Bydd blynyddoedd olynol o sychder parhaus yn gostwng gwytnwch , gan arwain at sefyllfaoedd fydd yn gynyddol waeth.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James:

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Arbed Dŵr, ac rwy’n annog pawb yng Nghymru i fod yn ymwybodol o’u defnydd o ddŵr. Ystyriwch sut rydych chi’n defnyddio dŵr ar hyn o bryd, ac am unrhyw ffyrdd y gallwch helpu i arbed dŵr.

Gall gwneud newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr. Mae treulio munud yn llai yn y gawod, diffodd y tap wrth olchi dannedd a pheidio â gadael i’r tap redeg wrth olchi llestri yn fan cychwyn gwych.

Os byddwn yn defnyddio llai, byddwn yn gostwng faint o ynni a ddefnyddir ar gyfer cyflenwi dŵr a thrin dŵr gwastraff, a fydd o gymorth i leihau ein ôl troed carbon a’n gwneud yn fwy gwydn o ran newid hinsawdd. Mewn argyfwng costau byw, gall lleihau ein defnydd o ddŵr hefyd fod o gymorth i ostwng biliau ein cartrefi

Diolch i’r mis Mawrth gwlypaf ers deugain mlynedd, mae’r statws sychder yng Nghymru yn normal. Fodd bynnag, fel y gwelwyd yn llawer rhy aml yn y gorffennol, mae natur anwadal y tywydd ac effeithiau newid hinsawdd yn golygu y gall amodau newid yn gyflym.”

Mae gwefan Waterwise yn rhoi manylion ar sut i gymryd rhan yn yr Wythnos Arbed Dŵr a sut i ddefnyddio dŵr yn ddoeth. Mae cwmnïau dŵr Cymru, Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) a Hafren Dyfrdwy (HD), yn cynnig cyngor i gwsmeriaid ar eu gwefannau a byddant yn cynnal ymgyrchoedd i rannu cynghorion am sut i arbed dŵr.