Galwad ar y Cyd am Gynigion i Gynnal Rhaglen Gydweithrediad Rhwng Québec a Chymru 2025
Dyddiad cau: 17 Awst 2025
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Cefndir
Mae Llywodraeth Québec a Llywodraeth Cymru yn eich gwahodd i gyflwyno cais am gymorth ariannol i gynnal prosiect cydweithredu fel rhan o bedwaredd Alwad ar y Cyd am Gynigion Québec-Cymru.
Yn dilyn y Datganiad o Fwriad ar gydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Québec a lofnodwyd ar 25 Chwefror 2020 datblygodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Québec alwad a y cyd am gynigion yn cwmpasu’r meysydd ymchwil, arloesi, a chynaliadwyedd yn wreiddiol.
Yn dilyn llwyddiant tair galwad flaenorol am gynigion, eleni rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi chweched Alwad ar y Cyd am Gynigion ar gyfer 2025.
2. Amcanion
Mae’r alwad ar y cyd am gynigion rhwng y partïon yn meithrin a thyfu cysylltiadau cydweithredol rhwng Cymru a Québec drwy:
- hyrwyddo datblygu cynaliadwy ym mhob cymdeithas
- hyrwyddo cydweithrediad rhwng canolfannau ymchwil ac ymchwilwyr mewn meysydd diddordeb wedi’u targedu ar y ddwy ochr
- hyrwyddo cydweithredu mewn datblygu economaidd mewn meysydd blaenoriaeth sydd o ddiddordeb i’r ddwy ochr
- cefnogi gwaith ein sectorau creadigol i arddangos ein treftadaeth ddiwylliannol unigryw
- ffafrio gwell cyd-ddealltwriaeth drwy gyfuno rhwydweithiau a rhannu arbenigedd
- i gyfrannu at amrywiaeth y cynnwys diwylliannol, i hyrwyddo ieithoedd Quebec a Chymraeg, a’u darganfyddadwyedd yn yr amgylchedd digidol.
3. Sectorau cydweithrediad
Mae’r alwad bresennol am gynigion yn agored i bob sector mewn cynaliadwyedd, ymchwil ac arloesi, a diwylliant. Bydd rhai meysydd yn cael blaenoriaeth ond ni fydd ceisiadau’n cael eu cyfyngu i:
Yr Economi, Gwyddoniaeth ac Arloesi
Er enghraifft:
- economi gylchredol
- ynni adnewyddadwy
- gwyddorau iechyd a bywyd (genomeg, technolegau meddygol, biodechnolegau, iechyd y cyhoedd)
- awyrofod, technolegau sy’n dod i’r amlwg (deallusrwydd artiffisial, lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiberddiogelwch, technoleg cwantwm)
- deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch.
Y Celfyddydau a Diwylliant
Er enghraifft:
- clyweledol
- llenyddiaeth a chyhoeddi
- celfyddydau perfformio
- celfyddydau gweledol a digidol
- cerddoriaeth
- cydweithrediad ieithyddol.
Gall y rhain fod yn gyfnewid dwy ffordd rhwng artistiaid a sefydliadau, gyda’r posibilrwydd o ddatblygu gyrfaoedd neu rwydweithiau ar gyfer pob partner sy’n cymryd rhan, cydgynyrchiadau/ cydgreadigaethau lle mae pob partner yn cymryd rhan lawn ynddynt, neu brosiectau cydgyfarwyddo, cydgoreograffi, cydgyfansoddi neu gydgyfarwyddo.
Nodwch fod yr alwad hon am gynigion yn agored i bob un o’r sectorau hyn yn 2025.
Bydd prosiectau’n cael eu dewis ar ôl gwerthusiad sy’n seiliedig ar ansawdd ac mewn perthynas â’r meini prawf a nodir isod.
4. Meini prawf cymhwysedd ar gyfer prosiectau
Yng Nghymru bydd yr alwad yn agored i ymgeiswyr sydd â sylfaen barhaol yn y wlad. Yn Québec, mae’n rhaid i bennaeth y prosiect feddu ar ddinasyddiaeth Canada neu gael preswyliad parhaol yno.
Rhaid i brosiectau:
- Gynnwys un partner o Gymru ac un partner o Québec.
- Cael eu cwblhau o fewn 12 mis ar ôl i’r cyllid gael ei gyhoeddi neu erbyn 31 Mawrth 2027 fan bellaf.
- Cael eu cyflwyno fel ffeil gais gyflawn yn Adran Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, a’r Ministère des Relations internationales et de la Francophonie du Québec.
- Parchu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais – ni fydd ceisiadau a ddaw i law ar ôl 11:59pm ar 17 Awst 2025 yn cael eu hystyried.
Manyleb ar gyfer galwad 2025
Mae meysydd yr Economi, Gwyddoniaeth a Arloesi, y celfyddydau a diwylliant, a chydweithrediad ieithyddol wedi’u dewis fel meysydd blaenoriaeth. Rhaid cyflwyno adroddiad terfynol erbyn 31 Mawrth 2027 fan bellaf.
5. Canllawiau a threuliau sy’n gymwys am gymorth ariannol
Rhaid i gymorth prosiect cydweithredu beidio â disodli’r cymorth a roddir fel arfer gan sefydliadau ariannu eraill. Nodwch na all cymorth ariannol fesul prosiect y flwyddyn a roddir gan Lywodraeth Québec fod yn fwy na $7,500 CAD a £4,400 GBP gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r treuliau canlynol yn gymwys:
- costau trafnidiaeth ar gyfer teithio dwyffordd rhwng Québec a Chymru (dosbarth economi)
pan fyddant ar gael o ran cyfyngiadau COVID-19 a chanllawiau iechyd y cyhoedd - treuliau eraill sy’n gysylltiedig â chyfarfodydd teithio a thelegynadledda (fisa, yswiriant,
ffioedd gwrthbwyso nwyon tyˆ gwydr, cludo offerynnau neu weithiau celf, etc) - costau beunyddiol (gwesty a phrydau bwyd) os yw’n gymwys
- ffioedd cyhoeddi, hyrwyddo a lledaenu gwybodaeth sy’n gysylltiedig â’r prosiect
- ffioedd sy’n gysylltiedig â gwaith a grëwyd ar y cyd
- costau’r lleoliad neu’r offer rhentu
- ffioedd artistiaid sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r prosiect arfaethedig
- prynu deunydd neu offer.
Nid yw’r treuliau canlynol yn gymwys:
- Costau sy’n gysylltiedig â chostau gweithredu a thaliad staff y sefydliad
- Unrhyw dreuliau a gwmpaswyd yn flaenorol gan gymorth ariannol o raglen arall gan y Llywodraeth
- Ffioedd gweithredu rheolaidd yr ymgeisydd
- Treuliau a dynnwyd cyn i’r grant gael ei gyhoeddi
- Costau teithio mewn dosbarth cyntaf neu ddosbarth busnes
- Ffioedd am fagiau dros ben.
Dull cyllido
Mae cydweithrediad Québec-Cymru yn defnyddio dull cyllido ar wahân, sy’n golygu bod pob partner yn gyfrifol am ei holl dreuliau mewn tiriogaeth dramor. Darperir cymorth ariannol Québec gan y Québec Ministère des Relations internationales et de la Francophonie (MRIF). Rhaid i’r grant y gofynnir amdano gan Lywodraeth Québec ymwneud yn unig â threuliau partner Québec (gan gynnwys costau teithio i Gymru yn ogystal â threuliau byw). Yn yr un modd, rhaid i’r grant y gofynnir amdano oddi wrth Lywodraeth Cymru ymwneud â gwariant partneriaid yng Nghymru yn unig (gan gynnwys costau teithio i Québec a threuliau byw).
6. Meini prawf gwerthuso prosiectau
- Cydlyniant y prosiect a gyflwynir mewn perthynas â’r amcanion a nodwyd yn yr alwad am brosiectau.
- Hyrwyddo datblygu cynaliadwy ac egwyddorion cynaliadwyedd drwy’r prosiect.
- Natur arloesol y prosiect.
- Creu partneriaethau newydd.
- Eglurder yr amcanion a nodwyd.
- Yr amserlen ac ymarferoldeb y rhaglen waith.
- Cyfrannu at ddatblygiad y sector yn seiliedig ar y manteision a’r canlyniadau a ragwelir.
- Trylwyredd y trefniant ariannol ac amrywiaeth y ffynonellau ariannu.
- Cydbwysedd rhwng yr amcanion a’r canlyniadau a ragwelir yng ngoleuni’r amserlen waith
a’r strwythur cyllido. - Cael ei gynnal ar y cyd yn unol â’r egwyddor o gydymrwymiad, o ran ariannu ac effeithiau pendant.
- Meithrin cyfnewidfeydd a bondiau cydweithredol tymor hir rhwng Québec a Chymru gan arwain
o bosibl at gyllid pellach oddi wrth asiantaethau eraill y Llywodraeth (Canada neu’r Deyrnas Unedig, er enghraifft). - Arwain at fanteision diriaethol i Québec a Chymru.
- Arwain at sefydlu rhwydweithiau ar gyfer cydweithredu.
7. Cyflwyno a dethol prosiectau
Sylwer bod yn rhaid cyflwyno'r holl brosiectau yn gyfan gwbl i'r ddau sefydliad cydgysylltu (sef y ministère des Relations internationales et de la Francophonie ar gyfer partner Québec ac Adran Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru.
Rhaid i bartneriaid Québec a Chymru ill dau lenwi'r dogfennau perthnasol ar-lein (ni dderbynnir unrhyw ffurflenni eraill).
Ar gyfer Québec: dolen gwefan i'r ffurflen: CoopQuebecGalles@mri.gouv.qc.ca
Rhaid i'r partneriaid yng Nghymru gyflwyno'r dogfennau ar 17 Awst 2025 fan bellaf drwy e-bost at: QuebecWalesProjects@llyw.cymru
Gellir anfon ymholiadau ar gyfer partner Québec yn y cyfeiriad hwn:
Marc Lebel-Racine
Chef du pupitre Royaume-Uni, Irlande et pays nordiques
United Kingdom, Ireland & Nordic Countries Desk Officer
Direction Europe et Institutions européennes
Llywodraeth Québec a Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddewis terfynol y prosiectau a phenderfynu faint o gymorth a roddir. Bydd canlyniadau ar gael i’r ymgeiswyr yn ystod tymor yr hydref 2025. Byddwch cystal â nodi nad yw penderfyniadau’n ddarostyngedig i unrhyw apeliadau.
8. Adroddiad terfynol
Bydd ffurflen adroddiad terfynol yn cael ei llenwi gan bob sefydliad a’i chyflwyno yn ôl y telerau sy’n gysylltiedig â hyn yn Québec a Chymru yn y drefn honno.
