Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Cyngor y Gweithlu Addysg yw'r rheoleiddiwr statudol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae'n ofynnol i'r Cyngor gadw cofrestr o ymarferwyr addysg (y gofrestr) a chaniatáu i'r cyhoedd weld y Gofrestr honno. Mae'r Gofrestr yn rhestru pawb sydd wedi'i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (personau cofrestredig) ac mae ar gael i'r cyhoedd drwy wefan y Cyngor. Ar hyn o bryd, mae tua 85,000 o bersonau cofrestredig yn y categorïau canlynol:

  • athrawon ysgol
  • gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion
  • athrawon addysg bellach
  • gweithwyr cymorth dysgu addysg bellach
  • ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
  • gweithwyr ieuenctid cymwysedig
  • gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu deddfwriaeth i’w gwneud yn ofynnol i Gyngor y Gweithlu Addysg reoleiddio categorïau ychwanegol o ymarferwyr proffesiynol a'u cynnwys yn y gofrestr.

Trosolwg o'r cynigion

Mae bylchau yn y gofynion cofrestru presennol sy'n golygu bod lefel y trefniadau rheoleiddio proffesiynol yn amrywio ymhlith y gweithlu addysg, hyd yn oed pan fo unigolion yn cyflawni rolau tebyg iawn. Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn atgyfnerthu mesurau i ddiogelu plant a phobl ifanc ac yn gwneud y gweithlu yn fwy proffesiynol. Felly, yn ychwanegol at y categorïau cofrestru presennol, mae'r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i uwch arweinwyr, athrawon a gweithwyr cymorth dysgu, mewn ysgolion annibynnol a sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol, gofrestru. Mae'r Gorchymyn hefyd yn diweddaru categorïau athrawon ysgolion a gynhelir ac athrawon addysg bellach i sicrhau ei bod yn ofynnol i bob pennaeth ac uwch arweinydd sy'n gyfrifol am reoli addysgu a dysgu fod wedi’u cofrestru, p'un a oes ganddynt rôl addysgu ai peidio. Mae'n ofynnol hefyd i uwch reolwyr mewn ysgolion annibynnol a sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol sy'n gyfrifol am reoli addysgu a dysgu fod wedi’u cofrestru.

Mae'r Gorchymyn yn diwygio'r darpariaethau mewn perthynas â gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid gan ei gwneud yn ofynnol i weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig a delir i wneud gwaith ieuenctid mewn unrhyw leoliad gofrestru. Mae'r Gorchymyn hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhai sy'n gweithio tuag at gymhwyster gweithiwr ieuenctid neu weithiwr cymorth ieuenctid ac sy'n cael eu talu i wneud gwaith ieuenctid mewn unrhyw leoliad gofrestru dros dro.

Ysgolion annibynnol

Ar hyn o bryd, mae ychydig dros 80 o ysgolion annibynnol cofrestredig yng Nghymru. Mae'r nifer hwn wedi'i rannu'n weddol gyfartal rhwng ysgolion prif ffrwd a'r rhai sy'n darparu ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu anghenion addysgol arbennig (AAA). Mae'r ystod oedran yn amrywio hefyd, gyda rhai ysgolion yn derbyn plant a phobl ifanc hyd at 18 oed ac eraill yn darparu ar gyfer ystodau oedran penodol. Mae gwahaniaethau sylweddol o ran maint hefyd; mae'r ysgol leiaf wedi'i chofrestru ar gyfer hyd at bedwar dysgwr ac mae'r ysgol fwyaf wedi'i chofrestru ar gyfer hyd at 1,500 o ddysgwyr.

Dengys y data diweddaraf fod ychydig dros 10,000 o ddisgyblion yn y sector annibynnol yng Nghymru. Mae'r ysgolion hyn yn cyflogi tua 850 o athrawon a 1,200 o staff cymorth. O dan y ddeddfwriaeth bresennol nid yw'n ofynnol i staff addysgu mewn ysgolion annibynnol gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg. Dyma pam yr argymhellodd Comisiynydd Plant Cymru a'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol y dylai fod yn ofynnol i staff mewn ysgolion annibynnol gofrestru â'r Cyngor.

Canfu'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol fod y mesurau a oedd ar waith yn hanesyddol i amddiffyn plant rhag y risg o gael eu cam-drin yn rhywiol yn annigonol – ac nad oedd unrhyw fesurau o gwbl weithiau. Mae mesurau wedi bod ar waith mewn ysgolion annibynnol i amddiffyn plant, ond maent bellach wedi cael eu hatgyfnerthu drwy'r Gorchymyn hwn. Rydym wedi cymryd camau yng Nghymru i fynd i'r afael â'r bwlch cofrestru ymhlith y gweithlu mewn ysgolion annibynnol er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn ymhellach.

Gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid

Argymhellodd adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro (a gyhoeddwyd ar 16 Medi 2021) “y dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio'r ddeddfwriaeth bresennol er mwyn sicrhau bod yn rhaid i bawb sy'n gweithio mewn gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg”.

Mae'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro o'r farn y bydd gweithredu'r argymhelliad hwn yn mynd i'r afael â “mater diogelu sylfaenol sy'n codi mewn perthynas â gwasanaethau gwaith ieuenctid, gan sicrhau bod yr holl waith ieuenctid yng Nghymru yn digwydd mewn amgylcheddau diogel” ac yn “helpu i wella safonau yn y sector gwaith ieuenctid drwy sicrhau bod pob gweithiwr ieuenctid wedi'i gofrestru i weithio gyda phobl ifanc a'i fod yn gymwys i wneud hynny”.

Sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol

Ar hyn o bryd, nid yw'n ofynnol i rai aelodau o staff mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn ddarostyngedig i'r un lefel o reoleiddio proffesiynol â staff eraill yn y gweithlu addysg sy'n gwneud gwaith tebyg. Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn mynd i'r afael â'r anghysondeb hwn.

Hirdymor

Mae dwy brif fantais hirdymor i gyflwyno’r grwpiau ychwanegol hyn yn y gofrestr.

Y fantais gyntaf yw sicrhau bod pob plentyn, person ifanc ac aelod o staff yn cael budd o'r mesurau diogelu ychwanegol sy'n gysylltiedig â threfniadau rheoleiddio proffesiynol. Bydd hyn yn rhoi llwybr i unigolion neu sefydliadau godi pryderon a sicrhau yr ymchwilir i'r pryderon hynny'n annibynnol.

Yn ychwanegol at y newidiadau rheoleiddiol a drafodir yn yr asesiad effaith integredig hwn, mae Llywodraeth Cymru hefyd wrthi'n atgyfnerthu Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 a Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003, ac yn gwneud Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwahardd Cyfranogiad ym maes Rheoli) (Cymru) 2016 er mwyn helpu i wella ansawdd addysg a lles, iechyd a diogelwch disgyblion mewn ysgolion annibynnol yn ogystal â gwella trefniadau llywodraethu ysgolion annibynnol yng Nghymru.

Yr ail fantais yw y bydd ein gweithwyr proffesiynol ym maes addysg, dysgu ac addysgu yn gydradd o safbwynt proffesiynoldeb, ni waeth ble y maent yn gweithio. Caiff y ffyrdd y disgwylir i weithwyr proffesiynol ymddwyn eu pennu'n ehangach drwy gyfarwyddyd ar gyfer holl weithwyr proffesiynol y sector addysg.

Yn ogystal â manteision proffesiynoldeb ac ymddiriedaeth y cyhoedd, gall y rhai sydd wedi'u cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd datblygu proffesiynol a chymorth. Ar hyn o bryd, mae'r rhain yn cynnwys mynediad at hyfforddiant a swyddi drwy Addysgwyr Cymru, mynediad at ddigwyddiadau, canllawiau arferion da a llyfrau a chyfnodolion ymchwil ar-lein, yn ogystal â'r Pasbort Dysgu Proffesiynol sy'n helpu cofrestreion i gofnodi, rhannu a chynllunio eu gwaith dysgu a rhoi sylw iddo. Drwy'r cylchlythyrau a'r diweddariadau rheolaidd, gallant hefyd ddylanwadu ar bolisi drwy ymateb i ymgyngoriadau ac arolygon ac ymuno â gweithgorau.

Rhagwelir y bydd angen i 1,900 o weithwyr proffesiynol ychwanegol gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg o dan y ddeddfwriaeth newydd.

A ninnau wedi gwneud newid deddfwriaethol, mae costau a manteision y cynigion hyn wedi cael eu hasesu'n fanylach. Mae asesiad effaith rheoleiddiol yn cyd-fynd â'r Gorchymyn.

Atal

Ein prif nod yw atgyfnerthu mesurau i ddiogelu plant a phobl ifanc yn y sector addysg. Rydym am sicrhau y gallwn atal problemau diogelu a'u hatal rhag gwaethygu os byddant yn codi. Mae'n bwysig diweddaru'r sefyllfa reoleiddiol mewn perthynas â'r rhai sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg yn golygu bod yn rhaid i gofrestreion gyrraedd a chynnal safonau penodol. Mae'n rhaid i'r Cyngor gynnal ymchwiliad os honnir bod person cofrestredig yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymwysedd proffesiynol difrifol, neu os caiff ei euogfarnu o drosedd berthnasol. Gall ymchwiliad arwain at orchymyn disgyblu a all, yn yr achosion mwyaf difrifol, arwain at dynnu enw'r person oddi ar y gofrestr.

Mae atal niwed i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn bwysig i'w lles yn y dyfodol.

Integreiddio

Mae integreiddio â meysydd polisi eraill ar draws y Gyfarwyddiaeth Addysg a rhanddeiliaid sydd â diddordeb yn y gweithlu addysg wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu Gorchymyn 2023. Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi treulio amser yn gweithio gyda'r sectorau yr effeithir arnynt a fydd yn ddarostyngedig i'r ddeddfwriaeth newydd i sicrhau eu bod yn integreiddio'r gofynion newydd i'w systemau. Gan weithio gyda Chomisiynydd Plant Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg, rydym wedi gwneud y ddeddfwriaeth hon i helpu i gael gwared ar rai bylchau yn ymwneud â diogelwch plant a phobl ifanc. Drwy ei gwneud yn ofynnol i'r grwpiau ychwanegol hyn gofrestru, gellir diogelu eu lles corfforol a meddyliol ymhellach ac mae hyn hefyd yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru, yn y Rhaglen Lywodraethu, i roi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn gwella iechyd meddwl. Yn ogystal, mae mesurau gwell i ddiogelu plant a phobl ifanc yn cyfrannu'n uniongyrchol at amcanion fel diwygio addysg, amddiffyn pobl sy'n agored i niwed a dileu anghydraddoldeb.

Cydweithio

Rydym yn ddiolchgar i Gyngor y Gweithlu Addysg am help i nodi'r bylchau. Mae'r Cyngor wedi bod yn hollbwysig i'n dealltwriaeth o drefniadau rheoleiddio proffesiynol, p'un a fyddai ein cynigion yn ymarferol, ac o ran sicrhau bod y bobl y mae'r cynigion yn effeithio arnynt yn ymwybodol ohonynt. Yn y pen draw, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r rhai yn y categorïau cofrestru newydd a'u cyrff cynrychioliadol neu undebau'r gweithlu i ddeall yr effaith arnynt ac i sicrhau bod unrhyw bryderon neu ganlyniadau anfwriadol i bob sector yn cael sylw mewn ffordd gydweithredol.

Gweithiodd Llywodraeth Cymru yn agos gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i ymgynghori â rhanddeiliaid. Cafodd ymgynghoriad cychwynnol ar yr egwyddorion sy'n sail i'r cynigion ei lansio ddechrau mis Mawrth 2022, a daeth i ben ym mis Mai 2022.

Cafodd y Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 arfaethedig (“y Gorchymyn drafft”), a fyddai'n dod â'r cynigion hyn i rym, ei baratoi er mwyn ymgynghori arno ym mis Tachwedd 2022, a daeth y cyfnod ymgynghori i ben ym mis Chwefror 2023. Cafodd y memorandwm esboniadol drafft a'r asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y Gorchymyn drafft eu cyhoeddi i bobl gael gwneud sylwadau arnynt. Mae hyn wedi ei gwneud yn bosibl cymryd camau pendant i gydweithio i ddrafftio'r Gorchymyn.

Cymryd Rhan

Mae wedi bod yn hanfodol cynnwys rhanddeiliaid allweddol yn y gwaith o ddatblygu'r Gorchymyn, ac rydym wedi cymryd amser i drafod materion. Mae'r trafodaethau hyn wedi esgor ar gyngor hanfodol ac wedi ein galluogi i ddeall effaith a goblygiadau ymarferol y polisi yn well. Cafwyd cyfuniad o drafodaethau parhaus ac ymgynghori ffurfiol. Mae'r rhan fwyaf o'r rhanddeiliaid wedi bod yn gefnogol i'r darpariaethau sy'n cael eu nodi yn y Gorchymyn.

Mae swyddogion wedi cynnwys y rhanddeiliaid canlynol wrth drafod y cynigion a'u heffaith:

  • Cyngor Ysgolion Annibynnol Cymru.
  • Natspec – y gymdeithas ar gyfer sefydliadau sy'n cynnig addysg bellach a hyfforddiant arbenigol i fyfyrwyr 16-25 oed sydd ag anawsterau dysgu a/neu anableddau.
  • Fforwm Penaethiaid Colegau Cymru (Penaethiaid Sefydliadau Addysg Bellach Cymru).
  • Rhwydwaith Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru (Cynrychiolwyr yr holl ymarferwyr dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru mewn sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol).
  • Cyngor y Gweithlu Addysg.
  • Safonau Addysg Hyfforddiant.
  • Comisiynydd Plant Cymru.
  • Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.
  • Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.
  • Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid.
  • Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol.

Lle mae materion wedi codi a fyddai'n effeithio arnyn nhw neu'r rhai y maent yn eu cynrychioli, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gwneud yr hyn sydd angen ei wneud i wella mesurau diogelu. Bydd swyddogion yn parhau i gyfarfod ag ymarferwyr a rhanddeiliaid wrth i'r ddeddfwriaeth ddod i rym er mwyn trafod ei heffaith bosibl.

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad ffurfiol a gynhaliwyd yng ngwanwyn 2022 yn cefnogi'r cynigion i ymestyn neu ddiwygio'r gofynion cofrestru. Roedd y rhesymau dros hyn yn cynnwys diogelu, cynnal statws proffesiynol a gwella a cynnal safonau ymarfer uchel.

Ar y llaw arall, roedd rhai unigolion yn gwrthwynebu'r cynigion i gofrestru yn gyfan gwbl am resymau a oedd yn cynnwys gwrthwynebiad i ymyrraeth gan y wladwriaeth mewn dulliau addysgu penodol (er enghraifft, y sector crefyddol), effeithiau negyddol ar wasanaethau arbenigol (er enghraifft, sectorau'r celfyddydau, cerddoriaeth a chwaraeon) a rhai disgwyliadau y byddai'n ofynnol i'r rhai sydd wedi cofrestru gael cymhwyster penodol.

Rydym wedi ymgysylltu â grwpiau penodol i roi eglurder ynghylch pwy y byddai disgwyl iddynt gofrestru a phwy na fyddai disgwyl iddynt gofrestru o dan y cynigion. Er enghraifft, rydym wedi gweithio gydag ymarferwyr a'u cyrff cynrychioliadol i gadarnhau mai nod y cynigion yn ymgynghoriad gwanwyn 2022 oedd ymestyn trefniadau cofrestru i'r rhai a gyflogir i ddarparu gwasanaethau i bobl ifanc gan ddefnyddio methodolegau a dulliau gwaith ieuenctid, yn hytrach na phob unigolyn sy'n gweithio gyda phobl ifanc mewn unrhyw gyd-destun. Rydym yn parhau i ymgysylltu â phersonau sydd eisoes yn gofrestredig a phersonau a fydd yn gofrestredig yn y dyfodol, Cyngor y Gweithlu Addysg a phartneriaid perthnasol eraill ynghylch ymarferoldeb y trefniadau newydd.

Casgliad

Sut mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi bod yn rhan o'i ddatblygu?

Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y grwpiau cofrestru ychwanegol arfaethedig rhwng mis Mawrth a mis Mai 2022, a chafwyd cyfle arall i wneud sylwadau ar y Gorchymyn drafft a'r strwythur ffioedd rhwng Tachwedd 2022 a Chwefror 2023.

Roedd yr holl grwpiau perthnasol yn y sector addysg wedi cael eu hysbysu am yr ymgyngoriadau ac rydym wedi gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Cyngor y Gweithlu Addysg, Comisiynydd Plant Cymru, a'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro gynt ynghyd â’r Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

Rydym wedi ymgysylltu'n helaeth â'n rhanddeiliaid drwy gydol y broses o ddatblygu'r cynigion hyn a byddwn yn parhau i wneud hynny. Cafodd yr ymgynghoriad cyntaf dros 300 o ymatebion ac roedd yna 29 ymateb i'r ail. Helpodd y rhain ni i ail-lunio rhai o'r cynigion a sicrhau bod y ddeddfwriaeth derfynol yn addas i'r diben ac yn deg.

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf?

Yr effaith gadarnhaol fwyaf fydd y ffaith bod mwy o fesurau diogelu ar waith i'r holl blant a phobl ifanc ym mhob sector addysg yng Nghymru, drwy sicrhau bod pob ymarferydd perthnasol wedi cofrestru â'r rheoleiddiwr proffesiynol. Mae trefniadau i gofrestru addysgwyr yn rhoi sicrwydd i blant, pobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill fod gwiriadau'n cael eu cynnal i sicrhau bod cyflogeion yn addas i gofrestru – drwy wirio cofnodion yr heddlu a chofnodion troseddol, datgeliadau o euogfarnau a chamau disgyblu yn eu herbyn.

Bydd hefyd yn cynnig llwybr clir a syml i unigolion neu sefydliadau godi pryderon am ymddygiad unigolyn cofrestredig a sicrhau bod corff proffesiynol allanol yn cynnal ymchwiliad annibynnol i'r pryderon hynny. Yn ogystal, drwy gynnwys grwpiau ychwanegol yn y garfan y bydd yn ofynnol iddi gofrestru, bydd y proffesiwn yn llawer mwy cyfartal, ni waeth ym mha sector y mae person yn gweithio. Mae hyn yn cynnig cyfle i gynnal neu wella safonau proffesiynol drwy'r gweithlu addysg cyfan, a fyddai'n gwella gwasanaethau i blant a phobl ifanc, ac o fudd i gymdeithas yn y tymor hirach.

Yr unigolion hynny nad yw wedi bod yn ofynnol iddynt gofrestru cyn hyn fydd yn teimlo'r effaith negyddol fwyaf. Efallai y bydd y gost ychwanegol o gofrestru yn amhoblogaidd ac yn cael ei hystyried yn annheg.

Yng ngoleuni’r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu,

  • yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Rydym wedi gwneud y newid hwn i'r gyfraith er mwyn amddiffyn ein plant a'n pobl ifanc rhag niwed. Bydd yn sicrhau bod gan y cyhoedd hyder mewn mwy o ymarferwyr oherwydd gallant ddangos bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r cymeriad i gyflawni'r dyletswyddau sy'n rhan o'u proffesiwn yn ddiogel ac yn effeithiol.

Credwn fod yr effaith gadarnhaol, sef mesurau diogelu gwell a chodi safonau proffesiynol yn y gweithlu addysg, yn drech na'r effaith negyddol o dalu ffi.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau? 

Cyngor y Gweithlu Addysg yw'r prif sefydliad sydd gennym i'n helpu i gynllunio'r gweithlu. Mae ganddo'r data i'n helpu i ddeall beth fydd yn digwydd ar ôl gweithredu. Roedd ei waith adolygu a gwerthuso parhaus yn help i newid y gyfraith hon.

Yn y dyfodol, bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn parhau i fonitro nifer y cofrestreion, gan gynnwys y rhai sy'n ymuno â'r sector addysg fel ymarferwyr dan hyfforddiant. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gan Gyngor y Gweithlu Addysg, ynghyd ag adborth gan ymarferwyr, y cyrff sy'n eu cynrychioli a rhanddeiliaid eraill, i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn ddigonol i sicrhau diogelwch parhaus plant a phobl ifanc.

Dyma gam cyntaf rhaglen waith i broffesiynoli ein gweithlu addysg ymhellach. Bydd yr ail gam yn edrych ar gamau posibl pellach o fewn y sector gwaith ieuenctid a staff yn y sector ôl-16. Bydd yr adborth a gawn ar y gwaith hwn yn y cam cyntaf yn helpu i ddatblygu'r gwaith sydd ei angen ar gyfer yr ail gam.

Asesiad o’r effaith ar hawliau plant

Categorïau cofrestru newydd ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg

Y cefndir

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud deddfwriaeth i roi pŵer i Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) reoleiddio grwpiau ychwanegol o weithwyr proffesiynol a’u cynnwys ar gofrestr y gweithlu addysg (“y Gofrestr”).

Ar hyn o bryd, nid oes rhaid i rai aelodau o staff mewn ysgolion annibynnol, mewn gwaith ieuenctid, mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol, a elwir hefyd yn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol (ISPI), a’r rhai hynny sy’n darparu ychydig o ddysgu oedolion yn y gymuned gofrestru gyda’r CGA. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn ddarostyngedig i'r un lefel o reoleiddio proffesiynol ag eraill yn y gweithlu addysg sy'n gwneud yr un gwaith neu waith tebyg iawn.

Yr effeithiau disgwyliedig ar blant

Y prif reswm dros gyflwyno'r cynigion hyn yw sicrhau bod gan y cyhoedd fwy o hyder mewn ymarferwyr. Mae hyn oherwydd eu bod yn gallu dangos bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r cymeriad i gyflawni'r dyletswyddau sy'n ofynnol o'u proffesiwn yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae hefyd yn cau rhai o'r bylchau sy'n achosi risg diogelu gan unigolion sy'n gweithio yn y sector addysg heb orfod cofrestru, ac felly profi eu haddasrwydd i gofrestru, gyda'r CGA. Felly, rydym yn rhagweld y bydd y ddeddfwriaeth hon yn cael effaith gadarnhaol i'r plant a'r dysgwyr hynny ar draws yr holl leoliadau addysg sydd wedi'u cynnwys na fyddai wedi'u gwarchod fel arall. Oherwydd pwysigrwydd y budd diogelu hwn, byddem yn disgrifio'r effaith hon fel un "sylweddol".

Rhagwelir y bydd angen i 1,900 o ymarferwyr eraill ar draws y sectorau a restrir uchod gofrestru gyda'r CGA. Mae hyn yn cynyddu'n sylweddol safonau proffesiynol ymarferwyr addysg a bydd yn darparu gwell diogelwch i blant.

Bydd y Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i rai staff mewn ysgolion annibynnol a sefydliadau ôl-16 arbenigol annibynnol (darpariaeth ddydd a darpariaeth breswyl) gofrestru gyda'r CGA. Bydd hyn yn cryfhau'r mesurau diogelu sydd ar waith i amddiffyn pob plentyn a pherson ifanc yn y lleoliad hyn gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol cymhleth neu a allai fod yn anabl.

Ymgynghori â phlant

Nid ydym wedi ymgynghori'n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc ar ein cynigion. Yr ymarferwyr hynny y mae’n ofynnol iddynt bellach gofrestru gyda'r CGA sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol.

Er mwyn rhoi effaith i'n cynigion, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud Gorchymyn i ddiwygio deddfwriaeth sydd yn bennaf o ddiddordeb i ymarferwyr addysg, pobl gofrestredig, eu cyflogwyr a’u chynrychiolwyr undeb.

Er nad yw'n angenrheidiol ymgynghori’n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc ar y mater hwn, mae'n werth nodi bod Comisiynydd Plant Cymru wedi dadlau o blaidy newidiadau arfaethedig a'i bod wedi darparu ymateb llawn a defnyddiol i'r ddau ymgynghoriad ffurfiol. Mae'r Comisiynydd Plant yn eiriolwr dylanwadol dros blant a phobl ifanc, gyda gwybodaeth gadarn am faterion yn ymwneud â phlant a phobl ifanc ledled Cymru.

Er y byddai'r Comisiynydd Plant wedi hoffi i Lywodraeth Cymru fod wedi ymgynghori'n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc am y ddeddfwriaeth newydd hon, mae wedi croesawu yn ei hymatebion y dull a gymerwyd, gan ddatgan ei fod yn effeithio'n gadarnhaol ar blant a phobl ifanc sydd mewn cysylltiad â'r gweithlu addysg.

Er y byddai'r Comisiynydd Plant wedi hoffi petai Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori'n uniongyrchol â phlant a phobl ifanc am y ddeddfwriaeth newydd hon, mae wedi croesawu’r dull gweithredu a fabwysiadwyd yn ei hymatebion, gan ei argymell fel un sy’n cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc sydd mewn cysylltiad â'r gweithlu addysg.

Sut mae'r cynigion hyn yn debygol o effeithio ar hawliau plant?

Mae ei gwneud yn ofynnol i'r grwpiau ychwanegol gofrestru gyda'r CGA yn gwella erthyglau'r CCUHP a nodir isod.

Erthygl 3: dylai pob sefydliad sy'n ymwneud â phlant weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn
Effaith

Credwn fod y Gorchymyn yn cefnogi erthygl 3, gan y bydd y gofyniad i grwpiau ychwanegol gofrestru yn galluogi mwy o leoliadau addysg a'r CGA i "weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn" drwy eu hamddiffyn rhag y risg diogelu hwn.

Erthygl 19: yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag trais, cam-drin ac esgeulustod
Effaith

Mae'r Gorchymyn newydd yn darparu amddiffyniad i blant a phobl ifanc drwy sicrhau bod angen i fwy o bobl mewn lleoliadau addysg gofrestru.

Erthygl 29: rhaid i addysg ddatblygu personoliaeth, doniau a galluoedd pob plentyn yn llawn. Rhaid iddi annog parch y plentyn tuag at hawliau dynol, ynghyd â pharch tuag at ei rieni, ei ddiwylliant ei hun a diwylliannau eraill, a'r amgylchedd
Effaith

Mae cofrestru gyda'r CGA yn darparu cymorth a chanllawiau i ddarparwyr addysg broffesiynol i sicrhau eu bod yn cyflawni yn unol â'r cod ymddygiad. Mae hyn yn ei dro yn rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru, ysgolion a darparwyr addysg bod y staff yn addas i weithio ar y lefel a ddisgwylir a darparu darpariaeth i bobl ifanc a phlant sy'n diwallu eu hanghenion.

Erthygl 34: dylai'r Llywodraeth amddiffyn plant rhag cam-drin rhywiol
Effaith

Credwn y bydd y Gorchymyn hwn yn ffordd ychwanegol o ddiogelu plant rhag cam-drin rhywiol. Hynny oherwydd mai'r effaith ddisgwyliedig yw cofrestru pobl sy'n addas yn unig, ac felly atal unrhyw un sy'n anaddas rhag cael eu cyflogi yn y sectorau perthnasol. Mae hyn yn ychwanegol i'r mesurau diogelu presennol mewn addysg y mae'n rhaid eu rhoi ar waith ym mhob lleoliad addysg, fel y nodir yn y canllawiau statudol Cadw Dysgwyr yn Ddiogel

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Mae ei gwneud yn ofynnol i'r grwpiau ychwanegol gofrestru gyda’r CGA yn mynd i'r afael ag argymhellion ynghylch ysgolion annibynnol a osodwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru 'Adolygiad o sut mae Llywodraeth Cymru' yn ymarfer ei swyddogaethau, a'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) 'Yr ymchwiliad i ysgolion preswyl'. Maent hefyd yn cyfrannu at yr argymhellion a wnaed gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro 'Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru'.

Mae'r ymarferwyr y mae'n ofynnol iddynt gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 3 a 25 oed, ni waeth beth fo'u hil, eu rhyw, eu hunaniaeth rywiol, iaith, crefydd, anabledd, oed, cefndir neu amgylchiadau personol. Bydd ymestyn gofynion cofrestru CGA i grwpiau ychwanegol yn cynyddu'r mesurau diogelu ac o bosibl yn gwella'r ansawdd a'r safonau ar gyfer dysgwyr ac ymarferwyr. Er enghraifft, bydd manteision proffesiynol cofrestru â’r CGA yn rhoi cydraddoldeb ar draws y sector. Bydd hefyd o fudd i'r plant a phobl ifanc sy'n derbyn y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y gweithwyr proffesiynol hynny.

Monitro ac adolygu

Bydd effaith y ddeddfwriaeth i gynyddu a diweddaru categorïau'r gweithwyr proffesiynol hynny y mae’n ofynnol iddynt gofrestru gyda'r CGA yn cael ei monitro a'i gwerthuso wrth iddi fynd yn ei blaen. Cyngor y Gweithlu Addysg yw'r sefydliad mwyaf blaenllaw sydd gennym i'n helpu gyda chynllunio'r gweithlu. Mae ganddynt y data i'n helpu ni i ddeall beth sy'n digwydd ar ôl gweithredu’r ddeddfwriaeth. Roedd eu gwaith adolygu a gwerthuso parhaus yn gymorth i ni newid y gyfraith hon, a byddant yn parhau i gynnig y data hwn. Bydd hyn yn golygu y gall unrhyw newidiadau i'r categorïau gael eu gwneud yn ôl y galw yn y dyfodol.

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn cefnogi'r gwaith i adolygu'r trefniadau presennol ar gyfer rheoleiddio ysgolion annibynnol yng Nghymru. Nod yr adolygiad yw nodi'r newidiadau y mae angen eu gwneud i'r rheoliadau perthnasol ar gyfer ysgolion annibynnol er mwyn adlewyrchu polisi cyfredol Llywodraeth Cymru. Bydd y newidiadau i'r Rheoliadau Ysgolion Annibynnol presennol yn sicrhau y bydd plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion annibynnol yn cael eu diogelu'n briodol a bydd eu llesiant hefyd yn cael ei ddiogelu.