Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mawrth, cyhoeddais y byddai gweithgor mewnol yn cael ei greu i ddatblygu cynllun gweithredu a arweinir gan y sector i fynd i’r afael â’r argymhellion eang yn adroddiad y Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol.

Mae’r grŵp, sy’n cynnwys partneriaid o Un Llais Cymru, Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, swyddfa’r Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru wedi gweithio yn gyflym. Rwy’n falch o fod wedi cael cynllun gweithredu’r gweithgor. Rwy’n darparu crynodeb o’r camau gweithredu y mae’r grŵp wedi’u nodi ar gyfer datblygu’r argymhellion yn yr Adroddiad.

Bydd y gweithgor Iechyd Digidol yn goruchwylio’r camau gweithredu hyn.