Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi hyd at £30m i ddarparu rhagor o ofal gartref neu yn y gymuned a lleihau faint o amser y mae pobl yn ei dreulio yn yr ysbyty.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan wedi amlinellu sut y byddant yn gweithio gyda llywodraeth leol, y GIG a phartneriaid eraill i wella gwasanaethau Gofal lleol er mwyn helpu i leihau'r pwysau ar y system iechyd a gofal cymdeithasol a welwyd dros y gaeaf.

Gan adeiladu ar y 670 o welyau cymunedol ychwanegol a gyflwynwyd dros y gaeaf, bydd y buddsoddiad newydd hwn yn gwella cyfleoedd pobl o fyw gartref yn annibynnol, yn sicrhau bod technoleg yn cael ei ddefnyddio'n fwy ac yn aildrefnu staff ac adnoddau er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl sy'n byw ag eiddilwch yn cael eu cefnogi i fyw gartref.

Pan fo angen i rywun aros yn yr ysbyty, bydd gwasanaethau cymunedol gwell yn sicrhau bod y cyfnod aros hwnnw mor fyr â phosibl, drwy alluogi pobl i adfer yn ddiogel ac yn gyfforddus gartref.

Bydd y buddsoddiad hefyd yn lleihau'r pwysau ar welyau ysbytai drwy atal derbyniadau i'r ysbyty drwy ymyrraeth gynnar.

Dywedodd Eluned Morgan:

Yr amcangyfrif yw, mewn llai na 20 mlynedd y bydd bron 150,000 yn fwy o bobl sy'n 75 oed neu'n hŷn yng Nghymru. Mae pobl hefyd yn rhagweld cynnydd o 61.3% yn nifer y bobl yng Nghymru sy'n 85 oed neu'n hŷn. Mae hyn yn arwydd o lwyddiant ein GIG ac mae'n rhywbeth y dylem fod yn falch ohono.

Mae pobl hŷn yn gwneud cyfraniad mawr i gymdeithas Cymru. Mae'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw'n weddol syml medden nhw, sef, os bydd angen gofal a chymorth arnyn nhw, maen nhw am eu cael mewn amgylchedd sy'n gyfarwydd, gyda phobl y maen nhw'n eu nabod. Dydyn nhw ddim am fynd i'r ysbyty oni bai bod gwir angen gwneud hynny.

Mae ymchwil hefyd wedi dangos bod pobl yn adfer yn well yn eu cartrefi eu hunain yn lle yn yr ysbyty, am eu bod yn llai tebygol o golli ffitrwydd neu gael eu heintio. Rhaid inni ganolbwyntio ar drawsnewid y ffordd rydyn ni'n darparu gofal er mwyn gwneud yn siŵr bod hyn yn bosibl.

Rhaid inni roi'r pwyslais ar ddiwallu anghenion pobl sy'n fwy eiddil ac yn hŷn, sydd â nifer o gyflyrau iechyd, yn lle canolbwyntio ar drin cyfnodau byr o afiechyd.

Rwy wedi dweud wrth fyrddau iechyd fod angen iddyn nhw flaenoriaethu mynd i'r afael ag achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal fel mater o frys. Oherwydd os nad oes modd gwella llif cleifion drwy ysbytai, bydd y broblem hon yn effeithio ar bron bob agwedd arall ar ofal iechyd, gan gynnwys rhestrau aros. Dylai'r arian ychwanegol hwn eu helpu i fynd i'r afael â'r her honno.

Bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, yn amlinellu gweledigaeth hirdymor ar gyfer gwella gofal cymdeithasol.

Dywedodd Julie Morgan:

Rwy am weld cysondeb ar draws Cymru yn safonau'r gofal y gall pobl eiddil ddisgwyl ei gael yn eu cymuned, gan arwain yn y pen draw at wasanaeth gofal yn y gymuned i Gymru.

Roedd yn drawiadol ac yn galonogol gweld yr hyn roedd awdurdodau lleol a byrddau iechyd wedi ei gyflawni dros y gaeaf wrth sicrhau 670 o welyau cymunedol ychwanegol ledled Cymru. Ond mae angen inni fynd ymhellach, yn gyflymach er mwyn gwneud yn siŵr bod mwy o bobl yn gallu cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw gartref neu yn eu cymuned, a'u bod yn treulio llai o amser yn yr ysbyty.

Ychwanegodd Eluned Morgan:

Bydd hyn o fudd i bobl ac yn arwain at ganlyniadau gwell, ond bydd hefyd yn gwella llif cleifion drwy ein system gofal iechyd.

Nid yw hyn yn golygu mwy o waith caled i'r gweithlu – mae ein staff iechyd a gofal gwych eisoes yn gwneud popeth o fewn eu gallu. Mae'n yn ymwneud â sut y mae angen i'r bobl sy'n gwneud y penderfyniadau aildrefnu gwasanaethau fel eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol.

Bydd y buddsoddiad o hyd at £30m yn helpu i wneud y canlynol:

  • cyflawni miloedd o oriau ychwanegol o wasanaethau gofal ailalluogi ledled Cymru, gan ddarparu dewis arall diogel yn lle mynd i'r ysbyty a gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu aros gartref, neu roi cyfle i bobl adfer yn gyflymach gartref ar ôl bod yn yr ysbyty
  • recriwtio mwy o weithwyr cymunedol i gynghori pobl ar sut y maent yn gallu manteisio ar y cymorth a'r gwasanaethau cywir er mwyn eu helpu i adfer a byw bywydau annibynnol
  • sicrhau bod Gwasanaeth Ymatebwyr Gofal a Alluogir gan Dechnoleg (TEC) ar waith gan bob awdurdod lleol erbyn gaeaf 2024. Dim ond 10 awdurdod lleol sydd â'r cyfleuster hwn ar hyn o bryd. Drwy ddefnyddio'r dechnoleg fonitro ddiweddaraf, bydd y gwasanaeth hwn yn sicrhau bod pobl yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt mor gyflym â phosibl
  • symud tuag at wasanaeth Nyrsio Cymunedol 24/7 drwy sicrhau bod nyrsys cymunedol ar gael am 10 awr yn ychwanegol y diwrnod ar y Sadwrn a'r Sul ledled Cymru
  • cryfhau gofal lliniarol arbenigol yn y gymuned - drwy sicrhau bod fwy o nyrsys arbenigol ar gael saith diwrnod yr wythnos
  • cymorth ymarferol i helpu gwasanaethau lleol i gydweithio er mwyn rhoi cynllun gofal unigol ar waith i'r bobl hynny y nodwyd eu bod fwyaf tebygol o fod angen gofal brys; bydd hyn yn helpu i leihau nifer y bobl sy'n gorfod mynd i mewn i'r ysbyty

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

Rydyn ni'n gwybod bod gwasanaethau cymdeithasol yn gallu chwarae rhan hanfodol o ran helpu i ofalu am bobl yn eu cymunedau eu hunain, yn lle yn yr ysbyty. Y gaeaf diwethaf, bu'r cynghorau'n gweithio'n ddiflino gyda phartneriaid ym maes iechyd ac yn Llywodraeth Cymru i ddarparu 670 yn fwy o welyau cymunedol. Mae ymrwymiad llywodraeth leol i gydweithio â phartneriaid er mwyn diwallu anghenion ein trigolion yn parhau'n gryf.

Fodd bynnag, nid oes modd gwadu'r pwysau anferth ar y system iechyd a gofal cymdeithasol ar hyn o bryd. Mae cynghorau wedi bod yn pledio'r achos ers hir amser fod angen inni feddwl yn wahanol am iechyd a llesiant, a helpu i gadw pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf. Drwy weithio mewn partneriaeth ar lefel leol, a chynnwys gwasanaethau cymdeithasol, meddygon teulu a gwasanaethau iechyd yn y gymuned yn ogystal â darparwyr yn y sector preifat a'r trydydd sector, gallwn ni helpu i wella canlyniadau ein trigolion yn y dyfodol. Mae'n hollbwysig ein bod yn achub ar y cyfle hwn i ystyried sut mae modd defnyddio adnoddau a chapasiti mor effeithlon ac effeithiol â phosibl, ac i edrych ar beth mae modd ei wneud yn wahanol ar draws y system er mwyn gwella iechyd a llesiant pobl mewn cymunedau ledled Cymru.

Yr wythnos diwethaf, ymwelodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, â'r Ganolfan Cydgysylltu yn Ysbyty De Penfro, lle mae'r bwrdd iechyd, yr awdurdod lleol a'r trydydd sector yn gweithio gyda'i gilydd i gydgysylltu gofal priodol a'i ddyrannu i bobl ledled y sir.

Cawsant gyfle hefyd i gyfarfod â phobl sy'n cael gofal ar ôl dod allan o'r ysbyty a gofal ailalluogi, er mwyn sicrhau nad oes angen iddynt fynd ôl i'r ysbyty a'u bod yn gallu byw'n annibynnol gartref.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gofal Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

Mae hyn yn flaenoriaeth inni ac i'n sefydliadau partner. Drwy weithio gyda'n gilydd i gydgysylltu a darparu ein gwasanaethau, gallwn ni helpu unigolion i aros gartref neu yn eu cymuned gyda'r lefel gywir o ofal a chymorth, fel eu bod yn treulio llai o amser yn yr ysbyty.

Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Penfro ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Diogelu:

Mae gennym hanes o waith partneriaeth gwych yn Sir Benfro, gan weithio gyda'r sector iechyd, y trydydd sector a thîm gofal cymdeithasol yr awdurdod i ddarparu prosiectau a gwasanaethau sy'n helpu ein cymunedau. Mae'n bwysig canolbwyntio ar yr hyn a fydd o fudd i gleifion – ac i wella canlyniadau i'r bobl sy'n byw yn Sir Benfro sydd angen y gwasanaethau iechyd a gofal hanfodol hyn. Bydd y ffordd hon o weithio yn arwain at wasanaethau sydd wedi eu cydgysylltu'n well ac sy'n fwy effeithlon, er mwyn sicrhau eu bod yn addas i'r diben ac yn gwella bywydau'r bobl hynny sydd angen cymorth fwyaf.