Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw mae Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad interim, sydd ar gael yma: Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru: Adroddiad Interim Mehefin 2023. Rwy'n ddiolchgar i'r Comisiwn am y gwaith y mae wedi'i wneud hyd yma.

Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb yn y materion a godwyd a'r atebion posibl yn yr adroddiad interim i roi adborth yn uniongyrchol i'r Comisiwn.

Edrychaf ymlaen at dderbyn adroddiad terfynol ac argymhellion y Comisiwn yn ddiweddarach eleni, ac yn dilyn hynny byddaf yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru.