Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen ymdrech genedlaethol i gefnogi’r 1 plentyn mewn 5 sy’n colli’r ysgol yn rheolaidd. Dyna ddywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae canllawiau drafft newydd, ‘Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi’, wedi eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad, i gefnogi ymdrechion ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol i wella lefelau presenoldeb mewn ysgolion.

Cyn y pandemig, gwelwyd cynnydd graddol mewn lefelau presenoldeb mewn ysgolion, ond mae’r ffigurau presenoldeb cyffredinol wedi gostwng yn sylweddol ers y pandemig. Ym mlwyddyn ysgol 2018/19, 5.7% oedd y ffigur absenoldeb cyffredinol. Hyd yma, mae’r data dros dro ar gyfer blwyddyn ysgol 2022/23 yn dangos bod hwn wedi codi i 10.5%. Mae lefelau absenoldeb cyson ymhlith disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi mwy na dyblu, o 8.4% o ddisgyblion yn 2018/19 i 18.8% o ddisgyblion yn 2022/23 hyd yma.

Mae’r ymgynghoriad yn holi barn am y diffiniad cyfredol o absenoldeb ‘cyson’, a ddiffinnir ar hyn o bryd fel mwy nag 20%. Yn aml, pennir y mesur hwn fel trothwy ar gyfer mathau penodol o ymyrraeth, ee mewnbwn gan y Gwasanaeth Lles Addysg. Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried p’un a fyddai gostwng y trothwy ar gyfer ymyrraeth yn cefnogi teuluoedd yn well.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cymerwyd y mesurau canlynol hefyd:

  • £6.5 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 23-24 ar gyfer mwy o Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd er mwyn sefydlu cysylltiadau cadarnhaol gyda theuluoedd, a darparu canllawiau a gwybodaeth glir ar lefelau presenoldeb da.
  • £2.5 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 23-24 ar gyfer Swyddogion Lles Addysg er mwyn i’r gwasanaeth allu darparu cymorth yn gynharach, cyn i broblemau waethygu, a hefyd i ddarparu cymorth dwysach i ddysgwyr sy’n absennol yn aml
  • diweddaru Fframwaith Presenoldeb Cymru Gyfan
  • mae Estyn wedi cryfhau eu gofynion adrodd o ran lefelau presenoldeb disgyblion
  • ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol gyhoeddi neu ddarparu eu polisïau presenoldeb
  • ailgyflwyno Hysbysiadau Cosb Penodedig, ond dim ond pan nad oes dewis arall

Dywedodd Jeremy Miles:

“Dyw’r ffigurau presenoldeb ddim wedi gwella ers y pandemig yn y ffordd y bydden ni wedi gobeithio – mae angen ymdrech genedlaethol i fynd i’r afael â’r argyfwng sy’n parhau o ran presenoldeb.

“Mae’n rhaid ystyried gwella lefelau presenoldeb mewn ysgolion fel blaenoriaeth genedlaethol. Rydyn ni’n gwybod bod yna resymau o bob math dros absenoldeb dysgwyr, a bod hyn wedi’i waethygu ymhellach dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Mae yna gysylltiad hirsefydledig rhwng presenoldeb, cyrhaeddiad a lles. Fy mlaenoriaeth i, uwchlaw popeth arall, yw gwneud yn siŵr bod pob person ifanc yn cael y cyfle i gyflawni ei botensial. Mae mynd i’r afael ag absenoldeb dysgwyr yn allweddol i hyn.

“Mae ysgolion yn gwneud gwaith ardderchog, ond allan nhw ddim gwneud hyn ar eu pen eu hunain. Mae angen i ddysgwyr fynychu’r ysgol, gweld eu ffrindiau a dysgu yn y dosbarth. Mae hyn yn hollbwysig i’w lles, eu haddysg a’u dyfodol. Dylai rhieni a gofalwyr fod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod eu plant yn yr ysgol. Dyna’r ffordd orau o roi’r dechrau mewn bywyd a’r dyfodol y maen nhw’n ei haeddu.

“Fe fyddwn i’n pwyso ar deuluoedd, ysgolion a’r partïon perthnasol i ddweud eu dweud er mwyn helpu i lywio’r canllawiau pwysig hyn rydyn ni wedi’u cyhoeddi.”

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 20 Gorffennaf 2023.