Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n dangos gwybodaeth am nifer y cleifion a gafodd eu trin o fewn 26 wythnos i ddyddiad derbyn llythyr atgyfeirio yn yr ysbyty ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Prif bwyntiau

  • Cafodd 1,014,880 o lwybrau eu cau yn 2018-19, sef 4.2% yn fwy nag yn 2017-18.
  • Roedd cyfanswm y llwybrau agored oedd yn aros am driniaeth ym mhob mis yn 2018-19 oddeutu 430 i 450 o filoedd.
  • Roedd y ganran a oedd wedi bod yn aros llai na 26 wythnos yn amrywio o 86.9 i 89.1%.
  • Roedd y perfformiad yn erbyn y targed o 95% (26 wythnos) yn 2018-19 yn uwch nag yn 2017-18. Ym mis Mawrth 2019 y cafwyd y ganran uchaf ers mis Gorffennaf 2013 o gleifion a oedd wedi bod yn aros llai na 26 wythnos.
  • Roedd y nifer a oedd wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos yn amrywio o 8,985 i 15,622.
  • Roedd llai o lwybrau lle bu cleifion yn aros mwy na 36 wythnos ym mhob mis yn 2018-19 nag yn 2017-18.
  • Roedd canolrif yr amser aros yn amrywio yn ystod y flwyddyn. Yn 2018-19, yr hiraf oed 10.0 wythnos ym mis Medi 2018; yr isaf oedd 8.6 wythnos ym mis Mawrth 2019.

Yn newydd eleni

Mae dangosfwrdd rhyngweithiol wedi’i gyhoeddi ochr yn ochr â’r adroddiad. Mae’n darparu manylder rhyngweithiol, gan gynnwys dadansoddiad fesul bwrdd iechyd lleol, math o driniaeth a’r cam ar y llwybr. Mae’n dangos canolrifau’r amseroedd aros ac yn rhoi manylion am y llwybrau nad ydynt yn cael eu cynnwys wrth gofnodi’r amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth.

Adroddiadau

Amseroedd atgyfeiriad am driniaeth, Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 647 KB

PDF
Saesneg yn unig
647 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.