Cyngor ar sut i fod yn bridio ac/ neu perchennog ci cyfrifol.
Cynnwys
Ydw i’n barod am gi?
Mae cael ci yn ymrwymiad mawr. Dylech gymryd amser i ystyried yn llawn bob agwedd ar fod yn berchen ar gi. Mae deall y gyfraith a'ch dyletswyddau cyfreithiol sy'n berthnasol i berchnogaeth cŵn yn bwysig iawn
Mae’r Côd Ymarfer er Lles Cŵn yn egluro beth sydd angen i chi ei wneud i fodloni’r safon gofal sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Os ydych yn rhiant neu'n warcheidwad i blentyn o dan 16 oed, yna chi sy'n gyfrifol am unrhyw anifail y mae'r plentyn yn gofalu amdano.
I gael gwybodaeth ynghylch a ydych yn barod am gi, ewch i:
Pa frîd o gŵn sy'n addas imi?
Mae cannoedd o fridiau a mathau o gŵn. Gall dewis yr un cywir ichi fod yn anodd. Peidiwch â dewis ci yn seiliedig ar sut mae'n edrych yn unig heb ymchwilio i'w anghenion o ran ymddygiad ac iechyd. Mae'n bwysig dysgu am y brîd y mae gennych ddiddordeb ynddo i sicrhau mai hwn fydd fwyaf addas ichi a'ch ffordd o fyw.
I gael gwybodaeth ynghylch pa frîd sy’n addas ichi, ewch i:
Gwiriwch iechyd corfforol eich ci
Defnyddiwch yr offeryn Asesiad Iechyd Cynhenid (IHA) i wirio iechyd corfforol eich ci
Beth yw’r offeryn IHA
Mae’r offeryn IHA yn rhestr wirio am ddim, a hawdd ei ddefnyddio, gallwch ei defnyddio i asesu:
- iechyd corfforol, a
- addasrwydd i fridio
Gallwch wneud gwiriad gweledol o 10 nodwedd iechyd allweddol, fel anadlu clir, coesau syth, a chynffon ddigon hir i wagio. Gall unrhyw un ei ddefnyddio, heb offer arbennig nac arbenigedd milfeddygol.
Pam ei ddefnyddio
Mae rhai cŵn wedi’u bridio i edrych mewn ffordd benodol. Ond gall y nodweddion hyn achosi problemau iechyd difrifol. Mae’r rhain yn cynnwys problemau anadlu, poen yn y llygaid, heintiau croen a phroblemau cymalau. Gallant hefyd fyrhau oes ci.
Rydym am hyrwyddo bridio cyfrifol a pherchnogaeth wybodus. Bydd yr offeryn hwn yn eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am iechyd a lles ci. Er mwyn i gi fyw bywyd hapus ac iach.
Darganfod mwy
Ewch i innatehealthassessment.org o 18 Tachwedd ymlaen i gael mynediad i’r offeryn a dysgu mwy.
Sut ydw i'n gofalu am fy nghi?
O dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid mae'n rhaid ichi allu diwallu pum angen a fydd gan eich ci, sef:
- ei angen am amgylchedd addas
- ei angen am ddiet cytbwys
- ei angen i allu arddangos patrymau ymddygiad arferol
- unrhyw angen sydd ganddo i fyw gydag anifeiliaid eraill, neu ar wahân iddynt.
- ei angen i gael ei amddiffyn rhag poen, dioddefaint, anaf ac afiechyd..
I gael gwybodaeth am ofalu am eich ci a'i anghenion, ewch i:
- lles cŵn: côd ymarfer
- sut i ofalu am gi: ffeithiau am gŵn (ar rspca.org.uk)
- perchnogaeth cŵn cyfrifol: sut rydyn ni’n helpu (ar dogstrust.org.uk)
- awgrymiadau diogelwch yn y tywydd cynnes a chymorth (ar dogstrust.org.uk)
- help gyda chostau byw cynyddol a gofalu am eich anifeiliaid anwes (ar rspca.org.uk)
- sut i gadw cŵn bach yn ddiogel yn eich cartref a'ch gardd (ar bluecross.org.uk)
Sut ydw i’n cael ci?
Unwaith y byddwch wedi penderfynu eich bod yn barod am gi, bydd angen ichi ystyried ai mabwysiadu neu brynu gan fridiwr cyfrifol yw'r peth iawn ichi.
Os ydych yn mabwysiadu o ganolfan achub, defnyddiwch ganolfan ag enw da. Yn yr un modd, cyn ichi brynu gan fridiwr, darganfyddwch eu statws trwydded. Bridwyr trwyddedig yw'r rhai sydd â thri neu fwy o eist sy'n bridio. Os mai dim ond un neu ddwy ast sy'n bridio sydd gan rywun, nid oes angen trwydded arnynt.
Y naill ffordd neu'r llall, dylech bob amser weld y ci bach gyda'i fam cyn prynu.
Bydd gan eich Awdurdod Lleol fanylion bridwyr trwyddedig.
Sut ydw i'n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Os ydych yn pryderu am ymddygiad ci a’i berchennog gallwch roi gwybod i’ch Awdurdod Lleol neu’r Heddlu.
O dan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, gall yr Heddlu ac Awdurdodau Lleol gyhoeddi Rhybuddion Diogelu Cymunedol (CPWs). Mae'r rhain yn nodi y dylai'r perchennog roi'r gorau i ymddwyn mewn ffordd benodol. Os na chedwir at hyn, gellir cyhoeddi Hysbysiad Gwarchod y Gymuned (CPNs). Gall y rhain gynnwys gofynion penodol megis:
- gwisgo tennyn neu benwar yn gyhoeddus
- mynychu hyfforddiant cŵn
- sicrhau bod eich gardd wedi'i chau'n ddiogel fel na all ci ddianc
Mae torri CPN yn drosedd a gallai arwain at ddirwy lefel 4 (hyd at £2,500). Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol neu ffoniwch 101 i adrodd y digwyddiad.
Awgrymiadau ar berchenogaeth ci cyfrifol a diogelwch plant
- Peidiwch byth â gadael plant ar eu pen eu hunain â chi, waeth beth yw ei frîd, ei natur, ei oedran na'i berthynas. Ni ellir rhagweld ymddygiad unrhyw gi.
- Peidiwch byth â gadael i blant heidio o amgylch ci, p'un ai eich ci ydyw ai peidio. Gallai rhai cŵn, yn enwedig y rhai sy'n ofnus neu efallai wedi cael eu camdrin, weld hynny fel arwydd o ymosodiad neu oruchafiaeth.
- Peidiwch byth â gadael i blant darfu ar gi pan mae'n cysgu neu'n bwyta. Gall cŵn ymateb yn ymosodol.
- Peidiwch byth â gadael i blant fynd at gi nad ydynt yn ei adnabod. Dysgwch blant i ofyn am ganiatâd perchennog y ci cyn mynd ato i roi mwythau.
- Gwnewch yn siŵr fod gan eich ci ofod tawel i'w ddefnyddio, yn enwedig pan fydd wedi'i gynhyrfu'n ormodol neu wedi blino.
- Peidiwch â gadael i blant chwarae â chŵn a'u teganau heb oruchwyliaeth.
Sut alla i gael fy mhlant i gymryd rhan?
Cŵn ar denynnau
Cŵn yn poeni da byw
Cyngor Cefn Gwlad
Gosod microsglodyn yn eich ci
Rhaid i bob ci yn y DU fod wedi cael microsglodyn a'i gofrestru erbyn iddynt fod yn 8 wythnos oed. Rhaid i weithiwr proffesiynol hyfforddedig osod microsglodyn eich anifail anwes. Gallwch ofyn i'ch milfeddyg, eich cyngor lleol neu ganolfan achub ac ailgartrefu leol a allant osod microsglodyn yn eich ci neu'ch cath. Efallai y byddant yn codi ffi. Mae rhif unigryw yn cael ei roi i ficrosglodyn eich anifail anwes a bydd modd gweld y rhif hwnnw pan fydd eich ci'n cael ei sganio. Rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich ci wedi'i gofrestru ar gronfa ddata gymeradwy, a restrir yma: Cael eich ci neu gath wedi'i feicrosibio (ar gov.uk).
