Neidio i'r prif gynnwy

Data ar gyfer pobl ifanc yn ôl oedran, rhyw, rhanbarth a statws anabledd ar gyfer 2018.

Prif bwyntiau

Pobl ifanc rhwng 16 i 18 oed

  • Ar sail y datganiad ystadegol cyntaf: ar ddiwedd 2017 (dros dro), roedd 9.5% o bobl ifanc rhwng 16 i 18 mlwydd oed yn NEET (9,800), o'i gymharu â 10.5% (11,200) ar ddiwedd 2016.
  • Ar sail yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: (data newydd) ar gyfer y flwyddyn sy’n diweddu Chwarter 3 2018, amcangyfrifwyd bod 8.3% o bobl ifanc rhwng 16 i 18 mlwydd oed yn NEET, o'i gymharu â 8.0% ar gyfer y flwyddyn sy'n diweddu Chwarter 4 2017.
  • Ar sail Cyrchfannau Disgyblion: ym mis Hydref 2016, roedd 1.6% o ymadawyr Blwyddyn 11 yn NEET, o’i gymharu â 2.0% yn 2016.

Pobl ifanc rhwng 19 i 24 oed

  • Ar sail y datganiad ystadegol cyntaf: ar ddiwedd 2017 (dros dro), roedd 16.2% o bobl ifanc rhwng 19 i 24 mlwydd oed yn NEET (46,400), o'i gymharu â 18.5% (47,700) ar ddiwedd 2016.
  • Ar sail yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth: (data newydd) ar gyfer y flwyddyn sy'n diweddu Chwarter 4 2018, amcangyfrifwyd bod 16.0% o bobl ifanc rhwng 19 i 24 mlwydd oed yn NEET, o'i gymharu â 13.7% ar gyfer y flwyddyn sy'n diweddu Chwarter 4 2017.

Nodyn

Y ffynhonnell swyddogol ar gyfer yr amcangyfrifon o’r gyfran o bobl ifanc sy’n NEET yng Nghymru yw’r datganiad ystadegol cyntaf blynyddol. Mae’r bwletin hwn yn darparu ystadegau mwy amserol, ond llai cadarn yn ystadegol, i’r defnyddiwr.

Ffynonellau ystadegol

  • Datganiad ystadegol cyntaf ‘Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur’ gan ddefnyddio ffynonellau data addysg a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.
  • Yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol).
  • Yr arolwg Cyrchfannau Disgyblion o Ysgolion yng Nghymru gan Yrfa Cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET), 2018: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 30 KB

ODS
Saesneg yn unig
30 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.