Neidio i'r prif gynnwy

Data am nifer yr aelwydydd a wnaeth gais i awdurdodau lleol am gymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a nifer yr aelwydydd digartref mewn llety dros dro ar gyfer Hydref i Rhagfyr 2018.

Prif bwyntiau (a)

Aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref (b)

Aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref (Adran 66): Roedd 2,649 o aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod. Dyma’r ail nifer uchaf (ar ôl y chwarter blaenorol) ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth yma. •	Llwyddwyd i atal digartrefedd mewn ychydig dros ddau draean o achosion (67%). Mae’r cyfraddau atal chwarterol wedi amrywio o fewn yr ystod 65% i 69% ers Ebrill 2017.

  • Roedd 2,649 o aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod. Dyma’r ail nifer uchaf (ar ôl y chwarter blaenorol) ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth yma.
  • Llwyddwyd i atal digartrefedd mewn ychydig dros ddau draean o achosion (67%). Mae’r cyfraddau atal chwarterol wedi amrywio o fewn yr ystod 65% i 69% ers Ebrill 2017.

Aelwydydd digartref a bod dyletswydd i’w cynorthwyo i ganfod llety (c)

Aelwydydd Digartref (a bod dyletswydd i’w helpu i gael llety) (Adran 73): Roedd bron 3,000 o aelwydydd yn ddigartref a bod dyletswydd i’w helpu i gael llety.  Dyma’r nifer uchaf ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd.  •	O’r rhain, cafodd 43% eu cynorthwyo yn llwyddiannus i ganfod llety yn ystod y chwarter.  Mae’r gyfradd lwyddiannus chwarterol wedi amrywio o fewn yr ystod 40% i 43% ers Ebrill 2017.

  • Roedd bron 3,000 o aelwydydd yn ddigartref a bod dyletswydd i’w helpu i gael llety.  Dyma’r nifer uchaf ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd.
  • O’r rhain, cafodd 43% eu cynorthwyo yn llwyddiannus i ganfod llety yn ystod y chwarter.  Mae’r gyfradd lwyddiannus chwarterol wedi amrywio o fewn yr ystod 40% i 43% ers Ebrill 2017.

Aelwydydd digartref oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth (d)

Aelwydydd sy’n anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen sydd yn flaenoriaeth (Adran 75): Roedd 645 o aelwydydd digartref yn anfwriadol ddigartref ac mewn angen oedd yn flaenoriaeth, yr ail nifer uchaf ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth. •	O’r rhain, derbyniodd 83% gynnig o lety sefydlog, addas. Dyma’r gyfradd chwarterol uchaf ers Mehefin i Fedi 2016, er mae cyfraddau chwarterol ym tueddu i amrywio.

  • Roedd 645 o aelwydydd digartref yn anfwriadol ddigartref ac mewn angen oedd yn flaenoriaeth, yr ail nifer uchaf ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth.
  • O’r rhain, derbyniodd 83% gynnig o lety sefydlog, addas. Dyma’r gyfradd chwarterol uchaf ers Mehefin i Fedi 2016, er mae cyfraddau chwarterol ym tueddu i amrywio.

Aelwydydd mewn llety dros dro

  • Roedd 2,139 o aelwydydd mewn llety dros dro – yr ail nifer uchaf hyd yma. Parhaodd y sector rhentu preifat i fod y prif fath o lety dros dro a ddefnyddiwyd (38%).
  • Roedd 270 o aelwydydd mewn llety gwely a brecwast. Roedd hyn yn gynnydd o 58% ar y flwyddyn flaenorol. O’r rhain, roedd 30 o aelwydydd yn deuluoedd gyda phlant o gymharu â 12 aelwyd a gofnodwyd flwyddyn yn flaenorol.

Nodiadau

(a) Gall amrywiadau chwarterol a ffactorau tymhorol megis gwyliau a’r tywydd effeithio ar y data. Nid yw’r ystadegau yma yn cael eu haddasu yn dymhorol.

(b) Atal digartrefedd yw pan fo awdurdod lleol yn cymryd camau cadarnhaol i ddarparu cymorth tai i rywun y mae'r awdurdod o'r farn ei fod mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod.

(c) Yn dilyn hysbysiad bod ymgeisydd yn ddigartref, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd (adran 73) i gymryd camau rhesymol i helpu i sicrhau llety.

(d) Os yw'r aelwyd yn ddigartref, bod ganddi angen blaenoriaethol a'i bod yn ddigartref yn anfwriadol, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd i sicrhau llety addas.

Ceir gwybodaeth bellach yn yr Adroddiad Ansawdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.