Rhoddwyr byw: Jacqui Robins
Ar ôl cael ei hysbrydoli gan salwch dirybudd cyfaill iddi, penderfynodd Jacqui Robins o Riwbeina yng Nghaerdydd ddod yn rhoddwr aren allgarol.
Rhoi organau allgarol yw’r enw a roddir ar achos pan fydd person byw iach yn rhoi organ, megis aren, i glaf nad yw’n ei adnabod sy’n aros am drawsblaniad.
Meddai Jacqui:
“Pan gafodd ffrind agos i’r teulu ei ruthro i’r ysbyty gyda chymhlethdodau’n deilio o gerrig yn yr aren, daeth y posibilrwydd y byddai’n rhaid trawsblannu’n anghyffyrddus o fyw i ni.’
‘Diolch byth, roedd modd i’r meddygon drin fy ffrind yn llwyddiannus heb fod angen rhoi dialysis hirfaith na gorfod aros am drawsblaniad. Ond roedd difrifoldeb ei sefyllfa ef wedi peri i mi werthfawrogi cynifer o bobl sy’n union fel fe, yn aros am rywun i fod yn addas ar gyfer rhoi aren, a’r llawdriniaeth yna wedyn i achub bywyd.
Roeddwn i’n benderfynol o roi un o’r ddwy aren iach sydd gen i ar waith er mwyn rhywun arall, a dyna arweiniodd fi at ymchwilio i’r pwnc ac, yn y pen draw, at wneud y penderfyniad i ddod yn rhoddwr organ allgarol.
“Fe wnes i apwyntiad yn yr ysbyty trawsblannu lleol yng Nghaerdydd. Fe ges fy arwain drwy’r broses gan y cydlynydd trawsblaniadau, a thawelwyd fy meddwl o ran bod gen i’r hawl i newid fy meddwl ar unrhyw adeg yn y broses – hyd at y diwrnod cyn y llawdriniaeth.
Fe ges i archwiliad meddygol trylwyr i wneud yn siŵr fy mod i’n iach a bod y ddwy aren yn hollol iawn, gan sicrhau y byddwn i’n dal i fod yn holliach pe bawn i’n dewis rhoi un i rywun arall.
Roedd yr archwiliad yn cynnwys cyfres o brofion gwaed i gadarnhau mod i’n addas i fod yn rhoddwr aren byw ac i adnabod rhywun addas i roi fy aren iddyn nhw.
Ar ôl dod o hyd i rywun oedd yn gweddu, fe ges i lawdriniaeth ddiffwdan i dynnu un aren ym mis Mai 2014 ac roeddwn yn ôl ymysg fy mhethau ymhen wythnos.
Fe fuodd fy ngŵr a’r tri phlentyn sydd yn oedolion yn eithriadol o gefnogol drwy gydol yr holl broses, ac fe gadwon nhw lygad arna i er mwyn gwneud yn siŵr mod i’n glynu wrth y cyfnod gorffwyso o 12 wythnos sy’n cael ei argymell er mwyn gwella’n llwyr.
“Mae rhoi aren er mwyn gwella bywyd rhywun arall yn brofiad mor werthfawr i bawb sy’n ymwneud â’r broses. Mae rhoi organ yn allgarol yn digwydd yn hollol ddienw, dyw’r claf na’r rhoddwr byth yn cwrdd, ond rwy’n gobeithio y galla i annog eraill i ddilyn fy arweiniad wrth iddyn nhw glywed fy stori i, gan roi rhodd o fywyd llawn a dymunol i rywun sydd mewn angen.”
Rhoddwyr byw - oes diddordeb gennych chi?
Dysgwch am sut i ddod yn rhoddwr byw a rhoi'r rhodd orau bosib.
