Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r grŵp yn goruchwylio’r camau sy’n cael eu cymryd i roi’r ddeddf ar waith.

Cyflwyniad

Cafodd y cylch gorchwyl hwn ei lunio am y tro cyntaf tra bo’r Bil yn mynd drwy’r Senedd; mae bellach wedi’i ddiweddaru, yn dilyn Cydsyniad Brenhinol, i gyfeirio at y Ddeddf a’r amserlen ar gyfer ei chychwyn.

Diben y Grŵp

Dod â rhanddeiliaid ac asiantaethau perthnasol at ei gilydd i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau gweithredol, hyfforddiant a chanllawiau (fel y bo’n briodol), a’r gwaith o gasglu data a’i fonitro; a rhoi cymorth i rieni er mwyn cefnogi a rheoli’r newid yn effeithiol ers i’r Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 gael ei phasio gan Senedd Cymru.

Bydd y Grŵp Gweithredu Strategol yn goruchwylio’r gwaith manwl, yn gwneud argymhellion strategol ac yn sicrhau bod y gyfraith yn cael ei gweithredu mewn modd ymarferol.

Trefniadau Llywodraethiant

Caiff y Grŵp Gweithredu Strategol ei gadeirio gan Ddirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Plant a Theuluoedd, ac mae ei aelodau yn cynrychioli’r rhanddeiliaid a’r partneriaid a restrir isod. Bydd y Grŵp Gweithredu Strategol yn atebol i’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Bydd y grwpiau gorchwyl a gorffen yn atebol i’r Grŵp Gweithredu Strategol. Bydd pob grŵp yn cydgysylltu adroddiadau a’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Grŵp Gweithredu Strategol ar ôl eu cyfarfodydd neu ar adegau priodol drwy gydol y prosiect.

Amserlenni a dyddiadau pwysig

Bydd y Grŵp Gweithredu Strategol yn cwrdd bob yn dri mis o fis Mai 2019 am gyfnod o 2 flynedd o leiaf (Medi 2021). Caiff hyn ei adolygu ym mis Mawrth 2021. Bydd Llywodraeth Cymru yn trefnu cyfarfodydd chwarterol, gan gynnwys darparu lleoliad ar gyfer y cyfarfodydd hynny, ac yn darparu’r manylion a’r dyddiadau o leiaf 3 mis cyn pob cyfarfod.

Dylai gwaith y Grŵp Gweithredu Strategol fod wedi’i gwblhau cyn i’r newid yn y gyfraith ddod i rym ar 21 Mawrth 2022.

Bydd pob grŵp gorchwyl a gorffen yn penderfynu ar amserlen eu cynllun gwaith eu hunain. Mae’n bosibl y caiff rhai ohonynt eu cadw fel grwpiau cyfeirio unwaith y daw’r newid arfaethedig yn y gyfraith i rym.

Tasgau a dyddiadau allweddol ar gyfer y grŵp

  • Gwirio cynnydd gwaith y Grwpiau Gorchwyl a Gorffen bob chwarter - O Ionawr 2020
  • Adroddiad cynnydd i Lywodraeth Cymru bob chwarter - O Ionawr 2020
  • Ar sail gwaith manwl y grwpiau gorchwyl a gorffen, gwneud argymhellion strategol terfynol i Lywodraeth Cymru ynghylch gweithredu’r newid arfaethedig yn y gyfraith yn y modd mwyaf ymarferol - Erbyn Mawrth 2021
  • Sicrhau bod pob newid sy’n ofynnol er mwyn gweithredu’n effeithlon wedi’i wneud erbyn i’r newid yn y gyfraith ddod i rym - Erbyn Medi 2021
  • Y dyddiad y disgwylir i’r newid ddod i rym - 21 Mawrth 2022
  • Adolygiad ar ôl ei weithredu - 3 a 5 mlynedd ar ôl iddo ddod i rym

Rolau penodol yr Aelodau a Llywodraeth Cymru

Daw’r aelodau o amrywiaeth o sefydliadau, ac mae ganddynt ddealltwriaeth o’r prif faterion sy’n ymwneud â’r newid yn y gyfraith.

Gofynnir i’r aelodau:

  • Fynd i gyfarfodydd neu enwebu dirprwy priodol i fynd, a all lywio trafodaethau a phenderfyniadau strategol
  • Dod â’u harbenigedd a’u gwybodaeth i waith y grŵp
  • Rhannu gwybodaeth berthnasol
  • Goruchwylio gwaith grwpiau gorchwyl a gorffen ac adolygu’r argymhellion
  • Rhoi cyngor ar sut i weithredu penderfyniadau allweddol
  • Cydweithio gyda chyfrinachedd

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu:

  • Cymorth polisi ac arbenigedd technegol
  • Ysgrifenyddiaeth, cefnogaeth weinyddol a threfniadau ar gyfer y cyfarfodydd a gwaith y grŵp
  • Gwybodaeth reolaidd ar gynnydd o ran y cynllun gwaith y cytunwyd arno
  • Papurau o fewn 5 diwrnod gwaith cyn pob cyfarfod.

Aelodaeth

Bydd y Grŵp Gweithredu Strategol yn cynnwys cynrychiolwyr o blith y rhanddeiliaid allweddol yn y tabl isod. Pan fydd angen, bydd y Grŵp Gweithredu Strategol yn cyfethol arbenigedd ehangach a/neu’n ymgynghori â sectorau a grwpiau ychwanegol fel y bo’n briodol.

Bydd yr aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o’r isod:

  • Cafcass Cymru
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru
  • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Cyfarwyddwyr Addysg
  • Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Fforwm Penaethiaid Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd a Nyrsys Ysgol Cymru Gyfan
  • Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru
  • Tîm Diogelu’r GIG
  • Grŵp Cynghori Penaethiaid Bydwreigiaeth
  • Y Rhwydwaith Cydlynwyr Rhianta
  • Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru
  • Heddlu Cymru
  • Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol/Plant
  • Y Coleg Nyrsio Brenhinol
  • Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru
  • Byrddau Diogelu Rhanbarthol
  • Llywodraeth Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Bwrdd Cyfiawnder Leuenctid
  • Plant yng Nghymru

Grwpiau Gorchwyl a Gorffen

Bydd gofyn i bob grŵp gorchwyl a gorffen ddewis cydgadeiryddion i weithio ochr yn ochr â chydgadeirydd o Lywodraeth Cymru neu sefydlu trefniadau eraill i gydlynu cyfarfodydd y grŵp, ei dasgau, ei gamau gweithredu a’i argymhellion i’r Grŵp Gweithredu Strategol. Ceir rhannu’r rôl hon rhwng yr aelodau. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu ysgrifenyddiaeth a chefnogaeth weinyddol, gan gynnwys trefnu cyfarfodydd, darparu lleoliadau a helpu i ddrafftio papurau a dogfennau allweddol.

Nodwyd pedwar prif faes sy’n galw am grwpiau gorchwyl a gorffen, a byddant yn ystyried ac yn gweithio drwy’r materion perthnasol yn fanwl:

Grŵp Gweithredu Arbenigol ar Rianta

Bydd y grŵp hwn yn edrych ar y cyngor a’r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd o ran magu plant, yn ogystal â’r ddarpariaeth sydd ar y gweill mewn perthynas â’r gyfraith newydd.

Grŵp Casglu a Monitro Data 

Bydd y grŵp hwn yn ystyried dulliau o fonitro effeithiau’r ddeddfwriaeth ar wasanaethau cyhoeddus. Bydd hyn yn cynnwys ystyried systemau TG, cofnodi data gwasanaethau cymdeithasol ac awdurdodau lleol, yr Heddlu a’r system cyfiawnder troseddol, a’i ddefnyddio i ddarparu tystiolaeth o effeithiau a chostau’r ddeddfwriaeth yn y dyfodol.

Grŵp Gweithrediadau, Canllawiau a Hyfforddiant

Bydd y grŵp hwn yn ystyried yr effeithiau ar brosesau sefydliadau, rhanddeiliaid allweddol a gwasanaethau sy’n ymwneud â diogelu plant, yn ogystal â gofynion o ran canllawiau a hyfforddiant proffesiynol.

Grŵp Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys a Chynlluniau Dargyfeirio

Bydd y grŵp hwn yn ystyried y defnydd o ddatrysiadau y tu allan i’r llys, cynlluniau dargyfeirio unigolion o’r system gyfiawnder, addysg i helpu rhieni, a phrosesau cysylltiedig.

Yn ogystal, bydd y Grŵp Gweithredu Strategol yn cael gwybodaeth reolaidd am gynlluniau Codi Ymwybyddiaeth ac yn cael ei wahodd i roi ei sylwadau ar adegau allweddol yn y cylch cynllunio.