Neidio i'r prif gynnwy

Mae clefyd Aujeszky (pseudorabies) yn glefyd sy'n effeithio ar foch yn bennaf ond mae'n gallu cael ei basio i rywogaethau eraill. Mae'n glefyd hysbysadwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd ym 1991 nad oedd unrhyw achos o glefyd Aujeszky ym Mhrydain Fawr.

Amheuon a chadarnhad

Os oes gennych unrhyw amheuon fod clefyd Aujeszky ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion leol ar 0300 303 8268 ar unwaith.

Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hynny.

Arwyddion clinigol

Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol:

  • cryndod (ar berchyll newydd-anedig)
  • colli cydsymudiad yn y cyhyrau (ar berchyll newydd-anedig)
  • gwendid yn y coesau ôl (ar berchyll newydd-anedig)
  • tisian, peswch ac anadlu llafurus
  • gwres a cholli pwysau
  • erthylu, geni perchyll marw a ffetysau mymiedig

Trosglwyddo ac atal

Mae clefyd Aujeszky yn cael ei ledaenu'n bennaf gan foch sydd wedi'u heintio. Mae'r feirws yn gallu cael ei gario yn yr aer ac yn gallu teithio'n bell.