Neidio i'r prif gynnwys

Prif newidiadau a wnaed gan ddiwygiadau mis Medi 2026

Mae Rheol 4.5 wedi’i diwygio i egluro bwriad ynghylch dylanwad amhriodol.

Mae nifer o fân newidiadau gramadegol a fformatio wedi’u gwneud i wella eglurder a chysondeb.

Prif newidiadau a wnaed gan ddiwygiadau mis Mai 2025

Mae’r teitl wedi’i newid er mwyn cysondeb â dogfennau tebyg eraill. Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol i effaith y ddogfen wedi’u gwneud.

Prif newidiadau a wnaed gan ddiwygiadau Awst 2024

Mae Rheolau 2.15 a 2.17 wedi’u diwygio i egluro sut y dylid ymdrin â gwrthdaro buddiannau.

Mae gan Reol 4.4 ofyniad newydd i bersonau sy’n ymgymryd â gwaith ar ran cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu (RBCAau) i’w hysbysu o newidiadau i gyfyngiadau ac amodau a allai fod yn berthnasol iddynt.

Mae’r rheolau cofrestru wedi’u hychwanegu at Atodiad 1 o Atodiad 3. Mae Atodiad 3 wedi’i ddileu ac mae’r Atodiadau dilynol wedi’u hailrifo.

Adolygwyd nifer o’r amserlenni ar gyfer hysbysu’r awdurdod rheoleiddio nawr yn Atodiad 1, megis hysbysiad o dorri’r gwahanol safonau, codau a rheolau.

Mae’r atodiad ar gyfer amodau cofrestru, sydd bellach yn Atodiad 3, wedi’i ddiwygio i wella eglurder y geiriad ynghylch amodau y gellir eu cymhwyso i gofrestriad unigolyn.

Rhagymadrodd

Mae’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn gymwys i gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu (RBCAau) yng Nghymru. Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod rheoleiddio i ar gyfer RBCAau o dan adran 58A o Ddeddf Adeiladu 1984 (y Ddeddf). Mae’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn cael eu paratoi a’u cyhoeddi yn unol ag adran 58R y Ddeddf.

Mae’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn nodi’r safonau ymddygiad proffesiynol a’r arferion a ddisgwylir gan gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu. Mae’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn ei gwneud yn ofynnol i gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu gynnal egwyddorion proffesiynol a moesegol craidd (yr egwyddorion) a chydymffurfio â gofynion mewn perthynas ag arferion ac ymddygiadau proffesiynol (y safonau).

Mae lle canolog i’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn y proffesiwn rheolaeth adeiladu a reoleiddir – lle mae’n ofynnol i chi (y cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu) ysgwyddo cyfrifoldeb ac atebolrwydd unigol am benderfyniadau, gweithredoedd, ac’ ymddygiad eich sefydliad. Ynghyd â hyn, datblygwyd Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu (Cymru) i nodi safonau cymhwysedd arolygwyr cofrestredig adeiladu.

Mae’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn gymwys i waith a wneir gan RBCAau. Mae’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn mabwysiadu’r diffiniadau yn y Ddeddf, gan gynnwys:

  • awdurdod rheoleiddio yn adran 58A
  • cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu (RBCA) yn adran 58N
  • arolygydd cofrestredig adeiladu (RBI) yn adran 58B
  • gweithgareddau cyfyngedig a swyddogaethau cyfyngedig yn adran 54B

Mae’r egwyddorion yn nodi’r gofynion proffesiynol a moesegol craidd y mae’n rhaid i RBCAau eu cynnal. Mae’r safonau’n ategu’r egwyddorion, gan nodi gofynion mewn perthynas ag arferion ac ymddygiadau proffesiynol yr ydym yn disgwyl i RBCAau eu bodloni. Dylai RBCAau ddefnyddio canllawiau ac ymarfer eu barn broffesiynol wrth gymryd camau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â holl ofynion y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol.

Gall torri’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol arwain at gamau disgyblu, gan gynnwys diddymu’ch cofrestriad.

Mae’n hanfodol eich bod yn darllen y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn llawn a’ch bod yn deall yr egwyddorion a’r safonau y mae’n rhaid ichi gydymffurfio â hwy. Gall yr awdurdod rheoleiddio adolygu’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol a chyhoeddi’r diwygiadau hynny ar unrhyw adeg.

Pan fo cyfeiriadau at unrhyw un o’r dogfennau canlynol, cyfeiriwch at y fersiwn ddiweddaraf a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru:

  • Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu (Cymru)
  • Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (Cymru)
  • Rheolau Safonau Gweithredol (Cymru)
  • Rheolau Safonau Gweithredol: Trefniadau Monitro (Cymru)

Yr egwyddorion

Rhaid i RBCAau wneud y canlynol:

  1. Gweithredu a gonestrwydd
  2. Gweithredu ag uniondeb
  3. Cynnal cymhwysedd proffesiynol
  4. Darparu gwasanaethau gyda sgil a gofal proffesiynol 
  5. Cynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y gwasanaethau a ddarperir a’r proffesiwn
  6. Trin pawb yn deg a gweithredu yn unol â’ch rhwymedigaethau cyfreithiol

Y safonau

1. Cydymffurfio â’ch rhwymedigaethau cyfreithiol, rheoleiddiol a phroffesiynol

1.1     Mae’n rhaid ichi gydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol:

a. wrth ymgymryd â gwaith
b. sy’n ymwneud â gorfodi cydymffurfiaeth sy’n gysylltiedig â swyddogaethau cyfyngedig ac
c. sy’n gymwys i’r ffordd rydych yn cynnal eich gweithgareddau busnes, er enghraifft atal gwyngalchu arian, atal llwgrwobrwyo a llygredigaeth, diogelu data a Deddf Cydraddoldeb 2010.

1.2      Mae’n rhaid ichi gydymffurfio â’ch rhwymedigaethau i’r awdurdod rheoleiddio o dan y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol, yn cynnwys y rhai fel y nodir yn yr Atodiadau ac unrhyw rwymedigaethau i reoleiddwyr eraill, awdurdodau lleol neu gyrff proffesiynol.

1.3      Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu, a’r canllawiau statudol a gyhoeddir gan yr awdurdod rheoleiddio, ac ystyried arfer da lle bo hynny’n briodol.

1.4      Mae’n rhaid ichi gynnal annibyniaeth a didueddrwydd proffesiynol wrth ymgymryd â gweithgareddau gwaith.

1.5      Mae’n rhaid ichi beidio â gweithredu mewn modd sy’n debygol o ddwyn anfri ar y proffesiwn rheolaeth adeiladu.

1.6      Mae’n rhaid ichi gymryd camau i sicrhau bod gweithgareddau y mae unigolion sy’n gweithio i chi neu sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan yn ymgymryd â hwy yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol.

1.7      Pan fyddwch yn dod yn ymwybodol o achos o dorri Deddf Adeiladu 1984, neu ddeddfwriaeth gysylltiedig fel Deddf Diogelwch Adeiladu 2022, Rheoliadau Adeiladu 2010, rhaid i chi ddefnyddio’r pwerau rheoleiddio sydd ar gael i chi i sicrhau cydymffurfiaeth. Os na allwch sicrhau cydymffurfiaeth o fewn terfyn amser rhesymol, mae’n rhaid ichi hysbysu’r awdurdod lleol perthnasol am waith nad yw’n cydymffurfio.

1.8      Rhaid i chi sicrhau bod y termau ‘cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu‘, ‘RBCA’, ‘arolygydd cofrestredig adeiladu’ ac ‘RBI’ yn cael eu defnyddio’n gywir.

1.9      Rhaid i chi wneud yn siŵr bod y termau ‘cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu‘ ac ‘RBCA’ yn cydymffurfio â thelerau eich cofrestriad.

2. Gofynion busnes

Cwmpasu rhwymedigaethau proffesiynol

2.1      Dim ond gwaith rydych chi, ac unrhyw bersonau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan, wedi’ch yswirio ac wedi’u hyswirio yn addas ar ei gyfer y caniateir i chi ei wneud.

2.2      Rhaid i chi gydymffurfio’n llawn â’ch gofynion yswiriant.

Priodoldeb ariannol

2.3      Mae’n rhaid ichi sicrhau bod materion ariannol proffesiynol yn cael eu rheoli mewn ffordd gyfrifol.

2.4      Mae’n rhaid ichi sicrhau bod gennych reolaethau cyfrifyddu priodol.

2.5      Mae’n rhaid ichi roi gweithdrefnau priodol ar waith i sicrhau y cydymffurfir â’r rheolaethau cyfrifyddu.

2.6      Mae’n rhaid i chi beidio â hwyluso troseddau ariannol, gan gynnwys gwyngalchu arian, cyllido terfysgaeth, llwgrwobrwyo a llygredigaeth neu osgoi trethi.

2.7      Mae’n rhaid ichi sicrhau bod gennych brosesau priodol ar waith i atal hwyluso troseddau ariannol.

2.8      Mae’n rhaid ichi beidio â gosod prisiau ar y cyd ag eraill na chymryd rhan mewn arferion gwrth-gystadleuol.

2.9      Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich costau proffesiynol yn deg ac yn gymesur.

Polisïau a gweithdrefnau ysgrifenedig 

2.10   Mae’n rhaid bod gennych bolisïau a gweithdrefnau ysgrifenedig clir a hygyrch mewn perthynas â’r canlynol:

  • gwrthdaro buddiannau
  • iechyd, diogelwch a llesiant
  • atal gwyngalchu arian, cyllido terfysgaeth a llwgrwobrwyo a llygredigaeth
  • diogelu data
  • chwythu’r chwiban
  • ymdrin â chwynion 
  • dysgu a datblygu
  • ymddygiad staff
  • cydraddoldeb/tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant.

2.11    Mae’n rhaid ichi sicrhau fod yr holl bolisïau a gweithdrefnau yn gyfredol ac yn adlewyrchu gofynion deddfwriaethol a chanllawiau cyfredol.

2.12    Mae’n rhaid ichi sicrhau fod polisïau a gweithdrefnau perthnasol yn cael eu darparu i bersonau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan.

2.13    Mae’n rhaid bod gennych brosesau clir a hygyrch sy’n galluogi personau i godi pryderon o dan y cyfryw bolisïau ag y cyfeirir atynt yn 2.10.

2.14    Mae’n rhaid ichi sicrhau bod gennych brosesau a gweithdrefnau ar waith i ymdrin yn briodol â phryderon o’r fath ag y cyfeirir atynt yn 2.10 a’u datrys mewn modd amserol.

Gwrthdaro buddiannau

2.15    Mae’n rhaid bod gennych brosesau ar waith i nodi achosion o wrthdaro buddiannau, ac achosion posibl o wrthdaro buddiannau, cyn cychwyn gweithgaredd gwaith ac yn ystod gweithgaredd gwaith.

2.16    Mae’n rhaid ichi beidio â chytuno i ymgymryd â gwaith, na pharhau i ymgymryd â gwaith, pan nodir achos o wrthdaro buddiannau.

2.17    Pan nodir gwrthdaro buddiannau, rhaid i chi roi gwybod i’r ceisydd neu’r asiant a datrys neu ddileu’r gwrthdaro. Os nad oes modd datrys y gwrthdaro, rhaid i chi roi’r gorau i weithredu.

2.18    Mae’n rhaid ichi gyhoeddi’ch polisi gwrthdaro buddiannau a sicrhau ei fod yn hygyrch.

Defnyddio technoleg a rheoli data 

2.19    Mae’n rhaid ichi sicrhau eich bod wedi cymryd camau i nodi a lliniaru unrhyw risgiau mewn perthynas â defnyddio technoleg berthnasol i’ch helpu i gyflawni’ch gwaith.

2.20    Yn ogystal â chydymffurfio â gofynion diogelu data, mae’n rhaid ichi gymryd camau i sicrhau bod data masnachol yn cael eu storio’n briodol.

Chwythu’r chwiban.

2.21    Mae’n rhaid ichi gyhoeddi polisi ‘codi llais’ neu chwythu’r chwiban:

  • sy’n galluogi gweithwyr i godi pryderon yn gyfrinachol
  • sy’n hygyrch
  • sy’n cael ei gefnogi’n weladwy ar y lefel uchaf yn y sefydliad
  • sy’n cael ei hyrwyddo’n weithredol yn eich sefydliad.

2.22   Ni ddylech ymddwyn mewn ffordd sy’n atal unigolyn rhag chwythu’r chwiban neu sy’n peri i unigolyn fod yn amharod i chwythu’r chwiban.

2.23    Mae’n rhaid ichi sicrhau eich bod yn rhoi prosesau a gweithdrefnau effeithiol ar waith i reoli a datrys pryderon a godir o dan y polisi chwythu’r chwiban.

2.24    Mae’n rhaid ichi ystyried pryderon chwythu’r chwiban a gyflwynir i chi mewn ffordd deg a chadw cofnodion am o leiaf 15 mlynedd o ddyddiad y rhoddir gwybod am bryder.

Ymdrin â chwynion 

2.25    Mae’n rhaid i chi gyhoeddi eich polisi ymdrin â chwynion a sicrhau ei fod yn hygyrch i unrhyw bersonau sydd ag angen dilys i gael mynediad at bolisïau o’r fath.

2.26    Mae’n rhaid ichi sicrhau eich bod yn rhoi prosesau a gweithdrefnau effeithiol ar waith i ymdrin â chwynion a’u datrys mewn modd amserol

2.27    Mae’n rhaid ichi roi mesurau ar waith i fonitro effeithiolrwydd eich gweithdrefnau ymdrin â chwynion.

Diwylliant, ymddygiad staff ac ymddygiad personau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan

2.28    Mae’n rhaid ichi sicrhau eich bod yn rhoi prosesau a gweithdrefnau priodol ar waith i fynd i’r afael yn effeithiol â phryderon mewn perthynas ag ymddygiad staff.

2.29    Mae’n rhaid ichi sicrhau eich bod yn rhoi prosesau a gweithdrefnau priodol ar waith i fynd i’r afael yn effeithiol â phryderon a godir mewn perthynas ag ymddygiad personau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan.

2.30    Mae’n rhaid ichi ddarparu gwybodaeth briodol ynglŷn â sut i roi gwybod am unrhyw bryderon sy’n ymwneud â chaethwasiaeth fodern, cam-drin gweithwyr neu arferion gwaith sy’n camdrin personau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan.

2.31    Dylech gymryd camau i gefnogi diwylliant cynhwysol.

Dysgu a datblygu

2.32    Yn ogystal â’r darpariaethau a geir yn safon 3, mae’n rhaid ichi sicrhau eich bod yn darparu gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) rheolaidd a chyfredol ar gyfer pob cyflogai ar y canlynol:

  • gofynion diogelu data
  • atal gwyngalchu arian, cyllido terfysgaeth a llwgrwobrwyo a llygredigaeth
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu (Cymru)

3. Cymhwysedd proffesiynol a datblygiad proffesiynol parhaus

3.1      Yn ddarostyngedig i safon 3.5 isod, dim ond gwaith rydych chi (a chyflogeion perthnasol) wedi’ch cofrestru i ymgymryd ag ef ac y mae gennych y cymhwysedd angenrheidiol i ymgymryd ag ef y caniateir i chi ei wneud, oni bai eich bod dan oruchwyliaeth.

3.2      Yn ddarostyngedig i safon 3.5 isod, mae’n rhaid ichi sicrhau bod unrhyw berson sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan wedi’i gofrestru ’a bod ganddynt y cymhwysedd angenrheidiol.

3.3      Mae’n rhaid i chi sicrhau bod gan unrhyw bersonau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan mewn rôl rheoli technegol, neu’n goruchwylio gwaith technegol eraill, y cymhwysedd a’r cofrestriad angenrheidiol i wneud hynny.

3.4      Mae’n rhaid ichi sicrhau bod unrhyw bersonau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan sy’n datblygu eu cymhwysedd ym maes rheoliadau adeiladu, yn cael eu goruchwylio gan arolygydd cofrestredig adeiladu â chymhwysedd addas.

3.5      Mae’n rhaid ichi gymryd camau i sicrhau bod cyflogeion sy’n ymgymryd â gwaith (gan gynnwys y rhai o dan oruchwyliaeth) yn cynnal eu cymhwysedd ac yn cydymffurfio ag unrhyw ganllawiau DPP a gyhoeddir gan yr awdurdod rheoleiddio.

3.6      Yn unol â safon 3.5, mae’n rhaid ichi sicrhau eich bod yn darparu’r canlynol i gyflogeion sy’n ymgymryd â gwaith, a phersonau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan:

  • hyfforddiant a chanllawiau cyfredol a pherthnasol.
  • goruchwyliaeth a chyngor.
  • rhaglen strwythuredig o ddysgu a datblygu gan gynnwys canllawiau DPP a gyhoeddwyd gan yr awdurdod rheoleiddio
  • digon o amser i fyfyrio ar eu hanghenion datblygu yn ffurfiol a digon o amser i gofnodi’r canfyddiadau a’r camau gweithredu arfaethedig i ddiwallu’r anghenion hyn yn unol â’r canllawiau DPP.

3.7      Mae’n rhaid ichi fonitro effeithiolrwydd prosesau a gweithdrefnau mewn perthynas â dysgu a datblygu, cymhwysedd, a DPP, gan gynnwys cyfraddau cymryd rhan.

3.8      Mae’n rhaid ichi roi prosesau ar waith sy’n sicrhau bod cofnodion o weithgareddau dysgu a datblygu, cymhwysedd a DPP yr ymgymerir â hwy yn cael eu cadw am o leiaf 15 mlynedd. Dylech sicrhau bod cofnodion o’r fath yn cael eu defnyddio i gefnogi cyn-weithwyr i ddangos cymhwysedd.

3.9      Mae’n rhaid ichi gymryd camau i sicrhau bod personau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan yn cynnal eu cymhwysedd ac yn cydymffurfio â chanllawiau DPP a gyhoeddir gan yr awdurdod rheoleiddio.

3.10    Mae’n rhaid ichi sicrhau bod systemau ar waith i alluogi cyflogeion (a phersonau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan lle y bo’n berthnasol) i loywi eu gwybodaeth am y polisïau canlynol yn rheolaidd:

  • gwrthdaro buddiannau
  • trefniadau yswiriant/atebolrwydd proffesiynol
  • ymdrin â chwynion 
  • iechyd, diogelwch a llesiant
  • atal gwyngalchu arian, cyllido terfysgaeth ac atal llwgrwobrwyo a llygredigaeth
  • diogelu data
  • chwythu’r chwiban
  • ymddygiad staff
  • cydraddoldeb/tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant.

4. Safon gwasanaeth

4.1      Wrth ymgymryd â’ch gwaith, mae’n rhaid ichi weithredu:

  • mewn ffordd deg a gwrthrychol
  • yn ddiwyd
  • yn gydwybodol
  • er lles y cyhoedd wrth ymwneud ag unigolion, proffesiynau eraill, neu’r proffesiwn rheolaeth adeiladu

4.2      Wrth ymgymryd â’ch gwaith, mae’n rhaid ichi:

  • arfer trefniadau llywodraethu effeithiol
  • bod yn atebol am eich penderfyniadau
  • bod yn atebol am y dyletswyddau a’r tasgau rydych yn eu dirprwyo i bersonau yn eich sefydliad neu sy’n cael eu contractio gan eich sefydliad sydd wedi’u cynnwys yn y trefniadau llywodraethu
  • bod yn atebol am waith yr ymgymerir ag ef ar eich rhan

4.3      Mae’n rhaid ichi sicrhau bod mesurau priodol ar waith i reoli gweithgareddau gwaith yn weithredol, sicrhau eu hansawdd a’u goruchwylio.

4.4     Mae’n rhaid ichi sicrhau bod personau sy’n ymgymryd â gwaith ar eich rhan yn deall:

  • y rolau a neilltuir iddynt
  • eu cyfrifoldebau
  • unrhyw gyfyngiadau neu amodau sy’n gymwys iddynt; a
  • bod yn rhaid iddynt eich hysbysu am unrhyw newidiadau i’r cyfyngiadau a’r amodau a allai fod yn gymwys iddynt

4.5      Mae’n rhaid ichi sicrhau na fydd buddiannau personol, rhagfarn, tuedd nac agenda bersonol yn cael dylanwad amhriodol ar gyngor na phenderfyniadau proffesiynol.

4.6      Mae’n rhaid ichi beidio â chytuno i ymgymryd â gwaith nad oes gennych y cymhwysedd sefydliadol, yr amser ac/na’r adnoddau i’w gwblhau.

5. Ymgysylltu â cheisyddion neu asiantau

5.1      Mae’n rhaid i chi gadarnhau pwy yw eich ceisydd neu asiant a sicrhau eich bod yn cofnodi’r gwasanaethau y gofynnir amdanynt ac yn esbonio’r gwasanaethau y gallwch eu darparu.

5.2      Mae’n rhaid ichi gadarnhau a datgan unrhyw gyfyngiadau sy’n gymwys i’ch cofrestriad fel Cymeradwywr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu’.

5.3      Ni ddylech ymgymryd ag unrhyw waith nes bod y ceisydd neu’r asiant wedi cael y llythyr sy’n amlinellu’r telerau penodi, fel y nodir yn Atodiad 2, ac wedi cytuno’n ysgrifenedig i’w ddarpariaethau.

5.4      Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r ceisydd neu’r asiant os oes unrhyw newidiadau i’r telerau mewn perthynas â’i waith. Mae hyn yn cynnwys amcangyfrifon cost neu amser lle rydych chi’n dod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau.

5.5      Mae’n rhaid ichi fod yn glir ac yn dryloyw yn eich polisïau a’ch gweithdrefnau ac wrth esbonio’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny o ran sut yr ymgymerir â’ch gwaith. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi gofnodi ac esbonio:

  • sut mae eich penderfyniadau wedi cael eu gwneud
  • sut y gellir eu herio
  • y broses a ddefnyddir i ddatrys problemau

5.6      Mae’n rhaid ichi drin gwybodaeth gan y ceisydd neu’r asiant yn gyfrinachol a dim ond os bydd un neu fwy o’r canlynol yn gymwys y bydd modd ichi ei datgelu:

  • wrth erlyn neu amddiffyn achosion cyfreithiol
  • gyda chaniatâd ysgrifenedig penodol y ceisydd
  • pan fo’n ofynnol gwneud hynny yn ôl y gyfraith neu pan fyddwch wedi’ch awdurdodi i wneud hynny yn ôl y gyfraith
  • rhoi gwybod am drosedd neu dorri rheoliadau rheolaeth adeiladu

5.7      Mae’n rhaid ichi hysbysu’r ceisydd neu asiant y bydd yn ofynnol ichi o bosibl ddatgelu gwybodaeth i’r awdurdod rheoleiddio, awdurdodau lleol a rheoleiddwyr eraill.

5.8      Yn ddarostyngedig i unrhyw hawl i’w cadw tra byddwch yn aros am daliad, mae’n rhaid ichi ddarparu’r holl wybodaeth berthnasol a chopi o’i ffeil i’r ceisydd ar y gofyn. Nid yw’r safon hon yn ei gwneud yn ofynnol datgelu unrhyw wybodaeth na ellir ei datgelu’n gyfreithlon.

5.9      Rhaid i chi gofnodi a chadw pob:

  • tystiolaeth
  • cyfarwyddiadau
  • cyngor
  • barn a phenderfyniad proffesiynol

sy’n ymwneud â’r gweithgareddau gwaith a gyflawnir am 15 mlynedd o ddyddiad y cyfarwyddyd neu yn unol â’ch polisïau yswiriant, pa un bynnag sy’n hirach. 

Atodiad 1: rhwymedigaethau i’r awdurdod rheoleiddio o dan y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol hyn

1.1      Rhaid i chi gydweithredu â’r awdurdod rheoleiddio. Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth pan ofynnir amdani gan yr awdurdod rheoleiddio yn unol ag amserlenni statudol perthnasol.

1.2      Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir i’r awdurdod rheoleiddio ddangos yn glir:

  • sut mae penderfyniadau wedi cael eu gwneud
  • sut mae barn wedi cael ei penderfynu a
  • bod yn addas at ddibenion arolygu a rheoleiddio

1.3      Rhaid i chi gydymffurfio â chwmpas eich cofrestriad ac unrhyw amodau a gymhwysir i’ch cofrestriad gan yr awdurdod rheoleiddio. Gall methu â chydymffurfio arwain at yr awdurdod rheoleiddio yn cymryd camau gorfodi a gallai effeithio ar eich cofrestriad.

Rheolau cofrestru

1.4      Rhaid i chi benodi a chynnal "prif gyswllt" i’ch cynrychioli wrth ichi ddelio â’r awdurdod rheoleiddio.

1.5      Rhaid i’r prif gyswllt ar gyfer RBCA fod yn berchennog, cyfarwyddwr, partner neu gyflogai yr RBCA o lefel ac awdurdod digonol i allu cynrychioli’r RBCA wrth ddelio â’r awdurdod rheoleiddio, er enghraifft hysbysu a chysylltu ynghylch arolygu, ymchwilio a sancsiynau a chynnal ei fanylion cofrestru.

1.6      Rhaid i chi sicrhau bod eich manylion cofrestru yn cael eu cadw’n gywir a’u diweddaru gydag unrhyw newidiadau perthnasol. 

1.7      Rhaid i chi hysbysu’r awdurdod rheoleiddio yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod os bydd unrhyw newidiadau i wybodaeth sy’n berthnasol i’ch cofrestriad, gan gynnwys y canlynol, newid i’r:

  • strwythur rheoli
  • cyfarwyddwr neu bartner
  • perchnogaeth
  • prif gyswllt ar gyfer RBCA
  • cyfeiriad busnes a’ch manylion

1.8      Rhaid i chi gyflwyno cais i’r awdurdod rheoleiddio i amrywio eich cofrestriad, drwy’r broses cais am newid, os ydych chi:

  • eisiau newid eich dosbarth cofrestru a/neu gategorïau gwaith
  • ddim yn dymuno bod ar y gofrestr o RBCAau mwyach

1.9      Ni allwch drosglwyddo "cofrestriad" o un endid cyfreithiol i’r llall (er enghraifft, i gwmni gwahanol).

1.10    ’Rhaid i chi gynnal yswiriant digonol a rhoi copi o’ch tystysgrif yswiriant i’r awdurdod rheoleiddio pryd bynnag y bydd yn gofyn amdani.

1.11    ’Rhaid ichi dalu sylw dyladwy i ganllawiau a roddir gan yr awdurdod rheoleiddio.

1.12    Rhaid i chi hysbysu’r awdurdod rheoleiddio yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo modd, ac o fewn 14 diwrnod i unrhyw ymddygiad gan eich sefydliad eich hun yr ydych yn ymwybodol ohono, neu’n dod yn ymwybodol ohono, sydd o bosib yn:

  • torri’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol;
  • yn gamymddwyn proffesiynol o dan y Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (Cymru)
  • yn debygol o ddwyn anfri ar y proffesiwn rheolaeth adeiladu.
  • torri’r Rheolau Safonau Gweithredol (Cymru)

1.13   Rhaid i chi roi gwybod i’r awdurdod rheoleiddio yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ac o fewn 14 diwrnod os yw’r canlynol yn wir amdanoch chi neu bersonau perthnasol (busnes neu uwch bersonél):

  • mae llys, tribiwnlys neu awdurdod rheoleiddio yn tybio eich bod chi neu eu bod hwy wedi gweithredu’n groes i rwymedigaeth gyfreithiol neu wedi methu â chydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol wrth gynnal gwaith neu weithgareddau busnes
  • eich bod chi neu hwy yn euog o drosedd berthnasol neu drosedd o dan Ran 2A o’r Ddeddf
  • eich bod chi neu hwy yn destun erlyniad troseddol perthnasol sydd yn yr arfaeth

1.14    Rhaid i chi roi gwybod i’r awdurdod rheoleiddio yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo modd ac o fewn 14 diwrnod o achosion o amhriodoldeb ariannol yr ydych yn ymwybodol ohonynt, neu’n dod yn ymwybodol ohonynt. Er enghraifft, methu â chadw at ofynion mewn perthynas â’r canlynol:

  • atal gwyngalchu arian
  • cyllido terfysgaeth
  • atal llygredigaeth a llwgrwobrwyo
  • osgoi treth
  • gosod prisiau
  • arferion gwrth-gystadleuol
  • codi pris rhy uchel

1.15    Mae’n rhaid ichi hysbysu’r awdurdod rheoleiddio o fewn 28 diwrnod i unrhyw ganfyddiadau o gaethwasiaeth fodern, cam-drin llafur neu arferion llafur camdriniol.

1.16    Mae personau perthnasol yn cynnwys cyflogeion, y rhai sy’n ymgymryd â gwaith ar ran yr RBCA, cyfarwyddwyr neu gyflogeion cyfarwyddwyr. Rhaid i chi roi gwybod i’r awdurdod rheoleiddio yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod os ydych chi neu bersonau perthnasol (sy’n dal rheolaethau ariannol):

  • yn ymrwymo i drefniant gwirfoddol cwmni neu drefniant gwirfoddol unigol
  • yn cael eich/eu rhoi yn nwylo gweinyddwr neu eich/eu dirwyn i ben
  • yn dod yn destun gorchymyn rhyddhau o ddyled neu weinyddu
  • yn cael eich/eu datgan yn fethdalwr
  • yn cael eich/eu datgymhwyso fel cyfarwyddwr

1.17    Rhaid i chi hysbysu’r awdurdod rheoleiddio yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo modd, ac o fewn 14 diwrnod, os ydych chi neu bersonau perthnasol yn destun canfyddiadau disgyblu gan reoleiddiwr neu gorff proffesiynol arall.

1.18    Mae’n rhaid ichi hysbysu’r awdurdod rheoleiddio o fewn 14 diwrnod am unrhyw ganfyddiadau anffurfiol neu ffurfiol o gamymddwyn o dan bolisïau a gweithdrefnau ymddygiad staff eich sefydliad.

Atodiad 2: darparu gwybodaeth i ymgeiswyr neu asiantau

Er mwyn cydymffurfio â’ch rhwymedigaethau o dan safon 5, mae’n rhaid ichi roi llythyr telerau penodi sy’n cynnwys yr wybodaeth ganlynol i bob ceisydd neu asiant:

  • crynodeb clir o’r gwasanaethau y byddwch yn eu darparu
  • enw’r arolygydd cofrestredig adeiladu sy’n gyfrifol am oruchwylio neu gynnal y gwaith (nodwch a fydd hyn yn destun i newid)
  • unrhyw amodau ar eich cofrestriad, neu gofrestriad yr arolygydd cofrestredig adeiladu a fydd yn gyfrifol am oruchwylio neu gyflawni’r gwaith
  • amcangyfrif o faint o amser y bydd ei angen arnoch i gwblhau’r gwaith, neu os bydd yn cael ei wneud mewn camau, amcangyfrif o bryd y bydd y gwaith yn cael ei wneud mewn perthynas â phob cam (nodwch a fydd hyn yn destun i newid)
  • disgrifiad clir a thryloyw o’ch ffioedd a’r taliadau a godir gennych
  • manylion unrhyw ffioedd atgyfeirio perthnasol rydych yn eu talu neu’n eu derbyn
  • amcangyfrif o gyfanswm y gost am gwblhau’ch gwaith
  • disgrifiad o’r ffordd y bydd gwybodaeth y ceisydd yn cael ei defnyddio a chyfeiriad at sut y gall gael gafael ar eich polisi diogelu data
  • manylion eich polisi cwyno a sut y gall godi cwyn
  • manylion yr yswiriant perthnasol neu atebolrwydd proffesiynol a ddelir gennych chi a/neu’ch cyflogeion
  • datganiad clir bod y rhai sy’n cyflawni’r swyddogaeth rheolaeth adeiladu yn cael eu rheoleiddio gan yr awdurdod rheoleiddio

Atodiad 3: amodau cofrestru

3.1      Mae gan yr awdurdod rheoleiddio y pŵer i osod amodau ar gofrestriad RBCA o dan adran 58O o Ddeddf Adeiladu 1984.

3.2      Gellir gosod amodau wrth gofrestru, pan fydd cofrestriad yn cael ei amrywio a/neu o ganlyniad i sancsiynau a chamau gorfodi gan yr awdurdod rheoleiddio.

3.3     Gellir cymhwyso amodau i bob busnes sy’n cofrestru fel RBCA, neu i RBCA penodol yn seiliedig ar ei amgylchiadau penodol

3.4     Gall amodau, er enghraifft, gynnwys cyfyngiadau ar yr ardal ddaearyddol y gallwch weithio ynddi, gofynion i adolygu polisïau a gweithdrefnau, neu gamau gweithredu i gefnogi statws da y proffesiwn.

3.5     Bydd amodau’n cael eu cymhwyso a’u dileu yn ôl disgresiwn yr awdurdod rheoleiddio yn unig.

3.6     Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau a osodwyd gan yr awdurdod rheoleiddio ar eich cofrestriad. Gall methu â chydymffurfio ag amod arwain at yr awdurdod rheoleiddio yn cymryd camau gorfodi a gallai effeithio ar eich cofrestriad.

Atodiad 4: gweithredu o fewn cwmpas eich cofrestriad

4.1      Er mwyn cydymffurfio ag Atodiad 1 rhwymedigaeth 1.3, rhaid i chi weithredu o fewn "cwmpas eich cofrestriad". Cwmpas eich cofrestriad yw’r gwaith rheolaeth adeiladu rydych chi, fel busnes, wedi’i gofrestru i’w wneud.

4.2      Er mwyn cydymffurfio â safonau 3.1 a 3.2 o’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol, rhaid i chi sicrhau y byddwch mond yn defnyddio arolygwyr cofrestredig adeiladu sydd â’r "cwmpas cofrestru" priodol ar gyfer y gwaith rheolaeth adeiladu y byddant yn ei wneud.

4.3      Mae "cwmpas cofrestru" arolygwyr cofrestredig adeiladu yn cynnwys y dosbarth, y categorïau gwaith a’r gweithgareddau cyfyngedig y maent wedi’u cofrestru i’w gwneud, fel y’u diffinnir yn Atodiad 4 o’r Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (Cymru).

4.4      Ni all arolygwyr cofrestredig adeiladu ymgymryd â gwaith y tu allan i’w cofrestriad fel y nodir yn safon 3.3 a 3.4 o’r Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (Cymru).

4.5      Diffinnir gweithgareddau cyfyngedig yn Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024 ac fe’u diffinnir yn fras fel asesu cynlluniau ac arolygu.