Neidio i'r prif gynnwy

8.1 Sut mae’r bobl sy’n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi bod yn rhan o’i ddatblygu?

8.1.1    Drwy gydol ein hymgysylltiad helaeth â'r polisi hwn o wahanu ffynonellau, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys busnesau, sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector, y mae llawer ohonynt yn grwpiau â diddordeb ac yn gynrychiolwyr pobl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010; siaradwyr Cymraeg a grwpiau arbenigol y Gymraeg; plant a phobl ifanc; a phobl eraill a fydd yn cael eu heffeithio gan y diwygiadau hyn.

8.1.2    Mae ein hymgysylltiad hyd yn hyn yn cynnwys mwy na degawd o ymgynghori ac ymgysylltu parhaus i gyrraedd ein polisi dewisol, casglu a dadansoddi data ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid ar ddatblygu polisi gwahanu ffynonellau yn barhaus yn dyddio'n ôl i 2009 o leiaf.

8.1.3    Mae cydweithio â rhanddeiliaid wedi rhoi cyfle iddynt roi mewnbwn integredig ar y broses raddol o gyflwyno ffrydiau gwastraff penodol, safbwyntiau ar y dyddiad dod i rym a chymesuredd y drefn orfodi. 

  • Ymgynghoriad Tuag at Ddyfodol Diwastraff 2009: Nod yr ymgynghoriad hwn oedd sicrhau lefel uchel o ailgylchu a sicrhau bod yr holl ailgylchiadau yn cael eu gwahanu yn y ffynhonnell fel eu bod yn lân ac o werth uchel.
  • 2013-14 - Ymgynghoriad Papur Gwyn Bil yr Amgylchedd: yn cynnwys ymgynghoriad ar y ddyletswydd gwahanu.
  • 2019-2020 - Roedd yr ymgynghoriad Mwy nag Ailgylchu, Strategaeth Economi Gylchol Cymru: yn cynnwys yr ymrwymiad i'r diwygiadau gyda thua 40 o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb wedi'u teilwra i gynulleidfaoedd penodol ac ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol i hyrwyddo ailgylchu uwch ar safleoedd annomestig.
  • Ymgynghoriad 2019 ar Gynyddu Ailgylchu Busnes yng Nghymru: ymgynghoriad ar yr opsiwn polisi a ffefrir i gyflwyno offerynnau statudol (OSau) i gynyddu ailgylchu o safleoedd annomestig fel busnesau a'r sector cyhoeddus yng Nghymru.[7].   
  • Ymgynghoriad 2022-23 ar y Ddeddfwriaeth Ailgylchu yn y Gweithle: ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar y cynigion drafft ar gyfer y cod ymarfer a gorfodi, cyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ymgynghoriadau cyhoeddus gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws grwpiau targed. Nododd adborth o'r ymgynghoriadau gefnogaeth gadarnhaol ar gyfer cyflwyno'r rheoliadau hyn.
  • 2022-23 Consultation on the Workplace Recycling Legislation: a 12-week public consultation on the draft code of practice and enforcement proposals, face-to-face meetings and public consultations with key stakeholders across target groups. Feedback from the consultations indicated affirmative support for the introduction of these regulations.

 [7] “Ymgynghoriad – crynodeb o ymatebion.  Cynyddu ailgylchu ymhlith busnesau yng Nghymru”, Llywodraeth Cymru, 2021.

8.2 Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, cadarnhaol a negyddol?

8.2.1    Bydd y diwygiadau hyn yn cynyddu ansawdd a lefel yr ailgylchu o safleoedd annomestig yng Nghymru. Wrth wneud hynny, bydd hyn yn gam allweddol ymlaen yn ymrwymiad Cymru i gyrraedd dim gwastraff ac allyriadau carbon sero-net erbyn 2050. Mae hyn hefyd yn adlewyrchu'r ffaith, er mwyn mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, bod symud i economi gylchol - lle mae deunyddiau'n parhau i gael eu defnyddio ac osgoi gwastraff - yn hanfodol ac yn elfen bwysig o fod yn Gymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Yn unol ag amcanion Llesiant Llywodraeth Cymru [8], mae'r diwygiadau'n cefnogi yn uniongyrchol adeiladu economi wyrddach yn seiliedig ar ddiwydiannau'r dyfodol ac yn ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn. 

8.2.2    Mae economi gylchol, sy'n symud i ffwrdd o ddefnydd untro, yn lleihau ein hallyriadau, ac yn gwella gwytnwch y gadwyn gyflenwi, mae o fudd i'r economi yn ogystal â'r amgylchedd, wrth i ddeunyddiau a gesglir gael eu hailgylchu yn ôl i'r economi tra’n leihau ein dibyniaeth ar ddeunyddiau crai o dramor. Mae hyn yn ei dro yn lleihau'r niwed cysylltiedig i natur, bioamrywiaeth a'r amgylchedd yn fyd-eang a achosir gan gael a phrosesu'r deunyddiau crai. 

8.2.3    Ar gyfer busnesau a sefydliadau unigol, bydd y diwygiadau yn cefnogi'r symudiad i ffwrdd o sefyllfa lle mae gwaredu gwastraff yn gost sylweddol, i un lle mae'r deunydd gwastraff hwnnw'n cael ei ddal a'i ddychwelyd i'n heconomi yn effeithiol fel nwyddau pwysig. Ochr yn ochr â gwella effeithlonrwydd adnoddau a mynd i'r afael â chostau byw, bydd hyn hefyd yn helpu i gefnogi cynhyrchiant busnes a chystadleurwydd mewn economi ddatgarboneiddio fyd-eang.  Mae'r diwygiadau hyn yn dod â manteision drwy greu arbedion cyffredinol i economi Cymru, sicrhau prisiau uwch ar gyfer deunyddiau o ansawdd uchel a ddaliwyd, tra’n creu cyfleoedd i gael mwy o werth economaidd ychwanegol yng Nghymru a chreu swyddi ychwanegol yn yr economi gylchol – sy'n hanfodol i Gymru fwy ffyniannus a gwydn. Mae'r diwygiadau hefyd yn creu aliniad rhwng ymddygiadau ailgylchu cartrefi a busnesau, gan leihau cymhlethdod y system ar gyfer pob defnyddiwr. 

8.2.4    Drwy fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, bydd y diwygiadau hyn yn dod â manteision amgylcheddol, economaidd a iechyd pwysig i bobl yng Nghymru (Cymru iachach). Bydd pobl yn elwa o lai o allyriadau carbon sy'n effeithio ar ansawdd aer, ac mae ailgylchu wedi dod yn destun balchder cenedlaethol sy'n creu cyfleoedd i ddod â phobl at ei gilydd e.e. drwy atgyweirio ac ailddefnyddio (Cymru o gymunedau cydlynol, Cymru o ddiwylliant bywiog) a thrwy wneud hynny mae'n creu cyfleoedd i'r Gymraeg.

8.2.5    Ar gyfer dinasyddion unigol, bydd y rheoliadau yn golygu:

  • llai o ddryswch a mwy o gysondeb o ran beth a sut maen nhw'n ailgylchu. Mewn perthynas ag ailgylchu yn y gweithle, bydd hyn i raddau helaeth yr un fath â beth maent yn ei wneud gartref;
  • mwy o hunanfoddhad / reolaeth dros eu hymdrechion i fynd i'r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd; 
  • mwy o empathi tuag at eu cyflogwyr yn gwneud eu rhan. 

[8]   Rhaglen lywodraethu 2021 I 2026.  Datganiad llesiant”.

8.3 Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut fydd y cynnig yn:

  • gwneud y cyfraniad mwyaf posibl i'n hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant;  a/neu,
  • osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

8.3.1    Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rôl weithredol yn hyrwyddo bioamrywiaeth, hawliau plant, cydraddoldeb a'r Gymraeg gyda'r diwygiadau hyn.

8.3.2    Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £1 biliwn mewn ailgylchu cartrefi, sydd wedi trawsnewid Cymru o genedl a oedd yn ailgylchu llai na 5% o'i gwastraff trefol i dros 65% yn 2021-22 ac sydd eisoes yn cyfrannu arbedion o tua 400,000 tunnell o allyriadau CO2 y flwyddyn. Mae'r rheoliadau hyn yn hyrwyddo'r newid i economi gylchol, gan leihau cloddio am adnoddau a chyfyngu ar gynhyrchu gwastraff, sy'n helpu i gyflymu datgarboneiddio a llai o golledion o ran bioamrywiaeth. Mae gweithredu parhaus yn y maes hwn yn hanfodol i'n hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur, gan gefnogi'r nod o'i gynnwys ym mhopeth a wnawn, wrth helpu i adeiladu economi gryfach, wyrddach wrth inni wneud cynnydd tuag at sero net a dim gwastraff, gan greu Cymru werdd a llewyrchus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

8.3.3    Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau i weithredu arferion gorau cynaliadwy trwy Busnes Cymru, Bwyd a Diod Cymru, WRAP Cymru a'r Bartneriaeth Bioamrywiaeth, ac mae'n datblygu canllawiau penodol i'r sector ar weithredu'r diwygiadau hyn gyda WRAP. Bydd amrywiaeth o offer cymorth yn cael eu datblygu i helpu busnesau a sefydliadau i weithredu'r newidiadau, megis astudiaethau achos arfer gorau, canllawiau ac arwyddion ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho. Er mwyn lliniaru cynnydd posibl yn y defnydd o gerbydau diesel yn y sector gwastraff, gan nad yw bob amser yn bosibl casglu gwastraff sawl ffrwd ar yr un pryd, gan arwain at fwy o deithiau, mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo gyda'r newid i gerbydau mwy gwyrdd gyda grantiau i awdurdodau lleol ar gyfer cerbydau casglu trydan a seilwaith gwefru. [9]   At hynny, caiff effaith negyddol unrhyw ehangu ar gyfleusterau rheoli gwastraff presennol neu gyfleusterau newydd eu lliniaru a mwy drwy arbed allyriadau o ddefnyddio deunydd wedi'i ailgylchu yn lle deunyddiau crai. 

8.3.4    Nid oes unrhyw effeithiau negyddol sylweddol ar ddyletswyddau cydraddoldeb statudol Llywodraeth Cymru yn y sector cyhoeddus a bydd gweithredu'r rheoliadau yn cydymffurfio'n llawn â Deddf Cydraddoldeb 2010, gyda darparu canllawiau a deunyddiau mewn fformatau hygyrch a thargedu gwahanol ieithoedd. Bydd yr holl ddeddfwriaeth, gohebiaeth a chyhoeddusrwydd hefyd yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'r diwygiadau'n cyfrannu tuag at Gymru fwy cyfartal wrth iddynt sicrhau camau cadarnhaol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd y rhagwelir y bydd yn taro'r cymunedau mwyaf agored i niwed galetaf a bydd hefyd yn creu amgylchedd glanach, gwyrddach a mwy cynaliadwy gyda swyddi a buddsoddiad cysylltiedig yn yr economi gylchol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i leihau'r effaith ar gostau microfusnesau, sef yr unig fusnesau y rhagwelir y byddant yn wynebu cynnydd bach mewn costau,  [10]   drwy gymell casglu gwastraff cartref ac annomestig ar y cyd.  Mae disgwyl i bob busnes arall wneud arbedion. 

8.3.5    Daw'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd i'r casgliad y bydd dull yr economi gylchol, (sy'n sail i'r rheoliadau) yn gyffredinol, yn cael effaith gadarnhaol ar benderfynyddion ehangach iechyd a lles y boblogaeth gyffredinol. Yn benodol, drwy allyriadau is o C02 a N02 a lliniaru effaith newid yn yr hinsawdd, sy'n niweidiol yn anghymesur i rai grwpiau.

8.3.6    Mae plant a phobl ifanc yn rhanddeiliaid y mae'r diwygiadau hyn yn effeithio'n uniongyrchol arnynt ac a fydd yn gweld llawer o fudd. Rydym am ddefnyddio angerdd a brwdfrydedd ein pobl ifanc, gan ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael inni fel ein rhaglenni addysg amgylcheddol, er mwyn sicrhau ein bod yn cynnwys plant a phobl ifanc yn gynnar wrth inni ystyried pethau yn y dyfodol gan ddylanwadu ar newid ymddygiad yn gadarnhaol a meddwl yn greadigol ymhlith ein cenhedlaeth nesaf. 

8.3.7    Byddwn yn darparu'r offer i alluogi gweithredu cymunedol. Mae hyn yn cynnwys offer cymorth i helpu i weithredu'r newidiadau, megis astudiaethau achos arfer gorau, canllawiau, arwyddion y gellir eu lawrlwytho, arwyddion a phosteri biniau, gweminarau ar-lein, ac adnoddau eraill. Drwy gefnogi camau gweithredu lleol, bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr ar y cyd.  Byddwn yn ymgysylltu â'n hysgolion a'n cymunedau, gan weithio gyda dinasyddion i gefnogi mentrau lleol a chamau gweithredu effeithlon o ran adnoddau. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i hyrwyddo caffael daliedyddion gyda chynnwys wedi'i ailgylchu ar gyfer y sector cyhoeddus. Un o brif flaenoriaethau'r cytundeb hwn yw cynyddu cynnwys polythen wedi'i ailgylchu o fewn y cynhyrchion a gyflenwir. Bydd y dull hwn yn caniatáu i sefydliadau sy'n cymryd rhan wneud penderfyniad sy'n cyd-fynd â'u strategaeth amgylcheddol a masnachol. 

[9]  Y gronfa trafnidiaeth leol, y gronfa ffyrdd cydnerth a’r gronfa trawsnewid cerbydau allyriadau isel iawn: canllawiau i ymgeiswyr 2023 i 2024.
[10]   Asesiad Effaith Rheoleiddiol, Llywodraeth Cymru, 2023, Tabl 22

8.4 Sut fydd effaith y cynnig yn cael ei fonitro a'i werthuso wrth iddo fynd rhagddo a phryd fydd yn dod i ben?

8.4.1    Bydd canlyniadau gweithredu'r rheoliad yn cael eu monitro gyda chyfuniad o ddulliau meintiol ac ansoddol, yn dibynnu ar natur y canlyniad ac argaeledd ffynhonnell ddata briodol. Unwaith y bydd y system olrhain gwastraff yn cael ei gweithredu, o 2025 ymlaen, bydd yn cael ei defnyddio fel ffynhonnell ddata sylfaenol i olrhain lefelau ailgylchu ar gyfer gwastraff diwydiannol a masnachol yng Nghymru, gan y bydd yn darparu gwybodaeth sy'n caniatáu mesur faint o wastraff a anfonir ar gyfer ailgylchu, tirlenwi, neu losgi, a lle caiff ei waredu. 

8.4.2    Hefyd, mae nifer o ffynonellau data eraill gaiff eu defnyddio yn y cyfamser yn cynnwys: WasteDataFlow, arolygon gwastraff ac ailgylchu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ynghyd â data 'dychwelyd i’r safle' CNC. 

8.4.3    Bydd y canlyniadau'n ymwneud â gwaredu llai o wastraff bwyd i garthffos yn cael eu monitro yn ystod yr arolygiadau a gynhaliwyd gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Awdurdodau Lleol, a fydd yn adrodd ar y safle sy'n gwaredu gwastraff bwyd i garthffos. 

8.4.4    Bydd Llywodraeth Cymru yn archwilio'r angen am arolygon penodol wedi’u comisiynu i fonitro ymhellach y graddau o gydymffurfiaeth ac unrhyw rwystrau posibl i weithredu'r cynigion yn llwyddiannus neu ychwanegu cwestiynau sy'n benodol i reoliad i'r arolygon busnes sydd eisoes wedi'u cynllunio yn y dyfodol. At hynny, bydd data ansoddol a gasglwyd yn ystod arolygiadau CNC, yr ALl a Chymru o safleoedd annomestig a threfnwyr gwastraff yn darparu gwybodaeth bellach am effeithiau'r rheoliadau ar fusnesau.