Cyfarfod y Cabinet: 25 Medi 2023
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 25 Medi 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Vaughan Gething AS
- Lesley Griffiths AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Eluned Morgan AS
- Mick Antoniw AS
- Hannah Blythyn AS
- Dawn Bowden AS
- Julie Morgan AS
- Lynne Neagle AS
- Lee Waters AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Rory Powell, Pennaeth Swyddfa'r Prif Weinidog
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
- Kathryn Hallett, Swyddfa'r Prif Weinidog
- Helena Bird, Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol
- Helen Lentle, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
- Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
- Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
- Nick Wood, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Duncan Hamer, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Busnes a Rhanbarthau (eitem 3)
- Mike Bacigalupo, Pennaeth Datblygu ac Arloesi (eitem 3)
- Steffan Bryn, Cynghorydd Arbennig (eitemau 3 a 4)
- Sarah Rhodes, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai (eitem 4)
- Hannah Fisher, Pennaeth Deddfwriaeth Atal Digartrefedd (eitem 4)
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi.
Eitem 2: Busnes y Senedd
2.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi nad oedd amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer dydd Mawrth ac roedd disgwyl i'r amser pleidleisio ddigwydd tua 6pm ddydd Mercher.
Eitem 3: Cynllun Cyflawni’r Strategaeth Arloesi CAB(23-24) 05
3.1 Cyflwynodd Gweinidog yr Economi y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo Cynllun Cyflawni'r Strategaeth Arloesi newydd, ac y dylid ei gyhoeddi yn ystod yr wythnos yn dechrau 16 Hydref.
3.2 Roedd y Cynllun Cyflawni yn dilyn cyhoeddi Cymru'n Arloesi, sy'n disgrifio gweledigaeth ar gyfer diwylliant arloesi bywiog a fydd yn creu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach. Er mwyn gwireddu hyn, nododd genadaethau mewn pedwar maes allweddol yn y gymdeithas: Addysg, yr Economi, Iechyd a Llesiant; a'r Hinsawdd a Natur.
3.3 Roedd y Cynllun Cyflawni wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â Phlaid Cymru, fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio, a bu’n destun ymgysylltu cyhoeddus helaeth â rhanddeiliaid i brofi'r syniadau fel rhan o'r broses o ddatblygu'r strategaeth. Roedd yn cynnwys manylion ar gyfer pob cenhadaeth o ran y nodau, y camau gweithredu, y cerrig milltir a'r mesuriadau perthnasol, ynghyd â chamau gweithredu penodol, yr oedd y Llywodraeth am eu gweithredu dros y tymor canolig a'r tymor hirach.
3.4 Y bwriad oedd llunio dogfen fyw a deinamig, a fyddai â digon o hyblygrwydd i ymateb i dirwedd wleidyddol, economaidd a chyllidebol heriol. Byddai hefyd yn nodi cyfleoedd gwahanol a gwell mewn amgylchedd ariannu sy'n newid yn gyflym, yn enwedig mynediad at gyllidebau'r DU, fel y Gronfa Ffyniant Bro, yn sgil colli cyllid gan yr UE.
3.5 Byddai'n bwysig dod ag arweinwyr arloesi at ei gilydd i gydweithio ar draws y Llywodraeth a meysydd polisi. Yn ogystal, byddai gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ac yn benodol ei Is-bwyllgor Ymchwil ac Arloesi, gyfraniad allweddol i'w wneud i'r gwaith cyflawni, o ystyried ei rôl arweiniol o ran hyrwyddo arloesedd yng Nghymru.
Eitem 4: Papur Gwyn: Rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru CAB(23-24)06
4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno ar y Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, gan ei gyhoeddi ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd ar 10 Hydref.
4.2 Roedd cynnwys y Papur Gwyn wedi'i seilio ar adborth gan arbenigwyr a rhanddeiliaid, megis Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, ynghyd ag adborth o brofiad bywyd dros 350 o bobl a oedd wedi cael y profiad o fod yn ddigartref, gan gynnwys pobl â nodweddion gwarchodedig, pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a'r rheini yn yr ystâd ddiogel.
4.3 Roedd hefyd yn adeiladu ar y trafodaethau blaenorol yn y Cabinet ar y dull gweithredu ar gyfer ymdrin â digartrefedd, lle cytunwyd i ddod â'r strategaeth ddigartrefedd i ben yn 2019, a oedd yn gosod digartrefedd yn gadarn fel mater y gwasanaeth cyhoeddus cyfan, a chytuno yn 2020 i adeiladu ar y dull gweithredu sy'n seiliedig ar sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael heb gymorth a galluogi gwaith ehangach ar ddiwygio deddfwriaethol. Ar ben hynny, byddai'r cynigion o fewn y Papur Gwyn yn parhau â'r newidiadau sylweddol mewn arferion a weithredwyd mewn ymateb i'r pandemig.
4.4 Roedd diwygio'r gyfraith ar ddigartrefedd yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu ac yn rhan o'r cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.
4.5 Byddai'r pecyn o ddiwygiadau yn y Papur Gwyn yn helpu'r Llywodraeth i symud tuag at y nod strategol allweddol o ran gwneud digartrefedd yn gyflwr prin a byrhoedlog na fyddai'n cael ei ailadrodd, gyda'r gwasanaethau a ddarperir yn ystyriol o drawma ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Roedd y diwygiadau yn eang eu cwmpas ac yn ceisio newid y system digartrefedd gyfan. Byddent hefyd yn helpu i gyflawni polisi cydnabyddedig y Llywodraeth na ellid atal digartrefedd drwy dai yn unig, ac y byddai gan bob gwasanaeth cyhoeddus a'r trydydd sector rôl i'w chwarae yn yr ymgyrch i ddod ag ef i ben.
4.6 Mae'r Papur Gwyn yn disgrifio'r weledigaeth ar gyfer darparu gwasanaethau digartrefedd yn y dyfodol, pan fyddai'r rhan fwyaf o ddigartrefedd yn cael ei atal cyn iddo ddigwydd, gyda gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i helpu pobl i aros yn eu cartrefi. Felly, roedd yn hanfodol gweithio gyda phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus i brofi a chwmpasu'r diwygiadau arfaethedig. Fodd bynnag, byddai'n cymryd peth amser i'w mireinio a'u gweithredu, ond roedd hyder y byddai'r camau hyn yn darparu rhan o'r ateb hirdymor i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.
4.7 Roedd Gweinidogion yn ymwybodol o'r pwysau presennol yn y system dai a maint y broblem digartrefedd yng Nghymru, felly er mwyn symud i ffwrdd o ymateb argyfwng drud a pharhaus, roedd angen diwygio mewn modd a fyddai’n sicrhau bod y system yn addas ar gyfer y dyfodol.
4.8 Roedd y cynigion yn y Papur Gwyn yn nodi dull gweithredu a fyddai'n cynnal yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn gan ddarparu atebion tymor hir. Nid oedd yn becyn o ddiwygiadau a oedd yn darparu ateb cyflym, ond pecyn a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth arbenigwyr a fyddai'n trawsnewid y system ddigartrefedd. Er ei bod yn cael ei chydnabod bod y cyd-destun presennol yn heriol, dyma gam nesaf y strategaeth gyffredinol.
4.9 Roedd yn bwysig peidio â chyfyngu ar uchelgeisiau ar gyfer dyfodol Cymru a gosod cynlluniau ar waith i sicrhau atebion tymor hirach. Byddai angen buddsoddi i ddarparu'r pecyn o ddiwygiadau yn y Papur Gwyn, ond nid oedd modd mesur maint hynny ar hyn o bryd. Dangosodd ymchwil y byddai unrhyw fuddsoddiad yn cael ei wrthbwyso gan arbedion hirdymor, ac y byddai'r arbedion hyn yn digwydd ar draws y sector cyhoeddus, yn enwedig o fewn iechyd a'r system cyfiawnder troseddol.
4.10 Byddai'r gwaith o fodelu costau yn cael ei gomisiynu yn ystod cam nesaf y gwaith er mwyn cael y data diweddaraf ac asesiad cadarn o'r buddsoddiad i achub cyfleoedd, a fyddai'n cael eu nodi yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol terfynol cyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth. Byddai'r ymarfer ymgynghori hefyd yn helpu gyda'r asesiad.
4.11 Roedd y cynigion yn y Papur Gwyn yn creu cyfle i atal yr anfantais ehangach, y trawma, a'r aflonyddwch a achosir gan ddigartrefedd. Gellid gwella llesiant a chyfleoedd bywyd i unigolion, gan leihau'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â digartrefedd yn sylweddol. Byddai'r holl gamau hyn yn helpu i gyflawni'r nod o greu Cymru fwy cyfartal.
4.12 Ar ben hynny, roedd y diwygiadau yn gyfle pwysig i gynnig buddion sylweddol a hirdymor i bobl a theuluoedd ledled Cymru ac yn y tymor hirach i leihau'r baich ar wasanaethau cyhoeddus, a darparu atebion ymarferol i'r rheini sy'n gweithio y tu allan i'r sector tai er mwyn iddynt allu ymateb i ddigartrefedd ymhlith eu defnyddwyr gwasanaeth hwy eu hunain.
4.13 Croesawodd y Cabinet y papur, gan gofnodi ei ddiolch i'r swyddogion polisi a ddatblygodd y Papur Gwyn.
4.14 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Medi 2023
