Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn y Cwestiynau Busnes ar 30 Ionawr, rwy'n rhoi'r datganiad hwn mewn perthynas â chau'r cyfleuster triniaeth preswyl ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog yn Audley Court yn ogystal â rhoi gwybodaeth am y ddarpariaeth amgen sydd ar gael yng Nghymru.

Yr elusen Combat Stress sy'n rhedeg Canolfan Audley Court yn Newport, Swydd Amwythig. Mae'r elusen wedi penderfynu na fydd bellach yn darparu ei rhaglen driniaeth ddwys breswyl arbenigol i gyn-filwyr sy'n dioddef o salwch meddwl, gan gynnwys anhwylder straen wedi trawma, o Ganolfan Audley Court lle cafodd wyth o gyn-filwyr o Gymru gymorth yn 2016. Yn hytrach, bydd Audley Court yn ganolfan ar gyfer cydlynu nifer o raglenni amhreswyl a gwasanaethau i gleifion allanol.

Mae'r elusen Combat Stress wedi dod i'r penderfyniad hwn yn seiliedig ar ei strategaeth bum mlynedd newydd i drawsnewid ei gwasanaethau, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â chyflogeion a chyn-filwyr. Bydd Combat Stress yn parhau i ddarparu rhaglenni preswyl arbenigol yn Ayrshire a Surrey. Rhwng 2012 a 2015, rhoddodd Llywodraeth Cymru grant o £42,000 i Combat Stress. Mae’r elusen wedi penderfynu peidio â chyflwyno unrhyw geisiadau dilynol am gyllid ychwanegol. Nid oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw ran yn y penderfyniad ynghylch Audley Court gan mai penderfyniad mewnol i'r elusen ydoedd.

Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y posibilrwydd o sefydlu cyfleuster preswyl i gyn-filwyr yng Nghymru, ac yn 2013 comisiynwyd adroddiad annibynnol gennym i'r achos dros gyfleuster o'r fath. Daethpwyd i'r casgliad nad oedd modd dweud bod y galw a’r angen anghenrheidiol yn bodoli i gynnal cyfleuster o’r fath. Cefnogwyd y canfyddiadau hyn gan ystod o sefydliadau sy'n gweithio gyda chyn-filwyr.

Mae hyn yn ategu canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) sy'n nodi'n glir bod y dystiolaeth yn awgrymu y dylid darparu therapi seicolegol sy’n canolbwyntio ar drawma ar gyfer anhwylder straen wedi trawma yn y gymuned, yn agos at gartref yr unigolyn.

Er bod modd asesu, trin a rheoli cyfran helaeth o broblemau iechyd drwy wasanaethau iechyd meddwl eilaidd cyffredinol, mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn darparu cymorth ychwanegol i ofalu'n benodol amdanynt. Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) sy’n gwneud hyn gyda chyllid blynyddol o  £685,000 gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys buddsoddiad o £100,000 yn ychwanegol yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Tachwedd 2017. Dyma'r gwasanaeth cenedlaethol seiliedig ar dystiolaeth cyntaf i gyn-filwyr yn y DU.

Mae pob bwrdd iechyd wedi penodi clinigwyr iechyd meddwl profiadol sydd â diddordeb mewn problemau iechyd y lluoedd arfog, neu sydd â phrofiad yn y maes, i weithio fel therapyddion sy'n cynnig ystod o therapïau seicolegol seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi’u cymeradwyo gan NICE ar gyfer amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl. Mae'r gwasanaeth hefyd wedi sefydlu llwybr gofal integredig, sy'n dwyn ynghyd y sectorau statudol ac anstatudol, gan gynnwys Combat Stress, ac sy'n un pwynt cyfeirio unigol iddynt. Mae hyn yn galluogi GIG Cymru i Gyn-filwyr gyfeirio cyn-filwyr a'u teuluoedd at gymorth arall sydd ei angen arnynt, gan gynnwys cymorth i gymheiriaid, mentora a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Yn y cyfnod ers ei lansio ym mis Ebrill 2010 hyd at fis Ionawr 2018, mae'r gwasanaeth hwn wedi cefnogi dros 3000 o gyn-filwyr.

Mae ein dyled ni'n fawr i'n cyn-filwyr ac mae dyletswydd arnom i ofalu amdanynt, yn enwedig pan fyddant yn datblygu problemau iechyd o ganlyniad i'w cyfnod yn y lluoedd arfog. Dyna pam mae Symud Cymru Ymlaen, ein cynllun strategol pum mlynedd sy'n amlinellu'r hyn rydym am ei gyflawni rhwng 2016 a 2021, yn cynnwys ymrwymiad penodol i ddiwallu anghenion gofal iechyd ein cyn-filwyr. Yn ogystal â hynny, mae diwallu anghenion iechyd meddwl ein holl ddinasyddion yn faes â blaenoriaeth yn y strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb.