Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn fy natganiad ar 11 Mai, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am y broblem a oedd yn effeithio ar y rhaglen sgrinio’r fron yn Lloegr. Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adolygu rhaglen sgrinio Bron Brawf Cymru ac wedi canfod nad  oedd yr un diffygion yn bodoli yn y rhaglen yng Nghymru. 

Mae Bron Brawf Cymru wedi manteisio ar y cyfle i osod mesurau pellach yn eu lle i sicrhau bod menywod yn parhau i gael gwahoddiad i gael eu sgrinio yn unol â'n cynnig yng Nghymru. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn adolygu rhaglenni sgrinio canser eraill yn yr un modd â Bron Brawf Cymru er mwyn sicrhau bod eu systemau yn gadarn.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddatganiad ysgrifenedig arall ar 4 Mehefin a oedd yn manylu ynghylch nifer y menywod sy’n byw yng Nghymru ac sy’n cael eu heffeithio gan y broblem yn rhaglen Lloegr. Ysgrifennodd Public Health England at 94 o drigolion Cymru a oedd yn arfer byw yn Lloegr ac a fethodd eu sgriniad olaf pan oeddent yn rhan o raglen Lloegr. Cysylltwyd â 183 o fenywod eraill yng Nghymru am eu bod wedi cofrestru â meddyg teulu yn Lloegr ac wedi cymryd rhan yn rhaglen sgrinio Lloegr.  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Public Health England wedi bod yn cydweithio'n agos i gysylltu â'r holl fenywod a gafodd eu heffeithio er mwyn cynnig sgrinio neu eu gwahodd i ystyried hunan-atgyfeirio.

Nod sgrinio’r fron yw canfod canser y fron yn gynnar. Yn 2016-17, canfuwyd cyfanswm o 1,185 achos o ganser yn y 123,000 o fenywod a gafodd eu sgrinio ar gyfer canser y fron.

Hoffwn bwysleisio unwaith eto bod gennym raglenni sgrinio ardderchog yng Nghymru, sy’n sicr yn achub bywydau. Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i fanteisio ar y cynnig i gael eu sgrinio pan ddaw gwahoddiad.