Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021



Byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda'm cydweithwyr yn y Cabinet, sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau'r fargen orau bosib i bobl Cymru.  

Rwy'n annog yr Aelodau i ystyried y manylion pellach hyn wrth ochr fy natganiad heddiw.  

   http://amrcw.org.uk/portfolio/brexit-and-the-implications-for-healthcare-in-wales-2/# 

Bydd yr Aelodau heddiw wedi derbyn papur Fforwm Polisi Conffederasiwn GIG Cymru, ‘The key issues for health and social care organisations as the UK prepares to leave the European Union’. Mae Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru hefyd wedi edrych ar y peryglon yn sgil Brexit, ac mae'r gwaith i'w weld ar eu gwefan:

• Eglurder ar unwaith ynghylch trefniadau gofal iechyd cyfatebol i ddinasyddion yr UE sy'n gweithio neu'n ymweld â'r DU, ac yn yr un modd i ddinasyddion y DU yn Ewrop.

• Parhau i ymwneud â Chytuniad Euratom er mwyn sicrhau bod cleifion Cymru'n cael mynediad cyson ac amserol at radioisotopau ar gyfer triniaeth ganser

• Parhau i gydweithio'n agos ar fonitro clefydau, cynnal safonau amgylcheddol ac iechyd a mesurau i hyrwyddo iechyd y cyhoedd.

• Cydweithrediad agos rhwng Asiantaethau Meddyginiaethau Ewrop a'r DU er mwyn atal unrhyw oedi cyn i gleifion gael mynediad at feddyginiaethau a dyfeisiau meddygol newydd

• Parhau i gydnabod cymwysterau proffesiynol er mwyn sicrhau diogelwch cleifion a galluogi ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i lenwi bylchau yn y gweithlu yn gyflym

• Parhau i gael mynediad at raglenni cyllid allweddol yr UE a chydweithio ar ymchwil ac arloesi

• Sicrwydd y bydd staff iechyd a gofal cymdeithasol o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd sy'n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael aros yn y DU, gyda'r un hawliau yn cael eu hymestyn i ddinasyddion y DU sy'n gweithio yng ngwledydd eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd

• System fewnfudo hyblyg sy'n ymateb i'r sectorau iechyd, ymchwil feddygol a gofal cymdeithasol

Gyda dim ond naw mis i fynd cyn i'r DU ymadael â'r UE, bydd unrhyw setliad a negodir yn annerbyniol i Lywodraeth Cymru oni bai ei fod yn cynnig sicrwydd ac eglurder ar y materion sylfaenol canlynol lle mae Brexit yn fygythiad i iechyd a llesiant pobl Cymru yn y dyfodol:

Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar y mater hwn yn hwyrach heddiw. I ategu'r datganiad hwnnw, rwyf am dynnu sylw'r Aelodau at ddadansoddiad manylach o'r peryglon posibl y mae Brexit yn eu cyflwyno i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod y prif beryglon yn ymwneud â'r gweithlu, masnach a mynediad at feddyginiaethau, brechlynnau a dyfeisiau meddygol, radioisotopau, diogelwch bwyd a diogelu defnyddwyr, rheoli clefydau heintus ac ymchwil.