Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw Rhan 5 (Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff) o Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 i rym heddiw.

Mae cychwyniad y darpariaethau hyn yn gwahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plant a phobl ifanc dan 18 oed yng Nghymru. Hefyd, mae bellach yn drosedd trefnu i gyflawni triniaeth o’r fath ar rywun dan 18 oed yng Nghymru. Mae deg rhan bersonol o’r corff wedi’u nodi yn y Ddeddf gan gynnwys tethi, bronnau, organau cenhedlu, ffolennau a thafod, ac mae hyn yn berthnasol i bob rhyw.

Ni fydd person dan 18 oed yn gallu rhoi caniatâd i roi twll mewn rhan bersonol o’r corff, ac nid yw rhiant neu warcheidwad yn gallu rhoi caniatâd i roi twll mewn rhan bersonol ar ran person ifanc.

Y nod yw gwarchod plant a phobl ifanc rhag y niwed posibl i’w hiechyd a all gael ei achosi wrth roi twll mewn rhan bersonol o’r corff, ac osgoi amgylchiadau lle rhoddir plant a phobl ifanc mewn sefyllfa lle gallent fod yn agored i niwed. Nod y darpariaethau hyn yw lleihau’r achosion o gymhlethdodau sy’n gysylltiedig â thyllu rhannau personol o’r corff (gan gynnwys heintiau ac anafiadau) ymhlith pobl ifanc pan fo’u cyrff heb orffen aeddfedu, ac sydd o bosibl yn llai abl i gyflawni’r gofynion ôl-ofal.

Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer y canlynol:

  • yng Nghymru, mae rhywun sy’n gwneud trefniadau neu sy’n mynd ati i roi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan 18 oed yn cyflawni trosedd. Felly mae gwneud trefniadau penodol i gyflawni’r weithred o dyllu person heb fod unrhyw dyllu wedi digwydd yn ddigon i olygu bod trosedd wedi’i chyflawni.  
  • mae’n amddiffyniad os yw’r ymarferydd wedi credu bod y person yn 18 oed neu’n hŷn a’i fod wedi cymryd camau rhesymol i sefydlu faint yw ei oed, neu na allai neb fod wedi amau o olwg y person ei fod o dan 18 oed. Hefyd, mae amddiffyniad ‘diwydrwydd dyladwy’ i berson sydd wedi’i gyhuddo o drosedd yn rhinwedd camau a gymrwyd gan rywun arall.
  • mae’n amddiffyniad os gall y person a gyhuddwyd o’r troseddau hyn ddangos iddo gymryd pob cam rhesymol a gweithredu diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd, er enghraifft rhoi hyfforddiant i’w staff neu roi systemau ar waith i osgoi cyflawni’r drosedd.
  • mae’n ddyletswydd ar awdurdodau lleol i gyflawni camau gorfodi mewn perthynas â’r darpariaethau, gan gynnwys gwneud erlyniadau, ymchwilio i gwynion a chymryd camau eraill. 
  • rhaid i awdurdodau lleol ystyried, o leiaf unwaith bob 12 mis, i ba raddau mae’n briodol iddynt gyflawni rhaglen o gamau gorfodi yn eu hardal i atal tyllu rhannau personol o gorff pobl dan 18 oed, a rhaid i awdurdodau lleol benodi ‘swyddogion awdurdodedig’ i gyflawni’r dibenion hyn. 
  • wrth gyflawni rhaglen o gamau gorfodi, rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu a gall yntau gynorthwyo awdurdodau lleol i orfodi’r darpariaethau.
  • darperir pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig awdurdodau lleol a’r Heddlu, er y bydd angen gwarant gan Ynad Heddwch er mwyn cael mynediad i leoliad sydd hefyd yn dŷ annedd heb gael caniatâd y meddiannydd. Unwaith y bydd y swyddog neu’r aelod o’r heddlu wedi cael mynediad, gall gynnal archwiliad o’r safle a chael copïau o gofnodion megis teledu cylch cyfyng neu ddogfennau caniatâd.
  • ynghyd â phwerau mynediad mae trosedd gysylltiedig o rwystro swyddog rhag gweithredu ei bwerau a chamau diogelu mewn perthynas â defnyddio pwerau mynediad ac archwilio trwy ddarparu mecanwaith i apelio yn erbyn mynd ag eiddo i ffwrdd, a gwneud cais am iawndal dan rai amgylchiadau. 

Mae darpariaethau llawn Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 ar gael yma:

http://www.legislation.gov.uk/anaw/2017/2/contents/enacted/welsh